Derbyn Adroddiad Blynyddol y Gronfa Bensiwn am 2014/15
Cofnod:
Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Adroddiad
Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2014/15 gan dynnu sylw at daflen wybodaeth am y
Gronfa Bensiwn yn crynhoi cefndir y Gronfa a’r prif ffeithiau.
Rhoddwyd sylw penodol i brif faterion yr
adroddiad sef:
·
Perfformiad Buddsoddi
Yn 2014/15, llwyddwyd i sicrhau
cynnydd yng ngwerth asedau’r Gronfa o £1.3bn (31/03/2014) i bron £1.5bn (31/03/2015) – cynnydd
o £187m yn ystod y flwyddyn. Yn dilyn
perfformiad gwell na’r farchnad yn
2013/14, roedd 2014/15 yn flwyddyn gymysg gan y cwmnïau sy’n
buddsoddi ar ran y Gronfa Bensiwn. O ran disgwyliadau buddsoddi (dychweliadau 5.9% y flwyddyn), mae’r dychweliadau hynod galonogol o 12.2% a gafwyd gan y Gronfa am y flwyddyn hon yn adlewyrchu perfformiad gwych gan y farchnad
stoc yn gyffredinol.
Yn 2014/15, roedd
y marchnadoedd yn cynhyrchu perfformiad gwell na’r flwyddyn cynt yn
gyffredinol, gydag ecwiti yn perfformio’n dda ac eiddo yn perfformio’n arbennig
o dda, er bod ein cronfa ni wedi dioddef yn gymharol o fethu’r dychweliadau
annisgwyl o uchel ar fondiau eleni.
Cyfeiriwyd
at berfformiad rhagorol cwmni Fidelity sy’n buddsoddi
mewn ecwiti ar ran y gronfa, a pherfformiad da iawn hefyd gan UBS a Threadneedle wrth fuddsoddi mewn eiddo. Cyrhaeddodd
sawl cwmni ei meincnod, tra disgwylir dychweliadau gwell yn y tymor
canol oddi wrth Veritas a Partners,
sydd â marchnadoedd arbenigol.
·
Prisiad actiwaraidd teir-blynyddol 31 Mawrth 2016 -
Bydd pris uchel
bondiau, gyda lefel isel o ddychweliadau ar fondiau, yn cael effaith negyddol
ar y gyfradd ddisgowntio, ac yn chwyddo’r amcangyfrif o werth ymrwymiadau
pensiwn. Er gwaethaf cynnydd sylweddol iawn yng ngwerth ein hasedau ar y
farchnad stoc, bydd hynny wedi’i wrthbwyso gan gynnydd sylweddol mewn
ymrwymiadau. Bydd cyflogwyr yn ymwybodol
o’r cynnydd mewn ymrwymiadau, sydd wedi’i gyfrifo yn unol â safonau cyfrifo
ryngwladol (FRS17, IAS19, ayb).
Rhoddwyd “ciplun” o hynny yn ei
gyd-destun.
-
Yn y Prisiad Actiwaraidd Teir-blynyddol 2013, roedd lefel ariannu y Cynllun yn 85%,
ac roedd hynny yn well na’r cyfartaledd 79% ar draws y cyfan o'r CPLlL yng Nghymru a Lloegr, lle mae cronfeydd yn defnyddio
amrywiaeth o dybiaethau a methodoleg actiwaraidd.
-
Byddai hyn yn gosod Gwynedd yn gyfforddus ar
gyfer y cyfnod diffyg ac adfer ar draws yr holl
CPLlL, ond nid yw canlyniadau
cyhoeddedig y cronfeydd pensiwn ar sail debyg am debyg. Yn dilyn ymlaen o ryddhau canlyniadau’r prisiant, cynhaliwyd adolygiad manwl gan ein actiwari,
Hymans Robertson, ac fe ail-seiliwyd
y canlyniadau yma ar un set o dybiaethau. Pan ddatgelwyd y darlun cymharol gywir, roedd sefyllfa ariannol Gwynedd ymysg y deg uchaf o gronfeydd
Lloegr a Chymru yn gyffredinol.
-
Ar sail gyffredin, mae cyfnod adfer
diffyg Cronfa Gwynedd yn wyth mlynedd,
y byrraf o holl gronfeydd Cymru, a'r seithfed byrraf
o’r holl 88 o gronfeydd y CPLlL. Mae cyfnodau adfer diffyg cronfeydd
eraill Cymru yn amrywio o 11 i 44 mlynedd felly, mae gennym strategaeth gyllido risg isel
a chynllun cyllido cymharol sy’n gredadwy.
-
Yn gynharach eleni, adroddodd SAC a PWC i Lywodraeth Cymru
ar sefyllfa cronfeydd Cymru, a nodwyd ar sail debyg wrth debyg
fod Cronfa Gwynedd yn dybiannol wedi’i
ariannu 99%, o’i gymharu ag amrediad rhwng 71% a 97% yn y 7 cronfa arall.
-
Er bydd sefyllfa cyflogwyr unigol o fewn ein
Cronfa yn gwahaniaethu, yn gyffredinol, dylai cryfder y Gronfa ein galluogi i
gymryd agwedd hyblyg tuag at gyfraddau cyfraniadau pensiwn ar ôl
y prisiad nesaf (2016). Yn amlwg, bydd
lleddfu unrhyw gynnydd mewn “pension
contribution rates” erbyn 2017/18 yn
bwysig, o ystyried y wasgfa barhaus ar wariant cyhoeddus.
-
Y brif amcan yw sicrhau fod gan gyflogwyr
strategaethau cyfrannu fforddiadwy, teg, a chynaliadwy sy'n adlewyrchu eu
hamgylchiadau unigol eu hunain.
·
Gweinyddu
Pensiynau
Parhaodd yr uned
weinyddol gyda pherfformiad effeithiol fel y dangosir gan y mesurau yn erbyn ei
thargedau gyda gwaith sylweddol wedi ei wneud i weithredu systemau newydd i
sicrhau gweithrediad esmwyth, yng nghyd-destun twf sylweddol mewn ceisiadau am
amcangyfrifon pensiwn oherwydd cynlluniau arbedion a chynigion ymddeol cynnar
gan sawl cyflogwr. Amlygwyd bod nifer pensiynwyr yn parhau i godi, o 7,584 i
7,940 yn 2014/15.
·
Datblygiadau
Diweddar
Ar gyfer y Gronfa
Bensiwn adroddwyd bod nifer o newidiadau ac ymgynghoriadau ar y gweill. Mae’r
prosiect cydweithio a ddatblygwyd gan yr wyth gronfa yng Nghymru wedi adnabod y
gellid cyflawni gwell effeithlonrwydd trwy gydweithio i fuddsoddi drwy un
fframwaith neu gerbyd buddsoddi cyffredin.
Bydd ymchwiliad pellach i hyn yn
ystod 2015/16. Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru, wedi’u hannog gan undebau
llafur ar ei ‘Partnership Council’
yn ystyried annog uno cronfeydd Cymreig.
Erbyn hyn, maent wedi derbyn adroddiad SAC a PWC ym mis Mai, sy’n
cefnogi sefydlu cerbyd buddsoddi ar y cyd, yn hytrach nac uno. Mae Llywodraeth yn disgwyl arbedion
cost wrth i gronfeydd pŵl buddsoddiadau, ac os nad yw’r cynigion
gwirfoddol yn mynd ddigon pell,
yna bydd y Llywodraeth yn gorfodi ei “blueprint” nhw. Bydd y Pwyllgor
Pensiynau yn trafod y materion hyn.
·
Bwrdd Pensiynau
Mae Cronfa Gwynedd
wedi credu erioed bod llywodraethu da yn sylfaenol i gyflawni cynllun rheoli
llwyddiannus ac yn gefnogol i'r sylw cenedlaethol i lywodraethu'r CPLlL. Mae Pwyllgor
Pensiynau Gwynedd wedi llywodraethu ein Cronfa yn gynhwysol am nifer o
flynyddoedd, gydag aelodau etholedig o gyflogwyr mawr eraill yn pleidleisio
ochr yn ochr ag aelodau Cyngor Gwynedd. Er hynny, adroddwyd bod Bwrdd Pensiynau
wedi ei sefydlu eleni i graffu dulliau llywodraethu'r gronfa.
Diolchwyd i
aelodau’r Pwyllgor Pensiynau am eu cyfraniadau positif a chydwybodol yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf. Dymunwyd gwellhad buan i’r Cynghorydd Peter Read,
cyn-gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau, sydd wedi sefyll i lawr ac yn dioddef ag
anaf. Diolchwyd hefyd i Gareth Jones oedd yn mynychu ei gyfarfod diwethaf yn y
rôl Rheolwr yr Uned Weinyddol cyn ymddeol yn Rhagfyr, yn dilyn blynyddoedd o
wasanaeth ffyddlon i’r Gronfa. Diolchwyd
hefyd i’r cyflogwyr am eu cefnogaeth
Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth
Cyllid a’i staff am adroddiad eglur a chynhwysfawr.
Mewn ymateb i’r
cwestiwn, pa risg sydd i gyflogwyr y gronfa petai un cyflogwr yn methu
talu dyledion yn y dyfodol, nodwyd bod y
gronfa yn edrych ar fodolaeth gwarantwr
neu fod cyrff codi treth yn codi arian o drethiant. Petai cyflogwr yn sefyll ar
ben ei hun ac yn mynd i’r wal heb adnodd i’w gefnogi, yna bydd y dyledion yn
cael eu rhannu yn gyfartal ar draws y gronfa. O ganlyniad, ac i osgoi risg,
pwysleisiwyd bod gwirio mynediad i’r gronfa yn hanfodol.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â ffurfio un gronfa ac o ganlyniad, colli allan efallai ar
ein llwyddiant ein hunain, nodwyd bod pwyslais Llywodraeth Cymru erbyn hyn o
uno wedi ei roi i’r neilltu a bod ffocws bellach ar ‘gerbyd buddsoddi’ ar y cyd.
PENDERFYNWYD
DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA
BENSIWN AM 2014/15
Dechreuodd y cyfarfod
am 2.00pm a daeth i ben am
2.50pm.
Dogfennau ategol: