Estyniad deulawr ar dalcen gogleddol y ty ynghyd a gosod ffenestr dormer yn y blaen (cynllun diwygiedig i'r hyn a dynwyd yn ol o dan gais rhif C17/0436/14/LL)
AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Ceredig Thomas
Cofnod:
Estyniad
deulawr ar dalcen gogleddol y ty ynghyd â gosod ffenestr dormer yn y blaen
(cynllun diwygiedig i’r hyn a dynnwyd yn ôl o dan gais rhif C17/0436/14/LL).
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi bod yr eiddo o fewn cwrtil go helaeth sydd hefyd yn cynnwys
strwythur cyffelyb i dwr gyda llecynnau parcio a throi gyferbyn â’r tŵr ei
hun. Ceir cefnau anheddau Cae Gwyn y tu
cefn i’r safle sy’n cynnwys nifer o estyniadau, balconïau a lolfeydd haul
amrywiol gyda gerddi cefn anheddau Llys Gwyn wedi eu lleoli islaw’r safle sydd
hefyd yn cynnwys estyniadau ar ffurf lolfeydd haul yn ogystal â dodrefn a
strwythurau gardd fel siediau a decio.
Cyfeirwyd at y polisïau perthnasol
o fewn yr adroddiad.
Rhoddwyd rhybudd ar y safle a gwybyddwyd
trigolion cyfagos. Derbyniwyd gohebiaeth gan ddeiliaid yr anheddau hynny sydd
wedi eu lleoli cyfochrog â safle’r cais yn gwrthwynebu yn seilidig
ar golli golau; creu mwgwd; gor-edrych a cholli
preifatrwydd; pryder ynglyn a’r broses o dyllu
sylfaen; aflonyddwch sŵn.
Nodwyd bod y cais yn dderbyniol mewn egwyddor a bod ei
raddfa a’i leoliad yn addas ar gyfer y safle ynghyd â’i osodiad oddi fewn i
ardal breswyl. O safbwynt mwynderau
cyffredinol a phreswyl, yn dilyn cymeryd ystyriaeth
o’r holl faterion perthnasol a’r gwrthwynebiadau fel a nodir uchod, ystyriwyd
bod y datblygiad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys yr amodau a restrir
yn yr adroddiad.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y prif
bwyntiau canlynol:
·
Bod y bwriad ar gyfer creu cartref
addas i deulu o bedwar a all dyfu yn y dyfodol
·
Creu ystafelloedd gwely ar yr
un llawr o safbwynt ymarferoldeb a diogelwch
·
Wedi tynnu cais blaenorol yn ól a oedd yn cynnwys estyniad unllawr
ac addasiadau i’r to
·
Yn dilyn derbyn 3
gwrthwynebiad i’r cynllun, trafodwyd a derbyniwyd cyngor gan swyddogion
cynllunio ac fe newidiwyd y cynllun am estyniad deulawr gyda’r gobaith i beidio
derbyn gwrthwynebiadau
·
Anfonwyd llythyr at y cymdogoion gydag esboniad o fwriad y cynllun newydd ac fe
dderbyniwyd 2 wrthwynebiad yn seiliedig ar golli goleuni yn hytrach na 3 i’r cynllun gwreiddiol
·
Hyderir na fyddai colled
goleuni i drigolion Cae Gwyn oherwydd pellter y tai o’r tŷ gwreiddiol,
llwybr yr haul o’r awyr a lefel y tai yn uwch na’r tŷ
·
O safbwynt y gwrthwynebiadau o
Llys Gwyn yn ymwneud â phreifatrwydd a goredrych,
esboniwyd bod yn bosibl gweld i fewn i tŷ 28 a chegin 30 o bob ffenestr ar
flaen yr eiddo ac felly bod fwy o or-edrych o’r tŷ gwreiddiol na fuasai
o’r estyniad arfaethedig ac felly dim colled pellach i breifatrwydd
·
Bod cynsail yn bodoli yn barod
yn yr ardal ar estyniadau deulawr sydd o fewn radiws o hanner milltir sydd yn
agos i dai eraill a gyda elfen o or-edrych
·
Bod y tŷ yn eistedd ar
lain sydd gyfwerth â thri llain gyda digon o le i ddatblygu’r safle heb
or-ddatblygu
·
Bod y dyluniad yn gweddu
gyda’r tŷ presennol ac yn cydymffurfio gyda pholisïau cynllunio perthnasol
·
Bod ongl y to yn cydfynd a’r ongl gwreiddiol, crib y to yn is na’r un
gwreiddiol ac ‘run ffenestr newydd yn wynebu’r uniongyrchol a ffenestri islaw
a’r ffenestr dormer wedi ei lleoli ar y wal tu fewn er mwyn lleihau goredrych
(c) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais.
PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn
unol â’r amodau canlynol:
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol â’r
cynlluniau.
3. Llechi naturiol.
4. Tynnu hawliau a ganiateir parthed gosod ffenestri ynghyd a datblygiadau o fewn y cwrtil.
Dogfennau ategol: