skip to main content

Agenda item

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi'u cadw'n nol i godi wyth ty fforddiadwy (un par a dau teras o dri) ynghyd ag addasu mynedfa bresennol, llecynnau parcio, ffordd i'r ystad a gerddi i'r tai unigol

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Elwyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi'u cadw'n ôl i godi wyth tŷ fforddiadwy (un par a dau deras o dri) ynghyd ag addasu mynedfa bresennol, llecynnau parcio, ffordd i'r ystâd a gerddi i'r tai unigol.

        

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2017 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

         Adroddwyd yn dilyn cyfarfod blaenorol y Pwyllgor bod ychydig o faterion wedi codi. Yn gyntaf, yn sgil sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno asesiad risg llygredd gan arbenigwyr priodol a oedd yn dod i’r casgliad bod y safle’n addas ar gyfer y datblygiad ond yn argymell archwiliadau mwy manwl cyn darparu’r isadeiledd. Nodwyd yr ymgynghorwyd efo CNC ac Uned Gwarchod y Cyhoedd ar gynnwys yr adroddiad ond ni dderbyniwyd ymateb hyd yma. Tynnwyd sylw bod y cyrff yma eisoes wedi datgan bodlonrwydd i’r datblygiad fynd yn ei flaen yn ddarostyngedig i amodau priodol ac felly ni ragwelwyd unrhyw wrthwynebiadau newydd, ond o bosib byddai sylwadau ar y dulliau gweithredu.

 

         Yn ail, derbyniwyd ymateb gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd i’r Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol yn nodi wrth ystyried pwysigrwydd a sicrhau darpariaeth briodol o dai fforddiadwy yn y Sir, byddai’r datblygiad yn debygol o roi cyfle i gadw’r boblogaeth leol yn eu cymuned a thrwy hynny fe all gael effaith positif ar yr Iaith Gymraeg.

 

         Nodwyd y codwyd mater yn y cyfarfod blaenorol parthed darpariaeth llecyn agored ar y safle, cadarnhawyd mai trothwy o 10 uned, a roddir yn y CDLl, lle'r oedd gofyn i ddatblygwr gwneud darpariaeth benodol. Tynnwyd sylw bod y safle tua 50 llath o brif gae chwarae’r pentref ac felly ystyrir bod darpariaeth llecynnau agored digonol eisoes yn bodoli ar gyfer preswylwyr y tai yma. 

 

         Tynnwyd sylw y derbyniwyd cadarnhad, cyn cyfarfod blaenorol y Pwyllgor, bod Cyngor Cymuned Llanddeiniolen yn gefnogol o’r cynllun.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod trigolion cyfagos yn gwrthwynebu’r bwriad;

·         Cydnabod bod lleihad o 12 i 8 tŷ o’r cais blaenorol ond o’r farn ei fod dal yn or-ddatblygiad o’r safle;

·         Byddai caniatáu’r datblygiad ar safle tu allan i’r ffin datblygu yn mynd yn groes i’r CDLl;

·         Cwestiynu’r angen ac os fyddai’r tai yn fforddiadwy;

·         Pryderon o ran diogelwch ffyrdd, byddai cynnydd mewn traffig o ganlyniad i’r  datblygiad gyda damweiniau yn ddiweddar rhwng ceir a gwrthdrawiadau efo plant yn y gorffennol;

·         Bod angen trafodaeth rhwng y Cyngor, y datblygwr a thrigolion o ran y defnydd gorau i’r safle.

 

(c)      Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd y swyddogion:

·         Nad oedd amheuaeth am yr angen am y math yma o dai. Roedd yr Uned Strategol Tai wedi cadarnhau'r angen a Grŵp Cynefin wedi datgan diddordeb mewn datblygu tai ar y safle;

·         Nid oedd y bwriad yn groes i’r CDLl;

·         Ni fyddai cofnod o wrthdrawiadau rhwng ceir gan yr Uned Drafnidiaeth, mater i’r heddlu ydoedd. O safbwynt gwrthdrawiadau ceir efo plant, nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth gofnod o unrhyw ddigwyddiadau. Roedd y datblygiad yn hunangynhwysol efo mynediad da felly nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Pryder o ran yr angen am dai 4 llofft;

·         Ei fod yn bwysig gwrando ar farn leol o ran bod y tir yn llygredig;

·         Pryder o ran mynediad a diogelwch ffyrdd;

·         Pryder o ran risg llifogydd;

·         Bod y bwriad yn golygu gor-datblygiad o’r safle;

·         Croesawu bod y cais am dai fforddiadwy a bod angen am dai cymdeithasol;

·         Dylid rhoi ystyriaeth i newid y lôn i fod yn unffordd neu roi llwybr cerdded i wella’r sefyllfa o ran diogelwch ffyrdd;

·         Bod angen gwrando ar farn yr aelod lleol a byddai’r aelod yn pleidleisio yn erbyn caniatáu’r cais;

·         Pryder na fyddai’r tai yn fforddiadwy;

·         Gresynu bod aelodau yn bwriadu pleidleisio yn erbyn caniatáu cais a fyddai’n darparu tai fforddiadwy i bobl leol;

·         Dylid derbyn barn yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth bod y bwriad yn unol â’r canllawiau;

·         Bod y safle tu allan i’r ffin datblygu;

·         A oedd y tai yn ychwanegol i’r nifer a nodir yn y CDLl?

·         Camgymeriad pe gwrthodir y cais, ddim eisiau derbyn costau yn erbyn y Cyngor o ganlyniad i apêl;

·         Bod yr angen wedi ei brofi a byddai’r bwriad yn galluogi teuluoedd ifanc i aros yn yr ardal.

 

(d)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod tystiolaeth yn dangos bod angen am y math yma o dai a bod 100% o’r tai yn dai fforddiadwy;

·         Gellir rheoli fforddiadwyedd y tai drwy Gytundeb 106 a fyddai’n sicrhau bod y datblygiad yn cyd-fynd efo gofynion tai fforddiadwy;

·         Bod yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth wedi cadarnhau bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt priffyrdd. Dylid rhoi gryn bwysau ar farn y swyddog, felly pe gwrthodir y cais ar sail diogelwch ffyrdd yna cyfeirir y cais i gyfnod cnoi cil;

·         Bod gwybodaeth broffesiynol arbenigol wedi ei roi gerbron parthed diogelwch ffyrdd, felly pe gwrthodir y cais ar y sail yma byddai risg sylweddol i’r Cyngor o ran apêl;

·         Bod Polisi TAI 16 o’r CDLl yn caniatáu, fel eithriad, datblygu cynlluniau tai oedd yn 100% fforddiadwy ar safleoedd a oedd union gerllaw ffin datblygu ac yn ffurfio estyniad rhesymegol i’r anheddle;

·         Byddai’r cais yn cyfrannu tuag at yr angen am dai a adnabuwyd yn y CDLl.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i ymrwymiad cyfreithiol priodol yn ymwneud gyda sicrhau fod yr 8 tŷ yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol, derbyn cadarnhad gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd bod yr adroddiad rheoli risg llygredd yn dderbyniol ac amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

 

1.     Amser cychwyn y datblygiad a chyflwyno materion a gadwyd yn ôl

2.     Deunyddiau i gyd i’w cytuno

3.     Toeau llechi

4.     Rhaid cyflwyno a chytuno manylion trefniant y safle

5.     Amod Dŵr Cymru

6.     Rhaid cyflwyno, cytuno a gweithredu Cynllun Gwaredu Rhywogaethau Ymledol

7.     Rhaid cyflwyno, cytuno a gweithredu cynllun tirlunio a phlannu coed gan gynnwys manylion pa goed sydd i'w gwarchod, sut bydd y coed hyn yn cael eu hamddiffyn yn ystod y datblygiad a rheolaeth y nodweddion hyn yn yr hirdymor

8.     Amodau rheoli risg lygredd 

9.     Dim gwaith clirio’r safle yn ystod y tymor nythu adar

10.   Amodau priffyrdd

11.   Tynnu hawliau datblygiad a ganiateir.

 

          Nodiadau:         

          Dŵr Cymru

          Cyfoeth Naturiol Cymru

Priffyrdd

Dogfennau ategol: