Agenda item

STRATEGAETH GAFFAEL 2014/15

Aelod Cabinet: Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies

 

(A)    Cyflwyno drafft terfynol o’r Strategaeth gan yr Aelod Cabinet Economi  (ynghlwm).

 

(B)    Ystyried y cwestiynau a godwyd yn y Cyfarfod Paratoi  (ynghlwm).

 

10.40am – 11.25am

 

Cofnod:

Cyflwynwyd

 

(a)     Drafft terfynol o’r Strategaeth gan yr Aelod Cabinet Economi.

(b)     Y cwestiynau a godwyd yn y Cyfarfod Paratoi ar 23 Ebrill.

 

Gosodwyd y cyd-destun gan yr Aelod Cabinet ac ymatebodd i gwestiynau’r Cyfarfod Paratoi mewn perthynas â:-

 

·         Llwyddiant y Strategaeth Gaffael flaenorol o safbwynt cyflawni ei holl amcanion.

·         Uchelgais cyffredinol y Cyngor ar gyfer caffael.

·         Taro cydbwysedd rhwng sicrhau gwerth am arian drwy gaffael a chadw’r budd yn lleol.

·         Canlyniadau’r ymgysylltu gyda budd-ddeiliaid yn lleol.

·         Adnoddau ar gyfer gwireddu’r Strategaeth newydd.

·         Addasrwydd y mesuryddion ar gyfer y Strategaeth ddrafft.

·         Sicrhau ymrwymiad a dealltwriaeth ar draws y Cyngor i wireddu’r trefniadau caffael newydd ac amcanion y Strategaeth.

·         Cyfraniad caffael at ganfod arbedion ariannol i’r Cyngor.

·         Rheolaeth categori fel dull o gynnig y cyfle gorau i sicrhau rheolaeth gadarn o drefniadau caffael y Cyngor a gwerth am arian / arbedion ariannol.

·         Gweithrediad e-gaffael ar draws y Cyngor.

·         Y dulliau sydd mewn lle i fesur cydymffurfiaeth gyda gofynion Cynllun Iaith y Cyngor.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau pellach a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd yr Aelod Cabinet, yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni a’r Rheolwr Caffael Corfforaethol i gwestiynau / sylwadau ynglŷn â:-

 

·         Y swm o £185 miliwn a wariwyd gan y Cyngor, yn ystod 2013/14, ar nwyddau, gwaith a gwasanaethau a ddarparwyd gan sefydliadau allanol.  Nodwyd bod y datganiad yn y rhagair i’r Strategaeth yn gamarweiniol ac y dylid gwneud yn glir bod y swm yma’n cynnwys arian sy’n dod i mewn i’r Cyngor, yn ogystal ag arian y Cyngor ei hun.

·         Perfformiad da’r Cyngor yn erbyn y targed gwariant lleol o 45% ac awgrymwyd y dylid defnyddio’r ffigur hwn yn yr adroddiad y tro nesaf.

·         Yr angen i bwyso ar y Cynulliad i sicrhau maes cyfartal i’r cynghorau i gyd o ran mesur perfformiad a darparu ystadegau.

·         Dulliau o gyfarch enghreifftiau lle mae pencadlys cwmni y tu allan i’r ardal, ond y gwaith ei hun yn cael ei gontractio’n lleol.

·         Awgrym y byddai rhoi’r baich ar y cwmni, yn hytrach na’r Uned Gaffael, i ddatgan faint o weithwyr lleol a gyflogir ar gontractau, ayb, yn ychwanegiad defnyddiol iawn.

·         Ymateb i gwynion a sut bydd rheolaeth categori yn creu mwy o arbenigedd o fewn meysydd penodol ac yn cynorthwyo dysgu ar draws.

·         Rôl caffael, yn y ffordd newydd drwy reolaeth categori, fel galluogwr i’r gwasanaethau gyrraedd eu targed effeithlonrwydd.

·         Cais am sicrwydd bod y Cyngor wedi rhoi digon o gyfleoedd i gwmnïau lleol.

·         Dylanwad y Cyngor ar y sector breifat.

·         Osgoi biwrocratiaeth ddiangen.

·         Pwysigrwydd newid diwylliant a’r angen am hyfforddiant adrannol ac ar y cyd.

·         Pwysigrwydd sicrhau nad ydi rhai prosesau e-gaffael yn llesteirio caffael da.

·         Pwysigrwydd ymgysylltu â budd-ddeiliaid lleol a chodi sgiliau lleol.

·         Yr angen i wthio’r ffin cyn belled ag sy’n rhesymol bosib’ o ran yr iaith Gymraeg.

·         Pwysigrwydd darparu arweiniad yn y maes caffael i gynghorau tref a chymuned oherwydd y gallent fod yn cymryd rhai o wasanaethau’r Cyngor drosodd.

 

Diolchwyd i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am y drafodaeth a nodwyd, o bosib’, y gofynnid iddynt ddychwelyd gerbron y pwyllgor hwn maes o law i adrodd ar gynnydd y Strategaeth Gaffael newydd.

 

Dogfennau ategol: