I ystyried cais Mr B
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd pawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf
wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
·
Bod yr
unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
·
Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd
·
Bod y cyhoedd
wedi'u diogelu rhag pobl anonest
·
Bod plant a phobl ifanc wedi'u
diogelu
·
Bod pobl
ddiamddiffyn wedi'u diogelu
·
Bod y cyhoedd
yn gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd cynrychiolydd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar
y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau. Nododd bod rhai o’r troseddau
yn hanesyddol, arwahan i un o ymosodiad yn Mehefin
2017. Ymhelaethwyd ar amgylchiadau'r ymosodiad a nodwyd bod yr ymgeisydd
yn cyfaddef ei fod wedi
gwneud camgymeriad. Er yn ymwybodol
o’r drosedd roedd wedi bod yn agored a gonest
wrth gyflwyno’r cais. Nodwyd nad oedd tebygolrwydd y byddai yn ail droseddu
a bod cael gwaith yn gyfle iddo
wella ansawdd ei fywyd a darparu
ar gyfer ei blant. Gofynnwyd
i’r panel rhoi ystyriaeth lawn i’r sefyllfa ac awgrymwyd mai canllaw yn unig
oedd y polisi ac felly bod modd gwyro i
gyrraedd y penderfyniad cywir.
Ymneilltuodd yr
ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu
i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd
Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd
a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu
collfarnau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol.
Bod cyfres helaeth o gollfarnau wedi eu datgelu
ar gofnod DBS yr ymgeisydd oedd
yn cynnwys troseddau (rhwng 1990 a 1998) am ddifrod troseddol, troseddau gyrru, codi cynnwrf, lladrad
ac ymosodiad cyffredin. Roedd yr Is Bwyllgor
o’r farn bod nifer o’r collfarnau
hyn yn berthnasol
i droseddau lladrad gyda’r un mwyaf diweddar wedi ei wneud
yn 1996. Wrth ystyried paragraff 8.2 o’r polisi a bod y troseddau hyn yn
rhai hanesyddol, nid oedd yn
sail i wrthod y cais.
Yr un oedd y farn ynglŷn â’r collfarnau hanesyddol gyrru a thrais lle ystyriwyd
paragraffau 12 a 6.5 o’r polisi.
Roedd yr
Is Bwyllgor er hynny yn amlygu
pryder wrth ystyried collfarn o ymosod ac aflonyddu (Mehefin 2017) lle derbyniodd yr ymgeisydd,
o dan adran 2 o’r Ddeddf Gwarchod
rhag Aflonyddu 1997, orchymyn cymuned o 12 mis, gorchymyn atal a gorchymyn i dalu iawndal
a chostau. Ystyriwyd paragraff 6.5 o’r polisi lle nodir
y bydd cais yn cael ei
wrthod os oes gan yr
ymgeisydd gollfarn sydd yn llai
na 3 blynedd oed cyn dyddiad
y cais. Amlygwyd bod y paragraff yn rhestru
amryw o droseddau gan gynnwys aflonyddu o dan Ddeddf Trefn Cyhoeddus
1986. Roedd yr Is Bwyllgor yn ystyried
aflonyddwch o dan Ddeddf 1997 yn debyg i aflonyddwch
o dan Ddeddf 1986 ac felly yn parhau yn
gymwys i baragraff 6.5 o’r polisi.
Amlygwyd bod y troseddau hyn wedi digwydd
llai na 5 mis yn ôl
- yn amlwg o fewn y cyfnod tair
blynedd ac yn ystyriaeth debygol i wrthod y cais.
Roedd yr Is Bwyllgor yn ymwybodol
mai canllaw yn unig oedd
paragraff 6.5 fel y bu i gynrychiolydd
yr ymgeisydd amlygu. Nodwyd hefyd bod yr Is Bwyllgor yn cydnabod
bod modd iddynt wyro oddi ar
y polisi petai cyfiawnhad digonol i wneud hynny.
Wedi ystyried bod y drosedd wedi codi
o ddigwyddiad domestig yn ymwneud â phartner
yr ymgeisydd, nid oedd yr
Is Bwyllgor yn ystyried bod hyn yn reswm digonol
i wyro oddi
ar y canllaw. Yn ychwanegol, roedd yr Is Bwyllgor
yn bryderus ynglŷn â anghysondebau amlwg yn yr
esboniad a roddwyd ynghylch amgylchiadau’r ymosodiad. Roedd sylwadau llafar yr ymgeisydd yn
cyfeirio at afael yng ngarddwrn ei
bartner tra roedd sylwadau llafar ei gynrychiolydd
yn cyfeirio at yr ymgeisydd yn
gwthio ei bartner.
O ganlyniad nid oedd yr
Is bwyllgor wedi eu darbwyllo yn
ddigonol bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol i dderbyn trwydded
gyrrwr cerbyd
hacni a hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd gyda
manylion am ei hawl i gyflwyno
apêl.