Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Cofnod:

Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned at y Strategaeth Garthu gan nodi y comisiynwyd Alan Williams (Coastal Engineering UK Ltd) ar y cyd efo Ymgynghoriaeth Gwynedd i edrych ar yr opsiynau o ran cryfhau’r Crib Groyne a lleihau’r gwaddod yno.

 

Derbyniwyd cyflwyniad gan Alan Williams yn manylu ar ei waith yn asesu ac adolygu’r Crib Groyne. Tynnodd sylw at 4 opsiwn posibl ac amcangyfrif o’r gost ynghlwm sef:

 

1.    Y lefel isaf o gynnal a chadw'r strwythur presennol (£10-15,000);

2.    Cynnal a chadw lefel uwch ac adfer y strwythur presennol (£35-40,000);

3.    Estyniad fertigol / amgylchynu’r strwythur presennol gan ddefnyddio cyfuniad o (a) gwaith dur crib neu (b) stanciau dalennau ac arfwisg carreg (£125-135,000 (a) neu £225-240,000 (b)); neu

4.    Amgylchynu'r strwythur presennol mewn arfwisg carreg (£140-150,000).

 

Amlygodd yr ystyriaethau canlynol o ran yr opsiynau:

 

·         Nid oes angen llawer o ymyrraeth i wireddu opsiynau 1 a 2 ond byddent ond yn cynnig ychydig o welliant mewn perfformiad o gymharu ag amodau presennol;

·         Bydd opsiynau 3 a 4, oherwydd codiad yn y lefel a gwell chadarnder ac uniondeb, yn lleihau trosglwyddo a symud dros y strwythur; fodd bynnag

·         Dros gyfnod o ddeng mlynedd, byddai’n debygol y byddai gwerth presennol costau'r opsiynau hyn yn uwch na'r drefn barhaus o garthu a chael gwared arno; ac

·         Opsiynau 1, 2 a 4 oedd y mwyaf hyblyg o ran y gallu i addasu i drefniadau'r dyfodol.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau a gofyn cwestiynau i’r ymgynghorydd, ymatebodd iddynt fel a ganlyn:

·         O ran cynyddu hyd y Crib Groyne, nad oedd cynyddu hyd y Crib Groyne yn rhan o’i ffriff a byddai’n rhaid gwneud gwaith manylach o ran modelu, asesu’r effaith ac ystyriaethau amgylcheddol. Nododd bod angen gwneud gwaith yn y tymor byr;

·         Yn bosib rhoi ystyriaeth i symud y ‘trailing arm’ mwy i’r chwith pan asesir opsiynau tymor hir;

·         Bod defnyddio arfwisg carreg trwm neu strwythurau concrid pre-fab i atgyfnerthu yn hytrach na strwythur dur ynghyd a symud y ‘trailing arm’ fel ei fod yn mynd i mewn i ddŵr dyfn, yn rhywbeth oedd i’w ystyried wrth edrych ar opsiynau tymor hir;

·         Cytuno mai dim ond atal y sefyllfa rhag dirywio am gyfnod byddai opsiwn 3 ond yn ei gyflwyno gan nid oedd eisiau ei ddiystyru fel opsiwn posib;

·         Bod byrdwn ariannol cynnal a chadw blynyddol felly bod angen astudiaeth o’r opsiynau tymor hir o ran y Crib Groyne gan ystyried efallai symud cyfeiriad y fraich arall.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod y gwasanaeth yn awyddus i weithredu ar ddatrysiad tymor byr yn y misoedd nesaf. Ychwanegodd y byddai datrysiad tymor hir yn broses 2-3 blynedd felly roedd yn rhaid gweithredu ar ddatrysiad tymor byr na fyddai’n cyfyngu ar yr opsiynau posib ar gyfer y tymor hir.

 

Nododd Cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli y dylid ystyried efallai cynyddu hyd y Crib Groyne yn raddol er mwyn gweld faint o hyd y gellir ei ennill heb gymhlethu’r broses gan asesu os oedd yn effeithiol.

 

Nododd y Cadeirydd bod angen gwneud rhywbeth yn y tymor byr ac yna ystyried yr opsiynau tymor hir.

 

Cynigwyd i ofyn i Gyngor Gwynedd symud ymlaen efo Opsiwn 4 sef cryfhau’r strwythur presennol gan ei amgylchynu efo arfwisg carreg. Eiliwyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD gofyn i Gyngor Gwynedd symud ymlaen efo Opsiwn 4 sef cryfhau’r strwythur presennol gan ei amgylchynu efo arfwisg carreg.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned y cylchredir copi o adroddiad yr ymgynghorydd i’r aelodau er mwyn iddynt allu rhoi sylwadau o fewn 3 wythnos. Cadarnhaodd y byddai’r gwasanaeth yn symud ymlaen yn unol â’r hyn a ddymunai’r Pwyllgor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r ymgynghorydd am ei gyflwyniad.

 

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod y Swyddog Cefnogi Aelodau wedi gohebu gyda phob cynrychiolydd mudiadau'r harbwr yn atgoffa o’r gofyn i’r mudiadau enwebu cynrychiolydd am y flwyddyn i ddod gan hefyd anfon copi o’r cyfansoddiad a chofnodion o gyfarfod blynyddol y grwpiau perthnasol. Nododd y derbyniwyd y wybodaeth angenrheidiol gan Gymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli, Cyngor Tref Pwllheli a Sefydliad y Bâd Achub. Gofynnodd i’r rhai nad oedd wedi ymateb eisoes i anfon y wybodaeth at y Swyddog Cefnogi Aelodau yn yr wythnosau nesaf.

·         Bod 60 cwch ar angorfa flynyddol yn yr Harbwr allanol yn 2017 o gymharu gyda 58 yn 2016.

·         Cadarnhaodd bod 306 cwch ar angorfa pontŵn blynyddol yn yr Hafan yn 2017 o gymharu gyda 287 cwch a fu ar angorfa pontŵn yn 2016. Roedd y cynnydd yn galonogol ac fe dybir bod y newid i godi ffioedd ar drefniant Uchafswm Hyd Cwch (LOA) wedi helpu a gobeithir y bydd cynnydd mewn niferoedd o flwyddyn i flwyddyn.

·         Bod Adran Trafnidiaeth y Llywodraeth wedi cyhoeddi addasiadau i’r Cod Diogelwch Porthladdoedd ym mis Tachwedd 2016. Roedd copïau o’r cod newydd wedi ei ddosbarthu i holl Aelodau’r Pwyllgorau Ymgynghorol gyda chopi hefyd ar gael ar wefan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau.

·         Cynhaliodd archwilwyr Asiantaeth Gwylwyr y Glannau arolygiad trylwyr o drefniadau a systemau diogelwch presennol harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd er sicrhau cydymffurfiaeth a’r Cod Diogelwch Porthladdoedd rhwng y 19eg a’r 21ain o Fedi 2017. Barn gychwynnol yr archwilwyr oedd bod y Cyngor yn cyd-fynd gyda’r gofynion yn gyffredinol ond bod angen addasu rhai elfennau yn gysylltiedig â chofnodi dyletswyddau a nodi Deiliwr Dyletswydd. Fe fu i’r archwilwyr ymweld ag harbyrau Aberdyfi, Porthmadog a Phwllheli yn ystod yr archwiliad. O ran Pwllheli, gwnaed sylw gan yr archwilwyr bod y Sianel yn gul pan oedd y llif allan.

·         Disgwylir derbyn adroddiad ysgrifenedig drafft yr wythnos ganlynol. Eglurodd bod gan y Cyngor gyfnod penodol i addasu trefniadau ac fe fyddai Asiantaeth Gwylwyr y Glannau yn ail ymweld â’r gwasanaeth oddi fewn 12 mis o gyflwyno’r adroddiad ble bydd disgwyl bod argymhellion a gyflwynwyd yn yr adroddiad wedi eu gweithredu. Nododd y byddai’n cylchredeg copi o’r adroddiad terfynol i’r aelodau.

·         Yn dilyn trafodaeth gyda’r archwilwyr cytunwyd mewn egwyddor byddai’n fuddiol bod dyddiad yr ail ymweliad yn cyd-fynd a dyddiad Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr. Awgrymwyd i’r archwilwyr byddai’n fuddiol bod yr archwilwyr yn mynychu cyfarfod o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog gan wahodd cynrychiolwyr Pwyllgorau Ymgynghorol Aberdyfi, Abermaw a Pwllheli i’r cyfarfod ym mis Hydref 2018.

·         Cafwyd archwiliad manwl gan archwilwyr Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar yr 2il Awst 2017, nid oedd unrhyw fater yn codi.

·         Hyd yma roedd tri adroddiad wedi ei gyflwyno at sylw MAIB (Marine Accident Investigation Branch) yn adrodd ar ddigwyddiadau yn ymwneud a chychod yng Ngwynedd. Roedd 1 digwyddiad yn adrodd ar gwch a gafodd ei daflu wyneb i waered tu fewn i ardal awdurdodedig harbwr Pwllheli. Roedd cwch pŵer yn teithio o gyfeiriad Abersoch i Bwllheli a hyn ar gyflymder diogel a phriodol pan gafodd y cwch ei droi trosodd gan don. Ni achoswyd unrhyw anaf i’r morwyr ac fe gafodd y cwch ei hadfer gan griw'r Bad Achub.

·         Bod y gwasanaeth yn ystyried gwelliannau i’r cyfarpar a gwasanaeth tanwydd. Ymchwilir i alluogi cwsmeriaid i dderbyn a thalu am danwydd drwy beiriannau hunan wasanaeth. Pe byddai’n bosibl cyflwyno’r gwasanaeth yna golygai byddai cwsmeriaid yn gallu derbyn tanwydd drwy ddefnyddio cyfarpar hunan wasanaeth tu allan i’r oriau 09.00 - 17.00. Cyn y byddai’n bosibl cadarnhau trefniadau hunan wasanaeth byddai angen i’r gwasanaeth ystyried sut y gellir sicrhau bod defnyddwyr yn cydymffurfio gyda gofynion cyflwyno datganiadau disel coch. Roedd hyn yn gysylltiedig â phrosesu a chasglu taliadau tollau ychwanegol yn ymwneud â gwerthu disel coch a defnyddir gan gychod at bwrpas tramwyo gyda chwch. Mawr obeithir na fydd yna unrhyw rwystrau gweinyddol yn amharu ar welliant gwasanaeth i’r cwsmer.

·         Cwblhawyd gwaith carthu ceg yr harbwr yn ystod y gwanwyn ac yn dilyn y gwaith carthu fe gwblhawyd gwaith pellach ar lefelu wyneb y sianel er ceisio sicrhau fod cysondeb yn lefel gwely’r sianel fordwyo.

·         Er cwrdd â her cyllideb a tharged incwm y gwasanaeth argymhellir fod ffioedd Harbwr a Hafan Pwllheli yn cynyddu 2% ar gyfartaledd ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19. Pwysleisiodd mai drafft yn unig a gyflwynwyd yn y rhaglen, a bod y ffioedd yn ddarostyngedig i dderbyn cadarnhad gan Aelod Cabinet – Datblygu’r Economi a fe’u cadarnheir yn y cyfarfod nesaf.

 

Pwysleisiodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig pwysigrwydd sicrhau fod pob cwch pŵer a Bad Dwr Personol a oedd yn defnyddio llithrfa’r Hafan wedi cofrestru ac yn arddangos yr hawlen cofrestru ar y cwch. Ni ddylai unrhyw gwch lansio yn yr harbwr oni bai fod yn arddangos yr hawlen cofrestru. Roedd angen sicrhau fod cwmnïau Parcio a Lansio yn cydymffurfio gyda’r gofynion hyn.

 

Nododd Cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch bod rhai unigolion yn defnyddio’r llithrfa ben bore ac yn dychwelyd yn hwyr er mwyn osgoi talu a chofrestru. Ychwanegodd bod symud swyddfa’r Harbwr Feistr wedi cael effaith ac na allai busnesau fod yno trwy’r adeg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y cyfleuster Teledu Cylch Cyfyng wedi ei wella. Roedd yn anymarferol i’r swyddogion edrych ar yr oriau o fideo, felly gofynnir i unigolion gysylltu efo’r gwasanaeth yn fuan yn dilyn unrhyw achos penodol.

 

Nododd aelod bod unigolion hefyd yn lansio lle nad ydynt i fod. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod cwch newydd yn yr harbwr a fyddai o gymorth i wneud mwy o waith patrolio. Ychwanegodd bod mwy o adnodd staffio gyda staff yr Hafan, ar hyn o bryd fe edrychir ar swydd ddisgrifiadau staff a rhagwelir gwelliant yn y sefyllfa yn 2018.

 

Mewn ymateb i sylw gan gynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’r gwasanaeth yn darparu rhaffau a ffender iddo a bod gofyn iddo gysylltu gyda Rheolwr yr Harbwr i drefnu hyn.

 

Nododd Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a Phlas Heli bod angen edrych ar garthu o fewn yr Hafan. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod arolwg hydrograffeg wedi ei gynnal ar y basn, bwriedir asesu’r arolwg cyn penderfynu ar y camau a gymerir. Ychwanegodd yr ystyrir gwagio’r stilling lagoon. Mewn ymateb i sylw gan Gynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub parthed gwaredu’r deunydd yn lleol, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd lleoliad yn y bae efo’r drwydded briodol.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig at dywydd eithafol y noson gynt o ganlyniad i gyn storm Ophelia. Nododd Rheolwr Harbwr Pwllheli o ystyried y tywydd eithafol yr unig ddifrod oedd un hwyl wedi chwythu allan.

 

Nododd Cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli bod staff Morwrol a Pharciau Gwledig wedi gweithio’n galed y diwrnod/noson honno a gofynnodd i ddiolchiadau’r deiliaid cychod gael ei drosglwyddo i’r staff. Ychwanegodd nad oedd unrhyw gwynion ystyrlon wedi eu cyflwyno gan aelodau’r gymdeithas y flwyddyn yma.

 

Rhannwyd copi o grynodeb cyllidebol terfynol 2016-17 a diweddariad ar gyllideb 2017-18 hyd at ddiwedd Medi 2017 yr Harbwr a’r Hafan yn y cyfarfod. Manylwyd ar eu cynnwys a nodwyd bod y sefyllfa gyllidebol yn well yn y flwyddyn gyfredol a gobeithir y cyrhaeddir y targedau.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig at faes parcio traeth Glandon gan nodi y byddai arwyneb y maes parcio yn derbyn sylw cyn diwedd mis Hydref. Fe fu i’r tyllau a oedd wedi ymddangos ar wyneb y maes parcio ger y fynedfa gael eu llenwi ar ddechrau’r tymor.  Eglurodd oherwydd prysurdeb y safle a’r nifer o gerbydau a oedd yn defnyddio’r maes parcio fe fyddai’r gwasanaeth yn ystyried trefniadau amgen er ceisio lleihau'r difrod a achosir i arwyneb y safle.

 

Nododd Cynrychiolydd Cyngor Tref Pwllheli bod cyflwr y maes parcio angen sylw gyda’r tyllau yn yr arwyneb yn beryglus i bobl hŷn.

 

Nododd Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a Phlas Heli bod y mater yn destun sgwrs i staff Plas Heli yn ddyddiol a'i fod yn eu tynnu i lawr.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig fe edrychir am ddatrysiad hirdymor i’r sefyllfa.

 

Derbyniwyd diweddariad gan Gynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a Phlas Heli ar ddigwyddiadau ym Mhlas Heli. Nododd y cynhaliwyd un gystadleuaeth Byd ac un gystadleuaeth Brydeinig yn ystod 2017. Ychwanegodd y cynhelir cystadleuaeth Optimus yn 2018 a bod paratoadau ar gyfer cystadleuaeth yn 2021 yn mynd yn eu blaen. 

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: