Agenda item

CAIS I AMRYWIO TRWYDDED EIDDO  - BELLE VUE, BANGOR, LL57 2EU

 

Ystyried y cais uchod

Cofnod:

CAIS AM AMRYWIAD TRWYDDED EIDDO – BELLE VUE, FFORDD CAERGYBI, BANGOR

 

Ar ran yr eiddo:         Mr Christopher Jere, Bethany Shooman

 

Aelod Lleol:   Cyng. June Marshall

 

Eraill a fynychwyd:    Mr Ian Williams ( Heddlu Gogledd Cymru), Mrs Arfona Davies (Cymdeithas Bangor Uchaf / Preswylydd Lleol)

 

 

Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu.

 

a)         Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais Mr Christopher Jere am drwydded eiddo ar gyfer Belle Vue, Ffordd Caergybi, Bangor. Yn unol â’r ffurflen gais, natur yr amrywiad arfaethedig oedd ymestyn ardal trwyddedadwy yr eiddo i gynnwys yr adeiladau allanol yn yr ardd gwrw i weithredu fel bar a bod yr  oriau cyflenwi alcohol yn yr ardd gwrw yr un fath a’r tŷ tafarn.  Yn ychwanegol bwriedid gostwng oriau agor y sefydliad o 08:00 - 01:30 dydd Llun i ddydd Sul i 09:00 - 01:30 dydd Llun i ddydd Sul.

 

Cyfeiriwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar  amcan trwyddedu fel rhan o’i gais.

 

Yn dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd bod sylwadau oddi wrth Heddlu Gogledd Cymru yn nodi  nad oeddynt yn gwrthwynebu’r cais ond yn dymuno bod y teledu cylch cyfyng (TCC) sydd wedi ei osod ar yr eiddo yn destun i amodau penodol TCC.  Derbyniwyd un gwrthwynebiad i’r cais oddi wrth breswylydd lleol lle awgrymwyd nad oedd yr ymgeisydd wedi hysbysebu y cais mewn man amlwg ar yr eiddo ac yn seiliedig ar yr amcanion trwyddedu o Diogelwch y Cyhoedd ac Atal Niwsans Cyhoeddus.  Ategwyd bod Swyddog Gorfodaeth yr Uned Trwyddedu wedi ymweld â’r eiddo ar 7 Gorffennaf 2015 i wirio bod yr hysbyseb wedi ei arddangos yn unol â’r rheoliadau.  Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn fodlon bod yr hysbysebion yn cwrdd â’r rheoliadau. 

 

b)         Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

 

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.

·         Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·         Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·         Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai.

 

c)         Mewn ymateb i’r adroddiad gofynnwyd i’r Rheolwr Trwyddedu beth oedd diffiniad ‘gardd  gwrw’? Nodwyd bod yr ardd gwrw yn rhan o’r eiddo ac o fewn y ffin ac wedi ei gynnwys yn y drwydded gyfredol, ond bod y cais yn ymwneud â defnyddio’r adeilad yn yr ardd i werthu cwrw. O ran defnydd o ardal ysmygu nodwyd bod deddfwriaeth arall ar gyfer hyn. Yn ychwanegol, cadarnhawyd bod yr ymgeisydd wedi dangos hysbyseb ar yr eiddo am y cyfnod priodol o 28 diwrnod.

 

ch)    Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno a chadarnhaodd bod TCC o fewn yr adeilad wedi ei osod yn unol â gofynion yr  Heddlu ac yn weithredol. Nodwyd mai cais ydoedd i ffurfioli'r defnydd o’r adeilad tu allan er mwyn gwerthu alcohol, yn hytrach na gorfod gwneud cais am drwydded dros dro i gynnal digwyddiadau.

 

d)         Yn dilyn ymweliad safle, holiwyd yr ymgeisydd beth oedd ei fwriad i reoli'r giât yng nghefn yr  eiddo. Nododd yr ymgeisydd, na fydd y giât ar agor, dim ond mewn argyfwng, ond ni ellir ei chloi. TCC bellach wedi ei osod tu allan ac felly bydd modd cadw llygad ar y giât. Nodwyd hefyd, petai y cais yn cael ei ganiatáu, bydd hyn yn galluogi i aelod o staff fod allan yn yr ardd i gadw llygad ar y giât. Ychwanegwyd bod y maes parcio yn cloi am 6:30pm.

 

Mewn ymateb i bryder bod pobl yn mynd allan i flaen yr adeilad i ysmygu ac yfed, nododd yr ymgeisydd bod TCC wedi ei osod wrth y bar er mwyn monitro hyn. Nododd ei fod yn barod iawn i wella’r sefyllfa yma, a’r gobaith yw, os byddai’r bar yn yr ardd yn cael ei ganiatáu, y gobaith yw annog pobl i ddefnyddio’r ardd yn hytrach na blaen yr adeilad.

 

dd)  Mewn ymateb i’r cais nododd Mr Ian Williams ar ran yr Heddlu nad oedd llawer o   dystiolaeth gan yr Heddlu i wrthod y cais. Ategwyd bod  y Belle Vue wedi   gwneud 10 cais am drwydded dros dro yn ystod 2014/2015 ac 8 cais, hyd yma, eleni. Bwriad yr ymgeisydd yw peidio gorfod talu am drwydded dros dro ar gyfer pob digwyddiad dros dro. O ran galwadau i’r Heddlu, nodwyd bod chwe digwyddiad wedi ei gofnodi - 3 yn droseddau o ddwyn a difrodi a thri yn alwadau cyffredinol gan yr eiddo, am gymorth. Nid oedd unrhyw gwynion ynglŷn â sŵn wedi eu cofnodi.

 

        O ran yr amod TCC, nodwyd mai amod cyffredinol ydoedd i sicrhau cysondeb gyda defnyddwyr eraill. Roedd yn ymwybodol bod system newydd wedi ei osod yn yr eiddo a bod yr ymgeisydd wedi cydymffurfio a’r amodau. Ategwyd bod 16 camera ac wedi ei osod, ond nad oedd rhaglen i fonitro bod rhain yn cael eu defnyddio. Pwysleisiwyd, os yw’r amod wedi ei gosod ar y cytundeb, bod disgwyliad i’r offer fod yn weithredol.

        Mewn ymateb i sylw’r heddlu,  nododd yr ymgeisydd bod yr Heddlu yn gwneud defnydd rheolaidd o TCC yr eiddo gan eu bod lleoliad y dafarn yn  amlwg ym Mangor Uchaf.

 

e)         Mewn ymateb i’r cais nododd Preswylydd Lleol a oedd yn gwrthwynebu’r cais, y sylwadau canlynol:

·         Bod angen cais cynllunio oherwydd newydd defnydd

·         Angen atal defnydd o ardal tu allan er mwyn lleihau nifer ysmygwyr

·         Angen rheoli y nifer sydd yn cael defnyddio’r ardd gwrw.

·         Rhaid ystyried diogelwch y cyhoedd

·         Cynnydd mewn llygredd sŵn

·         Digon o dafarndai ym Mangor Uchaf yn cynnig adloniant

·         Dim rheolaeth dros y sefyllfa gan yr Heddlu na Chyngor Gwynedd

 

Caniatawyd i’r Aelod Lleol gyflwyno sylwadau er nad oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

 

Mewn ymateb i’r cais nododd Aelod Lleol a oedd yn gwrthwynebu’r cais ar sail llygredd sŵn, y sylwadau canlynol:

 

·           Bod gwelliannau wedi eu gwneud i’r ardal

·           Cais naturiol am gerddoriaeth i fwynhau'r ardal tu allan

·           Anodd rheoli lefelau sŵn

·           Tafarndai eraill gyda gerddi cwrw gydag amod nad oes cerddoriaeth fyw / wedi ei recordio i gael ei chwarae tu allan yn syml, gan fod yr ardd o fewn ardal breswyl.

Mewn ymateb i sylw’r Aelod Lleol, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod hawl cerddoriaeth eisoes yn bodoli ar drwydded gyfredol yr eiddo. O ran sylw am reolaeth niferoedd yn yr ardd gwrw, nodwyd nad oedd y Gwasaneth Tân wedi cyflwyno gwrthwynebiad i’r cais. O ran cwynion sŵn, nodwyd bod angen cyfeirio cwynion sŵn at Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd

 

f)          Wrth grynhoi ei gais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn ymwybodol bod teuluoedd ac oedolion hŷn yn byw yn yr ardal a'u bod wedi gwahodd Aelodau o Gymdeithas Bangor Uchaf i drafod eu cynlluniau. Nid ydynt eisiau cael eu labelu fel tafarnwyr gwrthgymdeithasol ac yn ceisio, o fewn rheswm, i gydymffurfio a gofynion preswylwyr lleol. Adroddwyd nad oedd bwriad i chwarae sŵn uchel - tebygol mai cerddoriaeth acwstig fuasai yn cael ei chwarae, a bod yr ardd gwrw yn weddol gysgodol. Atgoffwyd y panel nad oedd gwrthwynebiad wedi dod i law gan gymdogion uniongyrchol.

 

ff)         Gadawodd y partïon perthnasol y cyfarfod.

 

Trafodwyd y cais gan aelodau’r Is Bwyllgor gan ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan roddi sylw penodol i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003 sef

 

  Trosedd ac Anhrefn

  Diogelwch y Cyhoedd

  Rhwystro Niwsans Cyhoeddus

  Amddiffyn Plant rhag Niwed

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon caniatáu y cais yn unol ag argymhellion yr Heddlu parthed TCC. Nid oedd sail i dystiolaeth cwynion ac awgrymwyd bod cwynion sŵn i’r dyfodol yn cael eu cyfeirio ymlaen i’r gwasanaeth priodol. Dymunwyd yn dda i’r ymgeisydd gyda’r fenter newydd.

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais am drwydded eiddo yn unol ag amcanion Deddf Trwyddedu 2003 ynghyd a sicrhau bod  Teledu Cylch Cyfyng o fewn  yr eiddo wedi ei osod  yn unol ag amodau penodol TCC

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy  lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd hefyd  o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.

 

Dechreuodd y cyfarfod am 2:00pm a daeth i ben am 3:00pm

 

 

Dogfennau ategol: