skip to main content

Agenda item

I dderbyn ymateb i’r cwestiynau amgaeedig a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf:

 

(i)            Atodiad 1 -  Cwestiwn gan Gymdeithas Teithwyr Amwythig/Aberystwyth

(ii)           Atodiad 2 – Cwestiwn gan Gyngor Cymuned Llangelynnin

(iii)          Atodiad 3 – Cwestiwn gan Gyngor Cymuned Llangelynnin

(iv)          Atodiad 4 – Cwestiwn gan Cyngor Tref Cricieth

(v)           Atodiad 5 – Llythyr a dderbyniwyd gan Cyngor Tref Porthmadog

Cofnod:

Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno gan Aelodau’r Pwyllgor / Cynghorau Cymuned / ac unigolion ac atebwyd fel a ganlyn:

 

(i)         Fel noddwyr signalu ERTMS a ddefnyddir ar y Cambrian, mae'n ofynnol fod Network Rail yn pwyso ar i bob cerbyd teithwyr sydd wedi eu trawsnewid i gael eu defnyddio ar y rheilffordd.   Mae hyn yn golygu bod Network Rail yn cymryd cyfrifoldeb nad oes cerbydau Dosbarth 158 ar y Cambrian.   Dylid un ai defnyddio'r cyfan o'r 24 uned Dosbarth 158 a'u dyrannu'n briodol neu fod Network Rail yn ariannu trawsnewid cerbydau eraill i gwrdd â'r galw.

 

Wrth ateb, dywedodd Mr Sam Hadley ei fod wedi trafod hyn gyda'r Cyng Trevor Roberts pan gyfarfu ag ef yn Abermaw, mewn perthynas â'r trên stêm.    O safbwynt y  mater ehangach, nid oedd yn sicr pwy oedd yn gyfrifol am hyn.   Roedd Llywodraeth y DU yn edrych i ehangu gwella digidol.    Aeth Mr Lewis Bencher yn ei flaen i ddweud y lleiaf o ddefnydd oedd o'r 158 y tu allan i Lein y Cambrian, roedd mwy o bosibilrwydd o'u defnyddio ar leiniau eraill.   Roedd 24 (158 uned) allan o Fachynlleth yn rif delfrydol ac yn fflyd eithaf sylweddol.

 

Roedd trafodaethau yn parhau gyda Aelod Seneddol Dwyfor/Meirionnydd a dywedodd Mr Hadley y byddai'n diweddaru'r Pwyllgor hwn pan fyddai rhagor o wybodaeth wedi dod i law. 

 

(ii)        Rhwystrau diogelwch/wal derfyn - Prif ffordd (A493) - rhwng Llwyngwril   a'r Friog 

 

Dywedodd Mr Hadley yn dilyn y cyfarfod diwethaf o'r Pwyllgor hwn roedd y mater yma wedi ei godi gyda'r Rheolwr Asedau Llwybrau.   Cynhaliwyd cyfarfod safle rhwng swyddogion o Network Rail ac Ymgynghoriaeth Gwynedd ble cytunwyd y byddai Network Rail yn anfon cylch gwaith i Dylan Davies, Uwch Beiriannydd gyda Ymgynghoriaeth Gwynedd i ymgymryd â'r gwaith.   Ar hyn o bryd nid oedd unrhyw ddyddiad dechrau i'r gwaith, ond addawodd Mr Hadley i roi gwybod i'r Pwyllgor am unrhyw ddatblygiadau.

 

(iii)  Diffyg goleuadau ym maes parcio Gorsaf Llwyngwril

 

Dywedodd Mr Hadley nad oedd Network Rail yn derbyn arian i wneud gwelliannau ond roedd yn falch o gael adrodd eu bod yn edrych ar gynllun goleuo yn y maes parcio gan fod cyfle wedi codi i wneud y gwaith yma.   Nid oedd dyddiad hysbys i'r gwaith ond bydd Mr Hadley yn i roi gwybod am unrhyw ddatblygiadau i aelodau'r Pwyllgor.    

 

(iv)  A yw Trenau Arriva Cymru yn medru sicrhau eu bod yn cynnig gwasanaeth dwyieithog?

 

Dywedodd Mr Ben Davies fod Trenau Arriva Cymru yn ateb gohebiaeth yn ddwyieithog ond roeddent yn cael trafferth gyda gwasanaeth dwyieithog ar y trenau oherwydd diffyg ariannu. Hyderir y bydd cwmni llwyddiannus y fasnachfraint newydd yn gallu cynnig gwasanaeth cyhoeddi dwyieithog yn y gorsafoedd ac ar y trenau.   

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at lythyr a dderbyniwyd gan Gyngor Tref Porthmadog am ddiffyg defnydd a blaenoriaeth i'r Gymraeg.   Dywedodd hefyd fod y mater uchod wedi ei drafod yn y Pwyllgor hwn am nifer o flynyddoedd heb unrhyw lwyddiant ac roedd yn flaenoriaeth i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio a bod enwau Cymraeg yn cael eu hynganu yn gywir mewn cyhoeddiadau ar drenau ac ar hysbysiadau mewn gorsafoedd.  

 

Wrth ymateb, dywedodd Mr Davies fod y cyhoeddiadau yn cael eu gwneud drwy system tecst i siarad ac nid oedd bob amser yn cael ei ddweud gan berson.    Er hynny, dywedwyd ymhellach fod staff oedd ddim yn siarad Cymraeg yn cael cyfle i ddysgu'r iaith ac yn cael eu hannog i siarad Cymraeg.  Roedd Cwmni oedd yn gallu darparu'r gwasanaeth yn y Gymraeg ond dywedodd Mr Davies eto y byddai’n ddrud iawn ac nad oedd gan Trenau Arriva Cymru unrhyw arian.

 

(v)  A yw Arriva am ystyried cael un trên cyflym y dydd nôl ac ymlaen o’r Gogledd I’r De? 

 

Nododd Mr Davies nad oedd hyn am ddigwydd ac ychwanegwyd y byddai’n fater i’r masnachfraint newydd i’w ystyried.

 

(vi)  A yw Arriva am ystyried cynnig gwasanath arlwyo ar y trên rhwng Pwllheli a Machynlleth?

 

Addawodd Mr Davies y byddir yn edrych i fewn i’r uchod ac y byddai’n fwy na bodlon trafod ymhellach hefo unrhyw un a fyddai’n barod i gynnig y gwasanaeth.

 

(vii)      Nid oes gan y stesions trên rhwng Pwllheli a Machynlleth beiriannau tocynnau – ac mai’n anghyfleus nad oes modd printio tocynnau wedi eu prynu o’r We neu medru eu lawrlwytho ar app.  A oes modd datrys hyn?

 

Mewn ymateb nododd Mr Davies nad oedd bwriad i osod peiriannau oherwydd diffyg lle yn y gorsafoedd.  Fodd bynnag, fe fyddir yn cyflwyno technoleg newydd a fyddai ar gael i bawb a bod yn rhaid ystyried pob ffurf i werthu tocynnau gan ystyried hefyd cynnal a chadw a dibynadwyedd.

 

(viii)     A oes modd cael arwyddion i’r stesion drên yng Nghricieth?

 

Addawodd Mr Davies i ystyried yr uchod ymhellach a nododd Mr Sam Hadley y byddai Network Rail yn cefnogi os y gallent.

 

Os yw’r cwestiwn yn cyfeirio at arwyddion lliw brown, byddai’n rhaid cyfeirio’r mater i’r Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd, Cyngor Gwynedd.

 

Penderfynwyd - Derbyn a nodi'r adroddiad gan ddiolch i’r swyddogion am eu hatebion i'r cwestiynau uchod a'u bod yn cymryd camau gweithredu priodol lle bo angen.  

 

Dogfennau ategol: