skip to main content

Agenda item

I ystyried adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd:             Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion rheolaethol yr Harbwr.

 

Cyfeiriwyd yn benodol at y canlynol:-

 

(a)                                                  Aelodaeth y Pwyllgor  -  gofynnwyd i Grŵp Mynediad Traphont Abermaw gyflwyno

cyfansoddiad a chofnodion eu Cyfarfod Blynyddol i’r Swyddog Cefnogi Aelodau, yn unol â phenderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd yn 2014.  Bydd angen i’r mudiadau / sefydliadau gyflwyno’r wybodaeth yn flynyddol.

 

 

(b)                                                 Angorfeydd a Chofrestru Cychod Abermaw – cyflwynwyd rhestr ychwanegol i’r

Aelodau yn ystod y cyfarfod a chyfeirwyd at y dau gwch a dorrwyd yn rhydd yn ddiweddar.  Pwysleiswyd nad oedd dim o’i le ar yr angorfeydd ond yn hytrach y ddolen rhwng blaen y cwch a’r bwi a falwyd ac sydd yn gyfrifoldeb i’r perchennog.  Annogir perchnogion cychod yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn dilyn y canllawiau priodol a bod yr angorfeydd yn addas i’r pwrpas.  Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod, cadarnhawyd bod staff yr Harbwr yn gwirio ac yn sicrhau bod y stropiau yn addas.  Teimlai’r Gwasanaeth Morwrol yn rhwystredig yn wyneb y ffaith bod trefniadau mewn lle ar gyfer cyflwyno dogfennaeth gyfredol priodol i’r Harbwr Feistr ond nad oedd ambell unigolyn yn cydymffurfio.  Awgrymwyd i’r dyfodol y byddai angen cynnal awdit o’r oll angorfeydd ac os nad ydynt yn gymwys yn unol â chanllawiau’r Gwasanaeth, ni fyddai opsiwn ond eu gwahardd o’r Harbwr a chyfarwyddo i godi’r angorfeydd allan. 

 

Pwysleiswyd bwysgirwydd i sefydlu proses gadarn i ymdrin â’r mater uchod ac awgrymwyd y byddai’n fuddiol i adolygu’r Is-ddeddfau fel bo modd gweithredu’n fwy llym i’r dyfodol.  Croesawyd gefnogaeth y Pwyllgor Ymgynghorol i’r awgrym hwn ac anogwyd Aelodau i ledaenu’r neges i’w mudiadau o bwysigrwydd bod angorfeydd yn cyrraedd gofynion ac yn addas i bwrpas.    

 

Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â’r ystadegau o gychod pwer / hwylio a’r ganran ym Meirionnydd yn lleihau o’i gymharu â chynnydd  ym Mhenllŷn, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod Pwllheli wedi ei adnabod fel man i gynnal rasus lleol a bod yna ddiwydiant hwylio cryf yno. 

 

Ychwanegwyd bod Clwb Hwylio Meirionnydd yn gwneud gwaith gwych hefo’r ieuenctid yn nhref Abermaw.

 

Penderfynwyd:          Cymeradwyo bod y Gwasanaeth Morwrol yn cynnal adolygiad o’r Is-ddeddfau Harbwr er mwyn sefydlu gweithdrefn gadarn i’w roi mewn lle ar gyfer cyflwyno dogfennaeth priodol o addasrwydd angorfeydd. 

 

 

(c)                                                  Cod Morwrol a Diogelwch Porthladdoedd

 

Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod archwilwyr Asiantaeth Gwylwyr y Glannau (MCA), Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, wedi cynnal arolwg o drefniadau a sustemau diogelwch presennol harbyrau’r Sir ac fe fyddir yn cyflwyno eu hadroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol yn y gwanwyn.  Ni ragwelwyd bod unrhyw broblemau yn deillio o’r arolwg a’u barn cychwynnol ydoedd bod y Gwasanaeth yn cydymffurfio gyda’r gofynion yn gyffredinol ond bod angen matrics hyfforddiant cynhwysfawr i staff.  Canolbwyntiwyd yr arolwg ar harbyrau Aberdyfi, Porthmadog a Phwllheli ac ni fu ymweliad ag Abermaw oherwydd prinder amser.  Nodwyd ganddynt bod angen tacluso oddi amgylch cei harbwr Aberdyfi a chyflwynwyd sylwadau ar lafar ynglyn â llêd y sianel yn Harbwr Pwllheli.

 

Bwriedir cynnal ail-ymweliad o fewn 12 mis ac yn dilyn trafodaeth gyda’r archwilwyr byddai’n fuddiol i’w gynnal i gyd-fynd gyda dyddiad Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog gan wahodd cynrychiolwyr Pwyllgorau Ymgynghorol Aberdyfi, Abermaw a Pwllheli i’r cyfarfod hwnnw.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(ch)  Mordwyo

 

Adroddwyd bod y buddsoddiad a wnaed i’r cymhorthion mordwyo wedi bod yn llwyddiannus gan bod pob un wedi aros ar eu safle.  Cyflwynwyd un adroddiad i Fwrdd Archwilio Damweiniau Morol (MAIB) yn dilyn digwyddiad yn yr Harbwr a ddigwyddodd oherwydd diffyg profiad a dealltwriaeth unigolyn.  Gohebwyd â’r unigolyn dan sylw gan gynnig arweiniad ar gyfer hyfforddiant.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

(d) Cynnal a Chadw

 

Amlinellodd yr Harbwr Feistr ar ei raglen waith dros gyfnod y gaeaf gan nodi y byddir yn ei gylchredeg i’r Aelodau, a’i fod ef a’i gynorthwy-ydd yn gyfrifol am ardal o Llandanwg i Fairbourne.  Tynnwyd sylw at y materion canlynol:

·         Adfer arwyddion a’u trwsio

·         Trwsio cloau

·         Gwaith i’r grisiau cyhoeddus gyferbyn a’r bloc toiledau

·         Glanhau’r llithrfa, wal y promenad o algau’r môr

·         Atgyweirio’r llochesi sydd yn parhau yn destun fandaliaeth

·         Trwsio canllawiau ar hyd y cei 

·         Trwsio bwi Fairway

·         Trwsio llifddor oherwydd difrod

 

Ychwanegodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig pe byddai Aelodau’r Pwyllgor yn ymwybodol o unrhyw waith ychwanegol sydd angen i’w gyflawni, annogwyd hwy i gysylltu hefo’r Harbwr Feistr.

 

Cadarnhawyd mewn ymateb i ymholiad gan Aelod bod ffôn ar gyfer galw Gwasanaeth brys sydd wedi ei leoli ym maes parcio Traeth Benar yn gweithio ac yn cael ei archwilio yn rheolaidd.

Nodwyd ymhellach bod arolwg wedi ei gynnal yn ddiweddar o ddefnydd ffônau galw gwasanaeth brys dros y Sir a gwelwyd nad oedd llawer o ddefnydd yn cael eu gwneud ohonynt gan bod unigolion yn tueddu i ddefnyddio ffonau symudol mewn argyfyngau. 

 

Awgrymwyd y byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor Ymgynghorol dderbyn adroddiad i’r cyfarfod nesaf ar ddefnydd ffônau Gwasanaeth brys sydd yn yr ardal.

 

Penderfynwyd:          (a)        Gofyn i’r Harbwr Feistr ddosbarthu ei raglen waith i Aelodau’r Pwyllgor Ymgynghorol.

                                   

(b)       Gofyn i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig gyflwyno

ystadegau ar ddefnydd ffônau Gwasanaeth brys i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol hwn.

 

(dd)  Materion Staff

 

Croesawyd a chyflwynwyd Alex Hills, Harbwr Feistr Cynorthwyol, i’r cyfarfod ac esboniwyd bod ei gyfnod cyflogaeth wedi ei ymestyn i gynorthwyo gyda’r rhaglen waith cynnal a chadw yr harbwr dros fisoedd y gaeaf, yn ddarostyngedig i’r sefyllfa gyllidol.

 

(e) Materion Harbwr

 

(i )Rhwystr Diogelwch Ardal y Cei

Adroddwyd bod rhwystr diogelwch wedi ei osod yn ardal y cei er mwyn ceisio gwella diogelwch y cyhoedd.  Ymddiheurodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd y Gwasanaeth wedi ymgysylltu â defnyddwyr yr harbwr cyn gosod y rhwystr diogelwch.  Fodd bynnag, deallir bod y rhwystr wedi profi’n gymorth enfawr a’r risg i ddiogelwch wedi gwella yn yr ardal.  Bwriedir parhau gyda’r trefniant ond roedd y Gwasanaeth yn fwy na pharod i dderbyn sylwadau.

 

Nododd Aelod, yn dilyn trafod gyda defnyddwyr a thra’n derbyn y ffaith bod angen rheoli’r ardal dan sylw, amlygwyd pryder ynglyn â lliw y rhwystr.

 

Mewn ymateb, esboniwyd y byddai modd trafod hyn ymhellach ac roedd bwriad gan yr Harbwr Feistr i gysylltu gyda gwneuthurwyr arwyddion yn Nolgellau am wahanol opsiynau.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(ii)                  Pontwn

Diolchwyd i Mr John Smith am gydlynu cyfarfodydd er mwyn symud ymlaen gyda datrys perchnogaeth y pontwn a deallir bod Ymddiriedolaeth Cymuned Abermaw wedi datgan diddordeb i’w berchnogi.  Pwysleisiodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd y Cyngor yn berchen y pontwn ond bod staff yr Harbwr wedi cynnal gwaith atgyweirio arno yn y gorffennol.  Hyderir, dros y misoedd nesaf, y gellir datrys a chael cadarnhad pwy fydd yn ei berchen i’r dyfodol.  Nodwyd ymhellach bod y pontwn yn adnodd gwych i’r harbwr ond nad oedd y Cyngor mewn sefyllfa i barhau i’w gynnal a’i gadw i’r dyfodol.

 

Darllenodd y Cynghorydd Eryl Jones-Williams gofnod gan Awdurdod Parc Cenedlaethol a oedd wedi cyfrannu at y prosiect drwy gronfa Cynllun Arbrofol Eryri fel a ganlyn:

 

“Pontwn Cymuned Harbwr Abermaw Merioneth Yacht Club Pontoon

 

  • Bwriad y prosiect yw gosod a chynnal pontwn parhaol gyda mynediad parhaol (pedwar tymor) mewn rhan gysgodol o’r harbwr I alluogi mynediad I ystod o weithgareddau hamdden môr, afon ac aber I bob defnyddiwr gan gynnwys rhai ac anghenion ychwanegol
  • Mae’r cais hwn felly am fath hollol newydd o ddarpariaeth i ddiwallu anghenion cyfredol a chynyddol defnyddwyr twristaidd, chwaraeon a hamdden
  • Mae CAE wedi cyfrannu £25,000 tuag at y prosiect”

 

Eglurodd Mr John Smith nad oedd y mater yn symud yn ei flaen yn gyflym iawn.  Esboniodd ymhellach er bod canfyddiad mai Clwb Hwylio Meirionnydd oedd perchennog y pontwn, nid oedd hyn yn gywir.  Yr hyn ddigwyddodd ydoedd bod grwp o unigolion wedi dod at ei gilydd i lunio cais ar gyfer bod yn gymwys i gyflwyno ceisiadau ar gyfer grantiau amrywiol.  Bu i Gyngor Gwynedd roi cyfraniad arian ar y pryd a chadarnhad y byddai’r Cyngor yn gefnogol i’w gynnal a’i gadw ond fe wnaethpwyd yn glir na fyddai’r Cyngor yn ei newid.

 

Ers blwyddyn bellach nodwyd bod trafodaethau wedi digwydd rhwng yr Ymddiriedolaeth a’r Gwasanaeth Morwrol sydd wedi bod yn gefnogol ond bod rhai elfennau i’w datrys sef:

  1. Trwydded gan y Cyngor er mwyn cysylltu’r pontwn i eiddo’r Cyngor
  2. Cadarnhad gan y Cyngor ynglyn ag atebolrwydd cyhoeddus oherwydd ei fod ar gyfer defnydd y cyhoedd
  3. Llunio a chytuno cynllun rheoli ar gyfer rheoli’r pontwn     

Awgrymodd y Cadeirydd er mwyn bwrw ymlaen yn ddioed i swyddogion o’r Ymddiriedolaeth Cymuned Abermaw a’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig drefnu i gyfarfod yn fuan i ddatrys y tri elfen uchod.

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig drefnu i gyfarfod â’r swyddogion perthnasol yn fuan.

 

(iii)                 Arwyddion Diogelwch

Nodwyd gyda chymorth a charedigrwydd Sefydliad y Bad Achub y bydd arwyddion yn eu lle erbyn 1 Ebrill 2018.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(iv)       Diogelwch Parcio

 

Mewn perthynas â chyflwyno trefn newydd sydd yn gwahardd rhai heb awdurdod i barcio ar y llecyn sydd yn rhedeg gyfochrog â chompownd yr harbwr, nododd Aelod bod angen trafodaeth bellach ynglyn â’i reolaeth. 

 

Nododd y Swyddog Morwrol bod y trefniant wedi gwella ac efallai bod angen trafodaeth gyda’r Harbwr Feistr ynglyn â rheoli ei ddefnydd.  Y bwriad ydoedd bod y llecyn ar gael i ddefnyddwyr masnachol yr harbwr ond nad oedd bwriad i logi llecyn i unigolion sydd heb gysylltiad gyda’r harbwr.

 

Nododd Aelod arall bod unigolion wedi parcio o flaen Ty Baddon ers blynyddoedd lawer ac a oedd unrhyw beth y gellir ei wneud i wahardd pobl barcio yno?

 

Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd modd cynnwys y llecyn fel rhan o orfodaeth parcio ond pwysleiswyd bod y llecyn yn eiddo i’r Cyngor a bod staff yr Harbwr angen lle i gadw cerbydau.  Nodwyd bod arwyddion wedi eu rhoi i fyny ar gyfer cadw 2 lecyn parcio ar gyfer staff yr Harbwr a’r bwriad ydoedd i geisio cadw rheolaeth ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor a hyderir y gall unigolion gydymffurfio â’r trefniadau hyn.

 

O safbwynt statws y darn sydd wedi ei liwio gyda llinellau melyn wrth ymyl adeilad SS Dora, gofynnwyd a fyddai modd cynnwys y llecyn hwn fel rhan o’r gorchymyn parcio.

Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y gall wneud ymholiadau ynglyn â’r uchod.

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ymchwilio i’r pryderon uchod.

 

(f)   Materion Ariannol

 

Cyfeiriwyd at y mantolenni cyllidol a oedd yn dangos gorwariant o £13,275 diwedd Medi 2017 ac fel rheolwr y Gwasanaeth, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ei bryder yn hyn o beth gan nad oedd y targed incwm yn sylweddol gyda’r gwariant yn £29,463 ac felly y targed yn fyr o £3,857.

 

Mynegodd Aelod etholedig Cyngor Gwynedd ei bryder yn wyneb yr holl arbedion arfaethedig ac y byddai unrhyw doriadau i’r Gwasanaeth Morwrol yn cael effaith andwyol ar economi yr ardal, ac o ganlyniad ar ar swyddi a thwristiaeth.  Awgrymwyd y dylid gwahodd Aelod Cabinet Datblygu’r Economi i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol i wyntyllu’r mater ac i fynd ag ef o amgylch i weld gweithgareddau’r harbwr. 

 

Mewn ymateb, esboniodd yr Uwch Reolwr – Economi a Chymuned bod trafodaethau yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd a’r bwriad ydoedd cynnal gweithdai pwrpasol i drafod gwahanol opsiynau arbedion fesul Adrannau.  Fodd bynnag, croesawir unrhyw gefnogaeth i warchod cyllidebau’r Gwasanaeth i’r dyfodol.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod a gwahodd yr Aelod Cabinet Datblygu’r Economi i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol.

 

(ff)  Digwyddiadau

 

Calonogol ydoedd nodi’r holl ddigwyddiadau a gynhelir yn Abermaw a gwerthfawrogir ymdrechion a gwaith y Gymuned yn hyn o beth.  Tra’n derbyn nad oedd presenoldeb staff mewn digwyddiadau wedi bod 100% eleni a hyn yng nghyfnod tymor yr hydref sicrhawyd y byddir yn gwneud ymdrechion ar gyfer flwyddyn nesaf.  Fodd bynnag, rhaid ystyried bod lleihad yn yr adnoddau gyda’r Harbwr Feistr yn gweithio o fis Ebrill i fis Medi pob penwythnos, ac ar adegau angen 2 aelod o staff ar ddyletswydd o safbwynt diogelwch.  Sicrhawyd y byddai staff ar gael ar gyfer digwyddiad y Motor-cross ar y traeth sydd i’w gynnal penwythnos 28/29 Hydref. 

 

Mynegwyd bryder Aelod bod y dyddiad yn gwrthdaro gyda gwyliau hanner tymor ac y byddai’r mesydd parcio yn orlawn.  Yn wreiddiol, roedd y digwyddiad hwn ar ôl y tymor twristiaeth er mwyn ymestyn y tymor ac nid adeg gwyliau hanner tymor ysgolion.

 

Ychwanegwyd bod y digwyddiad yn amharu ar fusnes yr ysgraff gan na fyddai pobl yn gallu mynd ar y traeth.

 

Mewn ymateb, awgrymodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y gall y mater gael ystyriaeth gan y Cyngor Tref ac fe ellir rhoi cyfarwyddyd i’r Gwasanaeth Morwrol drafod hefo’r trefnwyr i beidio ei gynnal yn ystod gwyliau hanner tymor, os mai dyna fyddai’r dymuniad.

 

I’r dyfodol, byddai’n fuddiol i staff yr Harbwr dderbyn rhestr o’r digwyddiadau sydd i’w cynnal ac arweiniad o’r hyn sydd yn ddisgwyliedig gan y staff fel rhan o’r digwyddiadau. 

 

Penderfynwyd :         Derbyn a nodi’r uchod.

 

Dogfennau ategol: