skip to main content

Agenda item

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi'u cadw'n nol i godi wyth ty fforddiadwy (un par a dau teras o dri) ynghyd ag addasu mynedfa bresennol, llecynnau parcio, ffordd i'r ystad a gerddi i'r tai unigol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Elwyn Jones

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

         Cais amlinellol gyda rhai materion wedi’u cadw’n nôl i godi wyth tŷ fforddiadwy (un pâr a dau teras o dri) ynghyd ag addasu mynedfa bresennol, llecynnau parcio, ffordd i’r ystâd a gerddi i’r tai unigol.

 

(a)  Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais ar safle sy’n ymylu ar ffin ddatblygu Pentref Lleol Brynrefail ac yn golygu addasu’r fynedfa bresennol, creu ffordd stad newydd a gosod 8 tŷ ar ffurf hanner cylch.  Tynnwyd sylw mai cais amlinellol ac mai dangosol yn unig ydoedd y manylion ar y cynlluniau.  Defnyddiwyd y safle fel iard loriau yn y 1980au ond daeth i ben yn 1985 ac oherwydd ei ddefnydd blaenorol fe ystyrir yn safle tir llwyd.

        

           Cyfeirwyd at y polisïau cynllunio perthnasol o fewn yr adroddiad ynghyd â’r sylwadau pellach a dderbyniwyd gan Gyngor Cymuned Llanddeiniolen fel a nodwyd ar y ffurflen  sylwadau ychwanegol a oedd yn datgan cefnogaeth i’r cais a dim gwrthwynebiad.

 

         O safbwynt egwyddor y datblygiad, noda Uned Strategol Tai’r Cyngor bod darparu 8 tŷ fforddiadwy yn cyfarch anghenion yn yr ardal.  Nodwyd bod datganiad Cynllunio a Chartrefi Fforddiadwy yn cadarnhau y bydd dyluniad a gosodiad mewnol dangosol y tai yn cwrdd ag anghenion ac felly y gellid trosglwyddo’r tai i gymdeithas dai.  Derbyniwyd copi o lythyr gan Grwp Cynefin yn dangos parodrwydd mewn egwyddor i ddatblygu tai ar y safle.

 

         Tynnwyd sylw at baragraffau 5.7 – 5.11 yn yr adroddiad a oedd yn nodi bod materion mwynderau a thrafnidiaeth yn dderbyniol.  O safbwynt materion bioamrywiaeth, ystyriwyd bod y datblygiad yn dderbyniol drwy osod amodau priodol.  Nodwyd nad oedd y safle o fewn Parth Llifogydd C ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad gan Dwr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru na Uned Draenio’r Cyngor. 

 

         Yn dilyn ystyriaeth lawn i’r holl faterion cynllunio a’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus argymhellwyd i ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i ymrwymiad cyfreithiol priodol yn ymwneud â sicrhau bod yr 8 tŷ yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol ac amodau cynllunio perthnasol.  Ond gofynnwyd am ddiwygio amod 8 a restrwyd yn yr adroddiad i ddarllen “bod y datblygwr yn cario allan y datblygiad yn unol a’r asesiad  a gyflwynwyd gan yr asiant er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn briodol o safbwynt llygredd”.

 

(b)  Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol i  leddfu rhai o’r pryderon:

 

1.    Llysiau’r dial – bod yr ymgeiswyr yn ymwybodol o’r broblem ac o ganlynaid wedi cyflogi contractwr cymwys i drin y rhywogaeth ac wedi cychwyn y drinaeth ers Awst diwethaf a’i fod yn gyfyngedig i rannau o’r safle. Byddai’r ymgeiswyr yn barod i drafod sut i waredu’r gweddill yn unol ag amod 6 yn yr adroddiad.

2.    Angen digonol o dai fforddiadwy – targed Llywodraeth Cymru ar gyfer tai fforddiadwy ydoedd 20,000 erbyn 2021.  Ni adeiladwyd tŷ cymdeithasol newydd yn Brynrefail ers o leiaf 30 mlynedd a dim ond 9 tŷ cymdeithasol cyffredinol allan o 190 sydd yn weddill.  Bod taer angen cymysgedd o dai cymdeithasol y gall bobl fyw ynddynt gyda Tai Teg wedi nodi bod 28 teulu wedi dangos diddordeb mewn byw ym Mrynrefail.  Bod y cynnig yn cwrdd â’r angen lleol a bod cytundeb gyda Grwp Cynefin iddynt brynu rhai o’r plotiau er mwyn eu datblygu fel tai rhent fforddiadwy

3.    Dŵr wyneb a llifogydd – nad oedd yr ardal ym Mharth Llifogydd C ac fe fyddai’r mater o reoli dŵr wyneb yn un i’w drafod yn unol ag amod Dŵr Cymru  

4.    Risg o dir llygredig -  sicrhawyd bod asesiad pen desg eisoes wedi ei gyflawni ac yn nodi bod y safle yn ffafriol i’w ddatblygu ond bod yr ymgeiswyr yn barod i archwiliad mwy manwl i weld os oedd llygredd daear yn bodoli ai peidio

5.    Mynediad – er nad yn fater cynllunio, bod gan yr ymgeiswyr hawliau priodol i gael mynediad i’r safle ar gyfer y bwriad dan sylw sydd yn cydymffurfio â gofynion rheolaeth ffyrdd

6.    Bod y bwriad yn dderbyniol o ran gofynion a’r ymgeiswyr wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y cynnig yn cyfarfod yr angen am dai fforddiadwy ac yn dderbyniol o safbwynt mwynderau cymdogion, mynediad, yr amgylchedd ac isadeiledd

 

(c)   Nododd yr Aelod Lleol tra wedi ystyried y cais gydag meddwl agored, teimlai bod y cais yn uchelgeisiol o ystyried bod Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn argymell 9 tŷ ar gyfer Rhiwlas ac 8 tŷ ar gyfer  Penisarwaun gyda’r cais gerbron yn gais am 8 tŷ a oedd tu allan i ffin  Brynrefail ac yn bentref llawer llai.

 

Barn gwreiddiol y Cyngor Cymuned ydoedd gwrthwynebu oherwydd nad oedd cynrychiolydd  o Brynrefail ar y Cyngor Cymuned.

 

Yn dilyn trafodaeth gyda thrigolion Brynrefail roeddynt yn gwrthwynebu’r cais oherwydd bod y datblygiad yn rhy fawr i’r pentref.  Yn ogystal, mynegwyd bryder am barcio yn y pentref ac y byddai’r datblygiad yn cynnyddu’r broblem trafnidiaeth.  Gwelwyd yn ddiweddar ormodedd o geir wedi parcio ar y stryd a hyd yn oed ceir wedi parcio tu allan i’r cae chwarae ac oherwydd diffyg palmant y plant yn gorfod cerdded wrth ymyl y llinell wen ynghanol y ffordd i ac o’r cae chwarae.

 

Nodwyd ymhellach bod problem llysiau’r dial yn parhau i fodoli, ac er bo trigolion Brynrefail yn cytuno bod y safle yn ddolur llygaid roeddynt o’r farn bod y datblygiad yn rhy fawr. 

 

(ch) Cynigiwyd ac eilwyd i’w ganiatáu.

 

(d)  Cynigwyd, eilwyd a phleidleiswyd ar welliant i ymweld â’r safle ac fe gariwyd y bleidlais.

 

(dd) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

·         Ei bod yn bwysig i wrando ar farn yr Aelod Lleol a phwysigrwydd i fynd i ymweld â’r safle o ystyried y gwrthwynebiad lleol

·         Gofynnwyd a fyddai’r ymgeiswyr yn cyfrannu tuag at offer chwarae i blant y pentref yn unol â hawliau plant i chwarae yn ddiogel

·         Dylai llwybr diogel arwain i’r cae chwarae

·         Gofynnwyd a oedd y cynllun yn cynnwys mannau parcio digonol ar gyfer y datblygiad

 

(e)  Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Rheolwr Cynllunio a’r Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth:

 

·         Nad oedd maint y datblygiad yn cyrraedd y trothwy o’r angen i wneud cyfraniad ariannol ar gyfer offer chwarae a bod y cae chwarae dan sylw yn agos i’r safle ac o fewn pellter cerdded

·         Bod mannau parcio digonol ar y cynllun ac y byddir yn rhoi amod i sicrhau nifer priodol i gydfynd â’r nifer o dai sydd yn rhan o’r datblygiad

·         Ni chredir y byddai’r datblygiad yn gwaethygu problemau parcio presennol ar y stryd 

 

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Rheolwr Cynllunio drefnu i’r Pwyllgor Cynllunio fynd i  ymweld â’r safle. 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: