I ystyried cais Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
COFNODION:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr
A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a
rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau. Amlygodd bod y troseddau yn rhai
hanesyddol a'i fod bellach wedi sefydlu busnes llwyddiannus yn cyflogi dau
berson. Nododd ei fod yn berson cyfrifol o gymharu â’i flynyddoedd cynnar ac
nad oedd wedi troseddu ers dros 12 mlynedd. Ychwanegodd ei fod yn gwirfoddoli
fel Marsial Rali Cymru ac wedi cwblhau achrediad diogelwch.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
• gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a
Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
• ffurflen
gais yr ymgeisydd
• sylwadau
llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad
• adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd
yn datgelu collfarnau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Bod cyfres o gollfarnau (Ebrill 1990) wedi eu
datgelu ar gofnod DBS yr ymgeisydd yn cynnwys troseddau gyrru, megis, yfed a
gyrru, gyrru heb ofal, gyrru tra wedi ei wahardd, gyrru heb yswiriant a dwy
drosedd traffig. O ganlyniad, cafodd ei ddedfrydu i 6 mis o garchar am y
drosedd yfed a gyrru, dedfryd o 6 mis ar gyfer gyrru heb ofal (yn rhedeg ar yr
un pryd) a 4 mis o garchar am y gwaharddiad (hefyd yn rhedeg ar yr un pryd).
Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am 5 mlynedd.
Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod y collfarnau yn
gyfystyr â throseddau Yfed a Gyrru a Throseddau Traffig Difrifol oedd yn unol â
pharagraffau 11 a 12 o bolisi'r Cyngor. Wrth ystyried paragraff 11.2 oedd yn
nodi y byddai’n annhebygol rhoi trwydded i ymgeiswyr sydd a mwy nag un gollfarn
am yrru neu fod yn gyfrifol am gerbyd dan ddylanwad alcohol, oni bai bod 10
mlynedd wedi mynd heibio, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon nad oedd y troseddau
yn sail i wrthod y cais oherwydd bod cyfnod o 22 mlynedd wedi pasio ers adfer y
drwydded yrru.
Yr un oedd y farn ynglŷn â’r collfarnau gyrru
heb ofal, gyrru tra wedi ei wahardd, gyrru heb yswiriant a dwy drosedd traffig
a ystyriwyd o dan baragraff 12.2. Gyda mwy na 3 blynedd wedi mynd heibio ers y
troseddau hynny, nid oedd y gwaharddiad o dan baragraff 12.4 yn berthnasol yn
yr achos hwn.
Tynnwyd sylw ar gofnod DBS o fod yn euog o
droseddau meddu ar ganabis gyda bwriad i gyflenwi yn 1992, yn groes i Ddeddf
Camddefnyddio Cyffuriau 1971. Yn yr un modd, roedd y drosedd yn un hanesyddol
ac yn unol â pharagraff 9.3 o’r polisi, nid oedd yn sail i wrthod y cais
Cymerodd yr Is-bwyllgor i ystyriaeth nad oedd yr
ymgeisydd wedi cael unrhyw gollfarnau na rhybuddion ers 12 mlynedd ac felly yn
fodlon ei fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr hacni a hurio
preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy
lythyr i’r ymgeisydd ac y byddai’r Uned Trwyddedu yn cadarnhau trefniant
y drwydded.