Agenda item
I dderbyn adroddiad llafar gan gynrychiolydd o Trenau Arriva Cymru Cyf.
Cofnod:
Estynnodd y
Cadeirydd groeso i Mr Ben Davies a Mr Lewis Bencher i'r cyfarfod.
Roedd Ms Claire
Williams, Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian oedd newydd ei phenodi,
wedi ymddiheuro am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod ond roedd
wedi anfon adroddiad at Mr Davies ac fe wnaeth yntau ei gyflwyno fel a ganlyn:
Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at weithgareddau cyn ac ar ôl penodiad
Claire. Cyn ymuno â byd Rheilffyrdd
Cymunedol, gweithiodd am bum mlynedd fel Swyddog Partneriaeth Cymunedol gyda
Chyngor Caerdydd ac roedd ei gwaith yn cynnwys holl agweddau Diogelwch
Cymunedol, Iechyd a Llesiant, Materion Amgylcheddol ac Addysg a Chyflogaeth ac
felly gyda chefndir mewn ymgysylltu cymunedol fe ddaw â chyfoeth o brofiad gyda
hi.
Yn ystod y cyfnod byr yma roedd Claire wedi cyfarfod gyda nifer o
bartneriaid ariannu a strategol i gyflwyno ei hun ac i drafod sut y gellid
barhau i weithio ar y cyd i sicrhau nad yw'r gwaith yn cael ei ddyblygu a chael
y gwerth gorau i arian cyhoeddus.
Masnachfraint Rheilffyrdd a chefnogaeth Llywodraeth
Cymru
Yn ddiweddar, roedd
Ms Claire Williams wedi mynychu cyfarfod gyda Threnau Arriva Cymru ble
trafodwyd dyfodol Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol a sut y byddant yn
ffitio i mewn gyda'r fasnachfraint nesaf a bydd yn cyfarfod KeolisAmey a MTR
Corporation (Cymru) Ltd yn yr
wythnosau nesaf.
Arolygon
Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn
falch o gael gweithio gyda Phwyllgor Cyswllt Rheilffordd Amwythig i Aberystwyth
gan gomisiynu arolwg a gynhaliwyd yng ngwanwyn 2017 fel rhan o grant gan
Lywodraeth Cymru. Mae'r arolygon yn
dilyn llwyddiant arolygon 2013 a 2015 a olygodd well gwasanaethau ar Leiniau'r
Cambrian. Cyflwynir canlyniadau'r
arolwg i Gareth Evans, Economegydd Rheilffyrdd Llywodraeth Cymru gan y Pwyllgor
ar Dachwedd 17eg 2017 mewn cyfarfod ym Mharc Cathays.
Ymgyrch Hyrwyddo 201/2018
Derbyniodd y bartneriaeth arian ychwanegol
oedd yn caniatau iddynt baratoi gwefan newydd sbon yn canolbwyntio ar ymwelwyr
ac mae'r wefan bellach yn fyw, y cyfeiriad yw www.walesonrails.com gan gynhrychu mwy o ffilmiau byr fydd yn cael eu
rhyddhau yn Chwefror/Mawrth tan ddechrau'r haf eleni. Bydd yr ymgyrch wedi ei seilio yn
uniongyrchol ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac ar 'Flwyddyn y Môr 2018'.
2018 yw Blwyddyn y Môr ac ar y cyd gyda
Croeso Cymru, TAC and amryfal bartneriaid allweddol eraill cynhelir nifer o
ddigwyddiadau ymgysylltu cymunedol yn ystod y flwyddyn ar sail amrywiaeth o
themâu i bob tymor gyda'r holl ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ardal
Arfordir y Cambrian a rhai yn digwydd ar y trên. Bydd mwy o fanylion ar gael yn y cyfarfod
nesaf.
Ychwanegodd Mr Ben
Davies y bydd Trenau Arriva Cymru yn gweithio'n agos mewn partneriaeth gyda
Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian ac roeddent yn awyddus i gysylltu
cymunedau gyda'i gilydd gan hyrwyddo teithio ar y trên. Un digwyddiad a awgrymwyd oedd troi trên yn
garnifal yn ystod misoedd yr haf, cynnal cystadleuaeth adeiladu castell tywod
yng Nghricieth i ddenu mwy o bobl, gweithio mewn partneriaeth gyda Hafan y Môr
Pwllheli, Croeso Cymru, Rheilffordd Ffestiniog ac ati.
Ail-agor Gorsaf Rhyd y Pennau
Yn ddiweddar roedd Ms Claire Williams wedi
mynychu cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a nifer o
bartneriaid strategol eraill ynglŷn ag ail-agor Gorsaf Rhyd y pennau.
Roedd Adran Drafnidiaeth y DU wedi cyhoeddi canlyniad ceisiadau llwyddiannus a
wnaed i'r Gronfa Gorsafoedd newydd, oedd ar gael tuag at gost arian cyfalaf
cynlluniau i agor gorsafoedd o'r newydd neu ail-agor gorsafoedd oedd wedi cau,
wedi ei hyrwyddo gan drydydd partïon yng Nghymru a Lloegr.
Roedd
y cynllun arfaethedig yn flaenoriaeth trafnidiaeth leol a rhanbarthol yng
Nghynllun Trafnidiaeth Leol ar y Cyd Canolbarth Cymru 2015-2020 a bydd yn
darparu cyfnewidfa cludiant cyhoeddus gyda gorsaf newydd, cyfleusterau parcio i
geir a beiciau i alluogi teithwyr i gael mynediad i wasanaethau bws a
rheilffordd ac i rannu ceir o'r lleoliad yma.
Roedd y cynllun hefyd yn ceisio mynd i'r afael gyda phryderon diogelwch
ffordd lleol drwy darparu gwelliant i gyffordd A487 / A4159 gyda chyfleusterau
teithio llesol. Bydd y cynllun yn
cefnogi ac yn darparu cyfleoedd twf economaidd posib a gwell mynediad i
wasanaethau a chyfleusterau a leolir yn Aberystwyth a'r cyffiniau ac yng
ngogledd Ceredigion.
Er
bod y prosiect ar hyn o bryd yn y cam dylunio, roedd ar y ffordd i'w gwblhau yn
ystod haf 2020.
Cynllun
Busnes 2017-2018
Cyflwynwyd cynllun busnes y flwyddyn ariannol
gyfredol yng nghyfarfod Mawrth o Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian i'w gymeradwyo
gan y rhan-ddeiliaid ariannu.
Cymeradwywyd y cynllun busnes gan y Bartneriaeth ac mae gwaith yn cael
ei wneud arno ar hyn o bryd.
Cymunedau a Gorsafoedd Dementia Gyfeillgar
Fel Swyddog
Datblygu newydd i Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, un o'r amcanion
allweddol yw ymgysylltu â'r gymuned, datblygu cynlluniau i ehangu cyrhaeddiad
PRhC i ystod ehangach o grwpiau yn cynnwys y rhai sydd dan anfantais
gymdeithasol.
Yn unol â'r
cylch gwaith yma mae Claire ar hyn o bryd yn gweithio gyda phartneriaid ariannu
a strategol i wneud Lein Rheilffordd y Cambrian yn Gymuned Dementia Gyfeillgar
ei hun. Mae hon yn dasg enfawr a bydd yn
cymryd tua tair blynedd i'w chyflawni.
Er hynny, mae am ymgymryd â hyn fesul cam o orsaf i orsaf, gan ddechrau
yn y gorsafoedd ble mae swyddogion sef Machynlleth, Abermaw, Pwllheli ac
Amwythig. Gallai hyn wneud Lein
Rheilffordd y Cambrian y Lein Reilffordd Ddementia Gyfeillgar gyntaf yn y
DU. Ar hyn o bryd mae nifer fechan iawn
o orsafoedd DG yng Ngymru ond mae'n credu yn gryf y gellir cyrraedd y nod
yma.
Oherwydd bod
gorsaf Rhyd y pennau yn y cam dylunio, pan gynhaliwyd Asesiad Effaith
Cydraddoldeb i ail-agor yr orsaf gofynnwyd i ni weithio gyda'r Gymdeithas
Alzheimer's i'w gwneud yn Orsaf Ddementia Gyfeillgar.
I gloi, dywedodd
Mr Ben Davies fod Trenau Arriva Cymru wedi tynnu yn ôl o'r broses i wneud cais
i redeg gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru o 2018. Er hynny, bydd y 2000+ o staff yn
trosglwyddo dan delerau ac amodau TUPE i gwmni newydd y fasnachfraint. Bydd Trenau Arriva Cymru yn parhau i wella'r
gwasanaeth i bobl Cymru am yr un mis ar ddeg nesaf.
Nid oedd y tywydd
wedi bod yn ffafriol yn ystod yr haf ac mewn partneriaeth gyda Network Rail
roedd y perfformiad wedi dechrau cynyddu a gall barhau i wneud hynny.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol gwnaeth yr aelodau’r sylwadau a ganlyn:
1. Diolchwyd i Mr Ben Davies am y
diweddariad ynglŷn â'r fasnachfraint newydd, roedd yn ddealladwy fod
gweithwyr Trenau Arriva Cymru yn poeni am eu dyfodol a dyfodol eu
teuluoedd. Roedd swyddi cludiant
cyhoeddus ym Machynlleth yn cael eu gwerthfawrogi ac roedd canran enfawr o
boblogaeth y dref a'r ardal yn dibynnu ar y swyddi hyn am eu bywoliaeth. Roedd y berthynas waith rhwng Trenau Arriva
Cymru a Network Rail yn cael ei gwerthfawrogi a hefyd y gefnogaeth i'r ardal
gan Lywodraeth Cymru.
2. Roedd Trenau Arriva Cymru wedi gwella
dros y blynyddoedd a'r gobaith oedd y byddai'r cwmni fyddai'n llwyddo i ennill
y fasnachfraint yn parhau gyda'r gwaith da a wnaed.
3. Pwysleiswyd pwysigrwydd casglwyr
tocynnau / giard ar y trenau.
4. Nodwyd hefyd y pwysigrwydd o edrych ar
ôl pobl anabl oedd yn defnyddio'r gwasanaethau.
5. Roedd angen adeiladu lloches yng
Nghyffordd Dyfi. Wrth ateb, cytunodd Mr
Ben Davies i holi ymhellach am y mater yma.
6. O ran cyflwyno tocynnau trên i
grŵp o bobl, dywedodd Mr Lewis Brencher fod Trenau Arriva Cymru wedi
buddsoddi mewn cynllun newydd ac yn gweithio i ostwng maint y tocynnau. Yn y dyfodol, bydd teithwyr yn gallu prynu
tocynnau misol yn ogystal â thocynnau grŵp a hefyd gellid lawr lwytho
tocynnau i ffonau symudol.
7. Wrth ateb cwestiwn a fyddai mwy o
gerbydau ar Wyliau Banc o safbwynt agwedd iechyd a diogelwch, dywedodd Mr
Davies nad oedd gan Trenau Arriva Cymru ddigon o drenau - 24 yn rhedeg o Fachynlleth. Y flwyddyn nesaf bydd Trenau Arriva yn
buddsoddi a'r gobaith oedd y byddai mwy o drenau ar gael ar gyfer haf 2018.
8. Roedd yn braf nodi'r amcan i wneud Lein
Rheilffordd y Cambrian yn Gymuned Ddementia Gyfeillgar ei hun. Roedd hyn yn arbennig o bwysig ac fe
awgrymwyd fod Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn cysylltu ag Emma
Quaeck yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog, os yw angen rhagor o
wybodaeth gan fod Emma wedi bod yn cynnal digwyddiadau arbenigol i gleifion
dementia.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r adroddiad a diolch i'r swyddogion am yr adroddiad uchod a'r
sylwadau.