skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant.

Cofnod:

Nodwyd yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 28 Medi 2017, roedd y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant yn bresennol i drafod trefniadau DoLS.

 

Nododd y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant bod yr Uwch Reolwr Galluogi wedi bwriadu bod yn bresennol yn y cyfarfod ond ei bod yn rhoi cyflwyniad i Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i’r gwaith integreiddio efo iechyd yn Ysbyty Alltwen.

 

Nododd y Pennaeth ei fod yn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor bod yr Adran yn cymryd y mater o ddifrif ac yn ymrwymo'r adnoddau staffio y gellir ei roi tuag at y gwaith. Eglurodd bod ymateb i lwyth gwaith yn deillio o asesiadau DoLS yn heriol a bod y Llywodraeth efallai’n synhwyro bod y trefniadau yn fwy trwm na fwriadwyd yn wreiddiol. Nododd bod symudiad i weithio o fewn 5 Ardal Llesiant wedi effeithio ar gyflawniad asesiadau. Cadarnhaodd bod trefniadau yn eu lle i ryddhau swyddogion a oedd efo’r achrediad Best Interest Assessors (BIA) am ddiwrnod pob mis i gynnal un asesiad. Nododd bod y rhestr aros am asesiad yn lleihau yn raddol ond bod swyddogion yn gorfod ymateb i achosion brys a bod llawer o achlysuron lle'r oedd rhaid ail-ymweld yn dilyn cynnal asesiad sylfaenol.

 

Tynnodd sylw bod rhaid ystyried effaith posib blaenoriaethu’r gwaith yma dros elfennau eraill o waith ddydd i ddydd yr Adran. Pwysleisiodd bod trefniadau a capasiti staffio y Tim Diogelu a Sicrwydd Ansawdd mewn lle a’i fod yn hyderus y gellid codi momentwm y gwaith i geisio lleihau’r rhestr aros.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn:

·        Gellir rhannu gwybodaeth am berfformiad cwblhau asesiadau DoLS ar ddiwedd Chwarter 3 efo aelodau’r Pwyllgor;

·        Er bod 29 o staff yr Adran wedi cymhwyso fel swyddogion BIA, roedd absenoldeb salwch tymor hir, cytundebau gwaith rhan amser, cyfnodau mamolaeth a phenodiadau i swyddi eraill yn golygu mai tua 20 o swyddogion oedd ar gael ar gyfer cyflawni asesiadau;

·        Bod capasiti staffio llawn yn yr Uned Diogelu a gellir asesu os oedd y trefniadau presennol yn llwyddo o fewn oddeutu 6 mis;

·        Bod y sefyllfa o ran rhestr aros ar gyfer asesiadau DoLS yn gyffredin ymysg cynghorau ar draws Cymru. Roedd rhai cynghorau wedi ymrwymo adnoddau newydd er mwyn cael eu rhestrau aros i lawr yn sylweddol;

·        Gallai canolbwyntio adnoddau ar leihau’r rhestr aros effeithio rhyw gymaint ar yr amserlen o integreiddio gwasanaethau gydag iechyd. Roedd rhestr aros uchel am wasanaethau yn Ne Meirionnydd ac yn anodd recriwtio staff gofal wedi cymhwyso. Byddai newid yr amserlen yn cael effaith felly roedd angen cael balans. Derbyn bod nifer ar y rhestr aros am asesiadau DoLS yn risg ond byddai blaenoriaethu’r gwaith yn cael effaith ar restrau aros eraill. Roedd rhaid pwyso a mesur a bod yn rhesymegol;

·        Nad oedd ateb delfrydol ond fe roddir blaenoriaeth i achosion brys. Adnabyddir yr achosion risg uchel ac ymateb iddynt. Pwysleisio bod y rhan fwyaf ar y rhestr aros am asesiadau DoLS yn rhai ail-ymweld.

 

Nododd y Rheolwr Archwilio bod amserlen ail asesiad yn gallu amrywio gyda rhai achosion yn teilyngu ail asesiad o fewn mis o’r asesiad gwreiddiol yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn. Ychwanegodd bod y Cyngor yn cynnal hyfforddiant ar gyfer cartrefi preswyl preifat gan arwain at gynnydd mewn nifer o gyfeiriadau am asesiadau DoLS felly roedd yn anorfod bod y rhestr aros yn mynd i gynyddu.

 

Ategodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant y sylwadau uchod gan nodi bod anghenion yn gallu newid a pan fo un achos yn codi mewn rhai cartrefi preswyl preifat bod oddeutu 30 cais am asesiad DoLS yn cael eu cyflwyno, unwaith roeddent yn cael eu cyflwyno roedd angen rhoi’r sylw priodol iddynt.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn yr adroddiad;

(ii)    bod y Gweithgor Gwella Rheolaethau yn derbyn diweddariad gan yr Uwch Reolwyr perthnasol o fewn 6 mis ar drefniadau DoLS.

Dogfennau ategol: