(a) Aelod Lleol:
1. Adroddiad ar y 'barrier'
2. Dyfodol y pontwn
3 .Cais am 'ardal weithgareddau wedi ei rhaffu
i ffwrdd'
4. Cais i cynnal cystadleuath lleol i dylunio (ac adeiladu) 'caban traeth' unigryw i Bermo (yn lle
defnyddio storage
container haearn, fel yr arfer).
5. Statws adnoddau(peiriannau ayyb) y harbwr
6. Diffyg presenoldeb ar dyddiau digwyddiadau.
(b) Cyngor Tref Abermaw:
1.
Taclusrwydd cyffredinol a lle storio o amgylch
yr harbwr
2.
Ffrydiau incwm
3.
Parcio ar y ffordd
ger y Compownd
(c) Cyngor Cymuned Arthog
1.
Y diweddaraf am reoli
Pwynt Penrhyn
2.
Llithrfa De Penrhyn Drive
(ch) Clwb Hwylio Meirionnydd:
1.
Trafod man ymdrochi agored o fewn ardal
yr harbwr
2.
Ychydig iawn o le sydd i gychod ‘Fin Keel’
3.
Posib defnyddio matin sgwrio concrid
i unioni’r disgyniad yng ngwaelod y llithrfa.
(d) Grŵp Defnyddwyr
Harbwr Abermaw:
1.
Pontŵn – trosglwyddiad cyfrifoldeb a chynnal a chadw
2.
Angorfeydd – mynd ag angorfeydd i’r lan bob gaeaf.
3.
Parth Gwahardd Cychod Pŵer / Cychod Dŵr Personol – adfer y bwiau i farcio’r parth ymdrochi i sicrhau lle mwy
diogel i ymdrochi
Cofnod:
(a)
Cais am ardal weithgareddau wedi ei rhaffu i ffwrdd
Adroddod y Cadeirydd ei fod wedi derbyn cais
ar gyfer dynodi ardal weithgareddau wedi ei rhaffu ffwrdd yn yr harbwr ar gyfer
defnydd gweithgareddau hamdden.
Penderfynwyd: Cymeradwyo i
ymchwilio i’r mater gan ofyn i’r unigolion a wnaed y cais gysylltu â’r Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig i drafod eu syniadau ymhellach.
(b)
Cais i gynnal cystadleuaeth lleol i ddylunio (ac
adeiladu) “caban traeth” unigryw i Abermaw
Adroddod y Cadeirydd bod angen rhywbeth mwy
esthetig na’r hyn sydd yn bodoli’n barod ac a fyddai o fudd twristiaeth.
Penderfynwyd: Cymeradwyo’r
syniad mewn egwyddor ac i unigolion sydd â diddordeb yn yr uchod i gysylltu
gyda’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i drafod ymhellach unrhyw syniadau a
ddaw i law.
(c)
Taclusrwydd cyffredinol a lle storio o amgylch yr
Harbwr
Derbyniwyd cwyn gan aelod o’r cyhoedd am
gelfi pysgota ar yr harbwr ac nad oedd lle i’r plant ddal crancod. Nodwyd bwysigrwydd i’r pysgotwyr gadw celfi
pysgota yn y compownd.
Penderfynwyd: Gofyn i’r
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig drafod gyda’r pysgotwyr i sicrhau bod y
cawelli yn cael eu cadw gan adael bwlch i bobl fedru cerdded o’u hamgylch.
(ch) Ffrydiau Incwm
Gofynnwyd a oedd unrhyw fodd i fedru cynyddu
incwm i’r harbwr? Nodwyd bod llawer mwy
o ganŵs a caiacs i’w gweld ac a oedd yr awdurdod yn codi ffi arnynt?
Mynegodd aelod bod cymaint o fynd a dod gan gychod
yn ardal yr Harbwr ac y byddai cynyddu defnydd yn y dŵr o amgylch yr
harbwr yn creu risg o ddiogelwch.
Mewn ymateb, esboniodd y Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig y ceisir annog gweithgareddau yn yr Harbwr ond ni chodir ffi
gan na fyddai’n gost effeithiol yn wyneb y ffaith y byddai’n costio mwy i
weinyddu’r trefniadau o gasglu’r ffioedd.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod.
(d)
Parcio ar y ffordd ger y compownd
Nodwyd y byddai’r contractwyr yn cael cynnig
cyntaf o ran parcio ar y tir uchod.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod.
(dd) Cynnal a chadw angorfeydd
a ffurflenni adrodd yn ôl
Adroddwyd y byddir yn trafod y mater uchod
gyda’r staff perthnasol ym mis Tachwedd i’w wyntyllu.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(e)
Y diweddaraf am reoli Pwynt Penrhyn
Adrododd y Cyng. Julian Kirkham ar yr hyn
drafodwyd yng nghyfarfod Cyngor Cymuned Arthog yn ddiweddar a’u bod yn gwneud
cais i Adran Priffyrdd y Cyngor am gymorth ar gyfer:
Mewn ymateb,
nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, tra’n derbyn bod yr uchod yn
rhwystredig nid oedd gan y Gwasanaeth Morwrol unrhyw bwerau cyfreithiol i symud
y faniau gwersylla.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.
(f)
Llithrfa De
Penrhyn Drive
Nodwyd bod Cyngor
Cymuned Arthog o’r farn mai’r peth olaf sydd angen yn y lleoliad hwn yw
llithrfa. Byddai hyn yn ymestyn ei ddefnydd i ganiatáu i gerbydau gael mynediad
anghyfyngedig i'r blaendraeth. Yn gyffredinol, mae'r rhan honno o Fairbourne yn
draeth diogel, ac yn lle diogel i nofio. Byddai cerbydau sy'n gwibio i fyny ac
i lawr yn beryglus iawn i'r cyhoedd ac yn gyfle i lansio cychod a badau dwy
personol heb ganiatâd.
Gofynnir am fynediad i gerddwyr yn unig ar ffurf hyd o, e.e. mat cnau coco, ond
lled cwpl o goets babanod neu debyg er mwyn i deuluoedd allu cyrraedd y traeth.
Byddai angen arwydd ee. “ddim yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn” i’w osod yn y
lleoliad. Byddai gosod llwybr “igam ogam”
yn amhosibl oherwydd symudiad y graean bas.
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod cwch bwrpasol
ar gael yn yr Harbwr ar gyfer mynd allan i Pwynt Penrhyn i sicrhau nad oes
unrhyw gychod yn lansio oddi yno.
O safbwynt y
ramp, tra’n derbyn bod angen gwneud gwelliannau yno, eglurwyd bod llawer o
symudiadau ar y traeth ond fe fyddir yn trafod y mater ymhellach gyda Mr Julian
Kirkham.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(g) Ychydig
iawn o le sydd i gychod
Nodwyd bod llai o
le ar gael i gychod “Fin Keel”.
(h) Posib
defnyddio matin sgwrio concrid i unioni’r disgyniad yng ngwaelod y llithrfa
Mewn ymateb, nododd yr Harbwr Feistr y
byddai’n ystyried opsiynau i’r awgrym uchod.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(i)
Angorfeydd –
cais i fynd a’r angorfeydd i’r lan bob gaeaf
Pryderai
Grŵp Defnyddwyr Harbwr Abermaw am nifer yr angorfeydd sydd wedi methu yn
yr harbwr y tymor hwn. O ganlyniad, nid yn unig bod effaith hyn yn ymwneud â
diogelwch ond hefyd gydag effeithiau posib ar bremiynau yswiriant i’r dyfodol. Gofynnwyd a ddylid tynnu’r angorfeydd i’r lan
bob gaeaf, fel a wneir yn Aberdyfi ac a fyddai’n syniad adfer y bwiau i
farcio’r ardal ymdrochi eto?
Mewn ymateb,
nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn ddelfrydol y dylai’r uchod
ddigwydd ond ei fod yn anodd yn Abermaw oherwydd ansawdd gwaelod y môr a’r
ffaith nad oedd digon o le i’w cadw yn ddiogel.
Ychwanegodd yr
Harbwr Feistr bod angorfeydd Aberdyfi yn llawer iawn llai ac yn ysgafnach ac yn
draddodiadol roedd rhai Abermaw wedi cael eu gadael am y gaeaf. Rhagwelir anhawster ychwanegol yn y
trefniadau o’u gosod yn ôl ac i dderbyn y gwaith gweinyddol angenrheidiol ar eu
cyfer.
Gellir annog
cwsmeriaid i’w codi ond ni ellir eu gorfodi a rhaid ceisio gwella safon ac
ansawdd yr angorfeydd sydd yna’n barod.
Apeliwyd ar y mudiadau i bwysleisio wrth defnyddwyr bod angen eu
harchwilio yn rheolaidd.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.
(j)
Parth Gwahardd Cychod Pwêr / Cychod Dŵr
Personol
Nodwyd ar un adeg
bod llinell o fwiau oddi ar daeth Abermaw yn marcio parth gwahardd i gychod
pŵer gan felly sicrhau lle mwy diogel i ymdrochi. Os oes bwiau yno ai peidio, byddai unrhyw
forwr doeth sy’n gyfrifol am gwch un ai yn cadw yn ddigon pell o’r ardal yma
neu’n mynd ymlaen yn ofalus iawn. Yn
anffodus nid yw pawb yn gwneud hyn. A
oes achos felly dros adfer y bwiau i farcio’r parth ymdrochi?
Mewn ymateb, nid
oedd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig o’r farn y byddai adfer y bwiau yn
gwneud cymaint o wahaniaeth yn Abermaw ac nad oedd risg i’r cyhoedd.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.
(a)
Angorfeydd i’r cychod hwylio “Keel”
Mewn ymateb i
ymholiad gan y Cynghorydd Rob Triggs, awgrymwyd y dylai ef, yr Harbwr Feistr,
Mr Mike Ellis a Mr Dave Niven drafod y mater ymhellach.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.