I ystyried adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.
Cofnod:
Cyflwynwyd: Adroddiad y Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion
rheolaethol yr Harbwr.
Cyfeiriwyd yn benodol at y canlynol:-
(a)
Aelodaeth y Pwyllgor - gofynnwyd i Grŵp Mynediad
Traphont Abermaw gyflwyno
cyfansoddiad a chofnodion eu Cyfarfod
Blynyddol i’r Swyddog Cefnogi Aelodau, yn unol â phenderfyniad Cabinet Cyngor
Gwynedd yn 2014. Bydd angen i’r mudiadau / sefydliadau
gyflwyno’r wybodaeth yn flynyddol.
(b)
Angorfeydd a Chofrestru Cychod Abermaw – cyflwynwyd rhestr ychwanegol i’r
Aelodau yn ystod y cyfarfod a chyfeirwyd at y
dau gwch a dorrwyd yn rhydd yn ddiweddar.
Pwysleiswyd nad oedd dim o’i le ar yr angorfeydd ond yn hytrach y ddolen
rhwng blaen y cwch a’r bwi a falwyd ac sydd yn gyfrifoldeb i’r perchennog. Annogir perchnogion cychod yn rheolaidd i
sicrhau eu bod yn dilyn y canllawiau priodol a bod yr angorfeydd yn addas i’r
pwrpas. Mewn ymateb i ymholiad gan
Aelod, cadarnhawyd bod staff yr Harbwr yn gwirio ac yn sicrhau bod y stropiau
yn addas. Teimlai’r Gwasanaeth Morwrol
yn rhwystredig yn wyneb y ffaith bod trefniadau mewn lle ar gyfer cyflwyno
dogfennaeth gyfredol priodol i’r Harbwr Feistr ond nad oedd ambell unigolyn yn
cydymffurfio. Awgrymwyd i’r dyfodol y
byddai angen cynnal awdit o’r oll angorfeydd ac os nad ydynt yn gymwys yn unol
â chanllawiau’r Gwasanaeth, ni fyddai opsiwn ond eu gwahardd o’r Harbwr a
chyfarwyddo i godi’r angorfeydd allan.
Pwysleiswyd bwysgirwydd i sefydlu proses gadarn
i ymdrin â’r mater uchod ac awgrymwyd y byddai’n fuddiol i adolygu’r
Is-ddeddfau fel bo modd gweithredu’n fwy llym i’r dyfodol. Croesawyd gefnogaeth y Pwyllgor Ymgynghorol
i’r awgrym hwn ac anogwyd Aelodau i ledaenu’r neges i’w mudiadau o bwysigrwydd
bod angorfeydd yn cyrraedd gofynion ac yn addas i bwrpas.
Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â’r ystadegau o
gychod pwer / hwylio a’r ganran ym Meirionnydd yn lleihau o’i gymharu â
chynnydd ym Mhenllŷn, esboniodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod Pwllheli wedi ei adnabod fel man i
gynnal rasus lleol a bod yna ddiwydiant hwylio cryf yno.
Ychwanegwyd bod Clwb Hwylio Meirionnydd yn
gwneud gwaith gwych hefo’r ieuenctid yn nhref Abermaw.
Penderfynwyd: Cymeradwyo
bod y Gwasanaeth Morwrol yn cynnal adolygiad o’r Is-ddeddfau Harbwr er mwyn
sefydlu gweithdrefn gadarn i’w roi mewn lle ar gyfer cyflwyno dogfennaeth
priodol o addasrwydd angorfeydd.
(c)
Cod Morwrol a Diogelwch Porthladdoedd
Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig bod archwilwyr Asiantaeth Gwylwyr y Glannau (MCA), Adran Trafnidiaeth
Llywodraeth Cymru, wedi cynnal arolwg o drefniadau a sustemau diogelwch
presennol harbyrau’r Sir ac fe fyddir yn cyflwyno eu hadroddiad i gyfarfod nesaf
y Pwyllgor Ymgynghorol yn y gwanwyn. Ni
ragwelwyd bod unrhyw broblemau yn deillio o’r arolwg a’u barn cychwynnol ydoedd
bod y Gwasanaeth yn cydymffurfio gyda’r gofynion yn gyffredinol ond bod angen
matrics hyfforddiant cynhwysfawr i staff.
Canolbwyntiwyd yr arolwg ar harbyrau Aberdyfi, Porthmadog a Phwllheli ac
ni fu ymweliad ag Abermaw oherwydd prinder amser. Nodwyd ganddynt bod angen tacluso oddi
amgylch cei harbwr Aberdyfi a chyflwynwyd sylwadau ar lafar ynglyn â llêd y
sianel yn Harbwr Pwllheli.
Bwriedir cynnal ail-ymweliad o fewn 12 mis ac
yn dilyn trafodaeth gyda’r archwilwyr byddai’n fuddiol i’w gynnal i gyd-fynd
gyda dyddiad Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog gan wahodd cynrychiolwyr
Pwyllgorau Ymgynghorol Aberdyfi, Abermaw a Pwllheli i’r cyfarfod hwnnw.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod.
(ch) Mordwyo
Adroddwyd bod y buddsoddiad a wnaed i’r
cymhorthion mordwyo wedi bod yn llwyddiannus gan bod pob un wedi aros ar eu
safle. Cyflwynwyd un adroddiad i Fwrdd
Archwilio Damweiniau Morol (MAIB) yn dilyn digwyddiad yn yr Harbwr a
ddigwyddodd oherwydd diffyg profiad a dealltwriaeth unigolyn. Gohebwyd â’r unigolyn dan sylw gan gynnig
arweiniad ar gyfer hyfforddiant.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod.
(d) Cynnal a Chadw
Amlinellodd yr Harbwr Feistr ar ei raglen
waith dros gyfnod y gaeaf gan nodi y byddir yn ei gylchredeg i’r Aelodau, a’i
fod ef a’i gynorthwy-ydd yn gyfrifol am ardal o Llandanwg i Fairbourne. Tynnwyd sylw at y materion canlynol:
·
Adfer
arwyddion a’u trwsio
·
Trwsio
cloau
·
Gwaith
i’r grisiau cyhoeddus gyferbyn a’r bloc toiledau
·
Glanhau’r
llithrfa, wal y promenad o algau’r môr
·
Atgyweirio’r
llochesi sydd yn parhau yn destun fandaliaeth
·
Trwsio
canllawiau ar hyd y cei
·
Trwsio
bwi Fairway
·
Trwsio
llifddor oherwydd difrod
Ychwanegodd y Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig pe byddai Aelodau’r Pwyllgor yn ymwybodol o unrhyw waith ychwanegol
sydd angen i’w gyflawni, annogwyd hwy i gysylltu hefo’r Harbwr Feistr.
Cadarnhawyd mewn ymateb i ymholiad gan Aelod
bod ffôn ar gyfer galw Gwasanaeth brys sydd wedi ei leoli ym maes parcio Traeth
Benar yn gweithio ac yn cael ei archwilio yn rheolaidd.
Nodwyd ymhellach bod arolwg wedi ei gynnal yn
ddiweddar o ddefnydd ffônau galw gwasanaeth brys dros y Sir a gwelwyd nad oedd
llawer o ddefnydd yn cael eu gwneud ohonynt gan bod unigolion yn tueddu i
ddefnyddio ffonau symudol mewn argyfyngau.
Awgrymwyd y byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor
Ymgynghorol dderbyn adroddiad i’r cyfarfod nesaf ar ddefnydd ffônau Gwasanaeth
brys sydd yn yr ardal.
Penderfynwyd: (a) Gofyn i’r Harbwr Feistr ddosbarthu ei
raglen waith i Aelodau’r Pwyllgor Ymgynghorol.
(b) Gofyn i’r Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig gyflwyno
ystadegau ar ddefnydd ffônau Gwasanaeth brys i gyfarfod nesaf y Pwyllgor
Ymgynghorol hwn.
(dd) Materion Staff
Croesawyd a chyflwynwyd Alex Hills, Harbwr
Feistr Cynorthwyol, i’r cyfarfod ac esboniwyd bod ei gyfnod cyflogaeth wedi ei
ymestyn i gynorthwyo gyda’r rhaglen waith cynnal a chadw yr harbwr dros fisoedd
y gaeaf, yn ddarostyngedig i’r sefyllfa gyllidol.
(e) Materion Harbwr
(i )Rhwystr Diogelwch Ardal y Cei
Adroddwyd bod rhwystr diogelwch wedi ei osod
yn ardal y cei er mwyn ceisio gwella diogelwch y cyhoedd. Ymddiheurodd y Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig nad oedd y Gwasanaeth wedi ymgysylltu â defnyddwyr yr harbwr cyn gosod
y rhwystr diogelwch. Fodd bynnag,
deallir bod y rhwystr wedi profi’n gymorth enfawr a’r risg i ddiogelwch wedi
gwella yn yr ardal. Bwriedir parhau
gyda’r trefniant ond roedd y Gwasanaeth yn fwy na pharod i dderbyn sylwadau.
Nododd Aelod, yn dilyn trafod gyda defnyddwyr
a thra’n derbyn y ffaith bod angen rheoli’r ardal dan sylw, amlygwyd pryder
ynglyn â lliw y rhwystr.
Mewn ymateb, esboniwyd y byddai modd trafod
hyn ymhellach ac roedd bwriad gan yr Harbwr Feistr i gysylltu gyda gwneuthurwyr
arwyddion yn Nolgellau am wahanol opsiynau.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod.
(ii)
Pontwn
Diolchwyd i Mr John Smith am gydlynu
cyfarfodydd er mwyn symud ymlaen gyda datrys perchnogaeth y pontwn a deallir
bod Ymddiriedolaeth Cymuned Abermaw wedi datgan diddordeb i’w berchnogi. Pwysleisiodd y Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig nad oedd y Cyngor yn berchen y pontwn ond bod staff yr Harbwr wedi
cynnal gwaith atgyweirio arno yn y gorffennol.
Hyderir, dros y misoedd nesaf, y gellir datrys a chael cadarnhad pwy
fydd yn ei berchen i’r dyfodol. Nodwyd
ymhellach bod y pontwn yn adnodd gwych i’r harbwr ond nad oedd y Cyngor mewn
sefyllfa i barhau i’w gynnal a’i gadw i’r dyfodol.
Darllenodd y Cynghorydd Eryl Jones-Williams
gofnod gan Awdurdod Parc Cenedlaethol a oedd wedi cyfrannu at y prosiect drwy
gronfa Cynllun Arbrofol Eryri fel a ganlyn:
“Pontwn Cymuned Harbwr Abermaw Merioneth
Yacht Club Pontoon
Eglurodd Mr John Smith nad oedd y mater yn
symud yn ei flaen yn gyflym iawn.
Esboniodd ymhellach er bod canfyddiad mai Clwb Hwylio Meirionnydd oedd
perchennog y pontwn, nid oedd hyn yn gywir.
Yr hyn ddigwyddodd ydoedd bod grwp o unigolion wedi dod at ei gilydd i
lunio cais ar gyfer bod yn gymwys i gyflwyno ceisiadau ar gyfer grantiau
amrywiol. Bu i Gyngor Gwynedd roi
cyfraniad arian ar y pryd a chadarnhad y byddai’r Cyngor yn gefnogol i’w gynnal
a’i gadw ond fe wnaethpwyd yn glir na fyddai’r Cyngor yn ei newid.
Ers blwyddyn bellach nodwyd bod trafodaethau
wedi digwydd rhwng yr Ymddiriedolaeth a’r Gwasanaeth Morwrol sydd wedi bod yn
gefnogol ond bod rhai elfennau i’w datrys sef:
Awgrymodd y Cadeirydd er mwyn bwrw ymlaen yn
ddioed i swyddogion o’r Ymddiriedolaeth Cymuned Abermaw a’r Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig drefnu i gyfarfod yn fuan i ddatrys y tri elfen uchod.
Penderfynwyd: Gofyn i’r
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig drefnu i gyfarfod â’r swyddogion perthnasol
yn fuan.
(iii)
Arwyddion Diogelwch
Nodwyd gyda chymorth a charedigrwydd
Sefydliad y Bad Achub y bydd arwyddion yn eu lle erbyn 1 Ebrill 2018.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod.
(iv) Diogelwch Parcio
Mewn perthynas â chyflwyno trefn newydd sydd
yn gwahardd rhai heb awdurdod i barcio ar y llecyn sydd yn rhedeg gyfochrog â
chompownd yr harbwr, nododd Aelod bod angen trafodaeth bellach ynglyn â’i
reolaeth.
Nododd y Swyddog Morwrol bod y trefniant wedi
gwella ac efallai bod angen trafodaeth gyda’r Harbwr Feistr ynglyn â rheoli ei
ddefnydd. Y bwriad ydoedd bod y llecyn
ar gael i ddefnyddwyr masnachol yr harbwr ond nad oedd bwriad i logi llecyn i
unigolion sydd heb gysylltiad gyda’r harbwr.
Nododd Aelod arall bod unigolion wedi parcio
o flaen Ty Baddon ers blynyddoedd lawer ac a oedd unrhyw beth y gellir ei wneud
i wahardd pobl barcio yno?
Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig nad oedd modd cynnwys y llecyn fel rhan o orfodaeth parcio ond
pwysleiswyd bod y llecyn yn eiddo i’r Cyngor a bod staff yr Harbwr angen lle i
gadw cerbydau. Nodwyd bod arwyddion wedi
eu rhoi i fyny ar gyfer cadw 2 lecyn parcio ar gyfer staff yr Harbwr a’r bwriad
ydoedd i geisio cadw rheolaeth ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor a hyderir y gall
unigolion gydymffurfio â’r trefniadau hyn.
O safbwynt statws y darn sydd wedi ei liwio
gyda llinellau melyn wrth ymyl adeilad SS Dora, gofynnwyd a fyddai modd cynnwys
y llecyn hwn fel rhan o’r gorchymyn parcio.
Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig y gall wneud ymholiadau ynglyn â’r uchod.
Penderfynwyd: Gofyn i’r
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ymchwilio i’r pryderon uchod.
(f) Materion Ariannol
Cyfeiriwyd at y mantolenni cyllidol a oedd yn
dangos gorwariant o £13,275 diwedd Medi 2017 ac fel rheolwr y Gwasanaeth,
nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ei bryder yn hyn o beth gan nad
oedd y targed incwm yn sylweddol gyda’r gwariant yn £29,463 ac felly y targed
yn fyr o £3,857.
Mynegodd Aelod etholedig Cyngor Gwynedd ei
bryder yn wyneb yr holl arbedion arfaethedig ac y byddai unrhyw doriadau i’r
Gwasanaeth Morwrol yn cael effaith andwyol ar economi yr ardal, ac o ganlyniad
ar ar swyddi a thwristiaeth. Awgrymwyd y
dylid gwahodd Aelod Cabinet Datblygu’r Economi i gyfarfod nesaf y Pwyllgor
Ymgynghorol i wyntyllu’r mater ac i fynd ag ef o amgylch i weld gweithgareddau’r
harbwr.
Mewn ymateb, esboniodd yr Uwch Reolwr –
Economi a Chymuned bod trafodaethau yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd a’r bwriad
ydoedd cynnal gweithdai pwrpasol i drafod gwahanol opsiynau arbedion fesul
Adrannau. Fodd bynnag, croesawir unrhyw
gefnogaeth i warchod cyllidebau’r Gwasanaeth i’r dyfodol.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod a gwahodd yr Aelod Cabinet Datblygu’r Economi i gyfarfod nesaf y
Pwyllgor Ymgynghorol.
(ff) Digwyddiadau
Calonogol ydoedd nodi’r holl ddigwyddiadau a
gynhelir yn Abermaw a gwerthfawrogir ymdrechion a gwaith y Gymuned yn hyn o
beth. Tra’n derbyn nad oedd presenoldeb
staff mewn digwyddiadau wedi bod 100% eleni a hyn yng nghyfnod tymor yr hydref
sicrhawyd y byddir yn gwneud ymdrechion ar gyfer flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, rhaid ystyried bod lleihad yn yr
adnoddau gyda’r Harbwr Feistr yn gweithio o fis Ebrill i fis Medi pob
penwythnos, ac ar adegau angen 2 aelod o staff ar ddyletswydd o safbwynt
diogelwch. Sicrhawyd y byddai staff ar
gael ar gyfer digwyddiad y Motor-cross ar y traeth sydd i’w gynnal penwythnos
28/29 Hydref.
Mynegwyd bryder Aelod bod y dyddiad yn
gwrthdaro gyda gwyliau hanner tymor ac y byddai’r mesydd parcio yn orlawn. Yn wreiddiol, roedd y digwyddiad hwn ar ôl y
tymor twristiaeth er mwyn ymestyn y tymor ac nid adeg gwyliau hanner tymor
ysgolion.
Ychwanegwyd bod y digwyddiad yn amharu ar
fusnes yr ysgraff gan na fyddai pobl yn gallu mynd ar y traeth.
Mewn ymateb, awgrymodd y Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig y gall y mater gael ystyriaeth gan y Cyngor Tref ac fe ellir
rhoi cyfarwyddyd i’r Gwasanaeth Morwrol drafod hefo’r trefnwyr i beidio ei
gynnal yn ystod gwyliau hanner tymor, os mai dyna fyddai’r dymuniad.
I’r dyfodol, byddai’n fuddiol i staff yr
Harbwr dderbyn rhestr o’r digwyddiadau sydd i’w cynnal ac arweiniad o’r hyn sydd
yn ddisgwyliedig gan y staff fel rhan o’r digwyddiadau.
Penderfynwyd : Derbyn a nodi’r uchod.
Dogfennau ategol: