skip to main content

Agenda item

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr uchod.

 

(Copi ynghlwm)

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Addysg yn gofyn i’r Fforwm gadarnhau parhad o’r Gweithgor Cyllid Addysg er mwyn cynnal trafodaeth yn unol â phenderfyniad y Cabinet yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror 2015 sef:

 

(a) Derbyn cynigion y Fforwm Cyllido Addysg ar gyfer cyflawni £952,000 o arbedion o’r gyllideb ysoglion yn 2015/16 a chadw o fewn yr addewid cyllido ysgolion, gan ddefnyddio “Model B” ar gyfer cwtogi £60,131 o ddyraniad staff dysgu’r sector gynradd, a chwtogi £25,771 o ddyraniad staff dysgu’r sector uwchradd.

 

(b) Gofyn i’r Fforwm Cyllido Ysgolion barhau i adolygu gwasanaethau a threfniadaeth addysg er mwyn canfod gweddill y targed arbedion uwchben y £952,000 ar gyfer 2015/16, gan ddisgwyl eu hargymhelliad ynglyn â sut y gellir gwireddu’r £4.3m cyfan dros y cyfnod 2015/16 – 2018/19

 

(c) Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg annog cyrff llywodraethol ysgolion unigol i ystyried sut y gallant ddefnyddio balansau eu hysgolion fel rhan o becyn i gyfarch eu bwlch ariannol mewn ffordd gynlluniedig.

 

Cyfeiriwyd at y daenlen oedd ynghlwm i’r adroddiad yn crynhoi yr hyn drafodwyd gan y Gweithgor hyd yma.

 

O safbwynt toriadau gosodwyd targed o £4.3m er mwyn ceisio cael y Gwasanaeth Addysg i uchafu’r arbedion effeithlonrwydd y byddai modd eu gwasgu allan o’r gyfundrefn addysg cyn symud ymlaen i doriadau. Pwysleiswyd bod y ffin rhwng arbedion effeithlonrwydd a thoriadau yn un anodd i’w ddiffinio ym maes addysg.

 

Gofynnwyd i’r Fforwm gadarnhau aelodaeth y Gweithgor ac fe’u hatgoffwyd o’r aelodau ymysg Penaethiaid y sector uwchradd a’r cynradd:

 

Neil Foden, Alun Llwyd, Eifion Jones a Dewi Lake (Uwchradd)

Owain Lemin Roberts, Ifan Llyr Rees, Geraint Evans a Sianelen Pleming (Cynradd)

 

Awgrymwyd i’r GYDCA drafod enwebiad i olynu Sianelen Pleming ar y Gweithgor yn sgil ei bwriad i ymddeol.

 

Adroddodd y Pennaeth Addysg mai’r her ydoedd bod yn fwy effeithlon tra’n gweithio tuag at yr arbedion o £4.3m.  Roedd canran toriadau y gwasanaeth oddeutu  6 / 7% o’i gymharu â rhai gwasanaethau a oedd yn chwilio am oddeutu 30%.  Byddai’n ofynnol i’r Gweithgor gynnal trafodaethau anodd iawn gan ystyried egwyddorion sylfaenol gan gyfarch y ddarpariaeth orau i blant a phobl ifanc.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Addysg bod Cabinet y Cyngor yn cynnal cyfres o weithdai gyda holl Aelodau’r Cyngor i drafod proses yr arbedion a bod y Gwasanaeth Addysg o dan ystyriaeth ar 6 Gorffennaf 2015. Ar derfyn y broses bwriedir, er tryloywder, ymgynghori gyda thrigolion Gwynedd ym mis Medi / Hydref ynglyn â gweithrediad y toriadau posibl.   

 

Awgrymodd Bennaeth y byddai’n rhaid i’r Gweithgor edrych ar y darlun yn ei gyfanrwydd ac oni fyddai’n well ei enwiGweithgor Rhesymoli Addysg ac Ysgolion”.

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

                                    (b)       Cadarnhau Aelodaeth y Gweithgor Cyllid

Addysg fel a ganlyn:

 

Cadeirydd y Fforwm Cyllideb Ysgolion   (Mr Godfrey Northam)

Aelod Cabinet Addysg                               (Y Cyng. Gareth Thomas)     

4 Pennaeth Cynradd             (Owain Lemin Roberts, Ifan Llyr Rees,

Geraint Evans ac un enwebiad gan y GYDCA (Cynradd)

4 Pennaeth Uwchradd         (Neil Foden, Alun Llwyd, Eifion Jones a Dewi Lake)

Pennaeth Ysgol Arbennig      (Donna Roberts, Ysgol Pendalar)

Cynrychiolydd yr Esgobaeth (Parch. Canon Robert Townsend)

 

Sylwedyddion:          Cadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau (Y Cyng.

                                                Peter Read)

                                    Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau (Y

                                                Cyng. Beth Lawton)

 

(c)        Cynnal cyfarfod o’r Gweithgor ar 17 Medi

2015 yn ddibynnol os nad yw yn cyd-daro gyda chyfarfod Strategol Uwchradd.

 

 

Dogfennau ategol: