Dymchwel ty presennol a chodi ty newydd yn ei le.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Wyn Roberts
Cofnod:
Dymchwel tŷ presennol a chodi
tŷ newydd yn ei le.
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y tŷ bwriededig
yn cynnwys storfa gardd, cyntedd, 3 ystafell wely ac ystafell ymolchi ar lawr
daear, a lle byw ac ystafell bwyta / cegin gyda theras blaen ac ochr ar y llawr
cyntaf. Ceir lle parcio ar ffurf “tynnu
mewn” i’r blaen o’r eiddo. Yn dilyn
trafod y bwriad gyda’r ymgeisydd derbyniwyd cynllun diwygiedig yn dangos y to
wedi ei orchuddio a llechi ynghyd ag asesiad llwybr cerbydol. Lleolir y safle mewn ardal breswyl oddi mewn
i ffin ddatblygu Abersoch er bod rhan o’r ardd / cwrtil y tu allan i’r ffin.
Lleolir y safle hefyd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).
Cyfeirwyd at y polisïau perthnasol ynghyd a’r ymatebion
i’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad.
Rhoddwyd rhybudd ar y safle a gwybyddwyd trigolion lleol a derbyniwyd gohebiaeth yn
gwrthwynebu’r cais sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad.
Tynnwyd
sylw at y prif ystyriaethau cynllunio perthnasol sef:
1.
Bod
egwyddor y datblygiad yn cydymffurfio gyda meini prawf ar gyfer dymchwel ac
ail-adeiladu tŷ
2.
Mwynderau
gweledol – bod dyluniad y tŷ arfaethedig yn un cyfoes gyda ffenestri
sylweddol a theras ar y llawr cyntaf a tho brig wedi ei orchuddio ynghyd â
llechi naturiol sydd yn lleihau pryderon ynglyn â
dyluniad modern y tŷ. Er bod y
safle wedi ei leoli oddi fewn i’r AHNE, ei fod hefyd yn safle ble saif tŷ
ar hyn o bryd ger tai preswyl presennol.
Tynnwyd sylw bod y dyluniad diwygiedig, er yn fodern, o raddfa a
deunyddiau a fyddai’n gweddu i’r safle.
Bwriedir cloddio’r safle er creu tŷ deulawr a fyddai tua’r un
uchder â’r tŷ unllawr presennol. Er nad yw’n dilyn patrwm tai yn y cyffiniau
credir bod y dyluniad diwygiedig yn gweddu a chyfoethogi’r ardal leol o’i
gymharu â’r adeilad presennol. Er bod yr Uned AHNE wedi mynegi pryderon ynglyn â dyluniad y tŷ newydd, credir bod diwygio
dyluniad to y tŷ newydd yn debygol o leihau’r pryderon hyn. Ystyriwyd felly bod y bwriad fel y’i
diwygiwyd yn addas i’w leoliad a’i gyd-destun ac na fyddai’n cael effaith
andwyol ar yr AHNE.
3.
Mwynderau
cyffredinol a phreswyl – Derbyniwyd 3 llythyr o wrthwynebiad ar sail dyluniad,
effaith ar yr AHNE, effaith y bwriad ar derfyn y safle, effaith ar ddraen
dŵr aflan a diogelwch ffyrdd. Er
bod y tŷ yn fwy na’r un presennol mae’r dyluniad fel bod y ffenestri ac agoriadau yn edrych dros y ffordd sirol a
thir amaethyddol. O safbwynt traffig a
sŵn yn deillio o’r bwriad, ni ystyrir y byddai’r tŷ arfaethedig yn
ychwanegu yn sylweddol ar y sefyllfa bresennol nac yn achosi niwed i’r
gymdogaeth leol. Nodwyd bod yr ymgeisydd
yn cydnabod y bydd angen diogelu draen dŵr aflan cymydog yn ystod gwaith
adeiladu ynghyd â thrafod y mater gyda Dŵr Cymru pe caniateir y cais. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn achosi niwed
arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol.
4.
Materion
Trafnidiaeth a mynediad – Ceir mynediad i’r eiddo presennol yn uniongyrchol
oddi ar ffordd sirol ble mae lle parcio ar ffurf “tynnu mewn”. Yn dilyn cais gan yr Uned Trafnidiaeth am fwy
o wybodaeth ynglyn â threfniant parcio a throi o fewn
y cwrtil derbyniwyd gwybodaeth pellach a oedd yn dderbyniol ac yn welliant i’r
trefniant presennol.
Yn dilyn ystyriaeth o’r holl faterion cynllunio
perthnasol ynghyd â’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a’r sylwadau
a dderbyniwyd, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac argymhellwyd i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau perthnasol.
(b) Cynigwyd ac eilwyd i
ganiatáu’r cais.
(c)
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, amlygodd Aelodau unigol y pwyntiau canlynol:
·
Bod dyletswydd ar y Pwyllgor
Cynllunio i roi ystyriaeth i sylwadau’r Swyddog AHNE oherwydd bod datblygiadau o’r fath yn cael
effaith gronnol ar edrychiad yr AHNE a theimlai un Aelod na allai gefnogi’r
cais oherwydd y rheswm hwn
·
bod y Cyngor Cymuned yn
gwrthwynebu’r datblygiad
·
a fyddai’r tŷ arfaethedig
o fewn cyrraedd pobl leol
·
ymddengys bod llawer iawn o
geisiadau yn dod gerbron y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer dymchwel tai a’u
hail-adeiladu yn Abersoch a gofynnwyd a fyddai modd ystyried canllawiau atodol
a / neu ystyried y polisi pan fydd adolygiad
(ch)Mewn ymateb i’r sylwadau uchod,
esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio
·
mai tŷ marchnad agored
ydoedd testun y cais a oedd yn cael ei ddisodli gan dy marchnad agored newydd
ac nad oedd tai fforddiadwy yn berthnasol yn y cyswllt hwn
·
bod y polisïau yn rhai
cyfredol ac yn gyfreithiol ni ellir newid y polisi i gyfyngu defnydd y tŷ
newydd. Gellir monitro ceisiadau o’r
math yma yng Ngwynedd a Môn i’r dyfodol
·
bod y datblygiad arfaethedig o
fewn y ffin datblygu gyda’r egwyddor o ddymchwel a chodi tŷ arall yn ei le
yn dderbyniol ac yn cydymffurfio â’r polisïau perthnasol
·
yn yr un modd rhaid i’r
Pwyllgor Cynllunio roi ystyriaeth lawn i gynnwys yr adroddiad gerbron gan
swyddogion proffesiynol sydd wedi rhoi ystyriaeth lawn i sylwadau ynglyn â’r AHNE
Yn unol â’r Rheolau
Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i ganiatáu’r cais:
O blaid y cynnig i ganiatáu’r
cais (5): Y Cynghorwyr Louise Hughes, Eric
Jones, Dilwyn Lloyd, Edgar Owen, Catrin Wager
Yn erbyn y cynnig i ganiatáu’r cais (5): Y Cynghorwyr Elwyn Edwards, Huw
Gruffydd Wyn Jones, Eirwyn Williams, Gruffydd Williams, Owain Williams
Atal (1): Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones
Ar
bleidlais fwrw’r Cadeirydd gwrthodwyd y cais yn seiliedig
ar osodiad yr AHNE a’r effaith
gronnol y caiff datblygiad o’r fath ar welediad
yr AHNE.
Mewn ymateb i’r uchod, tynnodd
y Rheolwr Cynllunio sylw at
y dyluniad diwygiedig mewn defnydd to llechi yn hytrach
na tho sinc
a bod hyn yn faterol i’r Pwyllgor wrth ystyried y cais. Pwysleisiodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ymhellach nad oedd
modd ei wrthod o ran egwyddor ac mai’r prif fater
dan sylw ydoedd dyluniad y tŷ arfaethedig. Awgrymwyd yn gadarn i’r
Pwyllgor ymweld â’r safle cyn gwneud
penderfyniad i’w wrthod ac o ganlyniad yr ymgeisydd yn
mynd i apêl a’r Cyngor yn wynebu
costau.
Cynigwyd ac eilwyd gwelliant i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle.
Penderfynwyd: Gofyn i’r
Rheolwr Cynllunio drefnu i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle.
Dogfennau ategol: