I ystyried adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.
Cofnod:
Cyflwynwyd: Adroddiad y Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion
rheolaethol yr Harbwr gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-
(a)
Atgoffwyd yr Aelodau bod
angen cyflwyno cyfansoddiad a chofnodion blynyddol cyfredol y mudiadau /
sefydliadau maent yn gynrychioli ar y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr er mwyn sicrhau
aelodaeth cymwys o’r Pwyllgor yn unol â phenderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd yn
2014. Rhestrwyd y mudiadau hynny nad
oedd wedi anfon y dogfennau perthnasol fel a ganlyn:
·
Pwyllgor Gwelliannau
Aberdyfi
·
Cymdeithas Pysgodfeydd
Bae Ceredigion
·
Clwb Cychod Aberdyfi
·
Clwb Hwylio Dyfi
·
Clwb Rhwyfo Aberdyfi
Deallir nad yw Partneriaeth Aberdyfi na
Siambr Fasnach Aberdyfi yn bodoli mwyach.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod a disgwylir i’r mudiadau uchod anfon y dogfennau perthnasol ymlaen
i’r Swyddog Cefnogi Aelodau.
(b)
O safbwynt niferoedd
angorfeydd yn yr Harbwr gwelwyd leihad o 1 o’i gymharu â 2016 gyda chynnydd yn
y badau dŵr personol. Siomedig fu’r
tywydd a oedd yn cael effaith ar yr harbyrau ar draws y Sir ond braf ydoedd
nodi bod cychod o Gonwy wedi ymweld â harbwr Aberdyfi a hyderir y byddent yn
ymweld eto i’r dyfodol.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod.
(c)
Cod Diogelwch Morwrol
Derbyniwyd archwiliad gan Asiantaeth Gwylwyr
y Glannau ac yn deillio o’u hadroddiad cyfeiriwyd at fân elfennau a oedd angen
sylw yn Harbwr Aberdyfi megis tacluso o amgylch y cei gan fod nwyddau a rhaffau
wedi eu cadw mewn ffordd a allasai achosi risg.
Fe fydd yr archwilwyr yn ymweld a’r gwasanaeth ymhen blwyddyn a’r bwriad
ydoedd gwahodd aelodau’r Pwyllgorau Harbwr i un cyfarfod canolog er mwyn derbyn
gwybodaeth gan yr archwilwyr ynglyn â phrif materion y Cod Diogelwch. Rhagwelir
bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ym Mhorthmadog.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, gwnaed y
pwyntiau canlynol:
Ymatebodd y Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig a’r Harbwr Feistr i’r uchod fel a ganlyn:
(i)
Tra’n cydymdeimlo gyda’r Clwb Hwylio o
safbwynt gofod iddynt yn yr aber yn sgil gosodiad yr angorfeydd, eglurwyd bod y
sianel yn culhau a’r Harbwr Feistr yn ceisio ei orau i beidio cymryd gormod o
le a gwerthfawrogir y cydweithrediad parod gan y Clwb Hwylio ar bob achlysur
(ii)
Gwelwyd gwelliant o ran
problemau gyda’r badau dŵr personol ac unwaith y derbynir trefniant
cenedlaethol, fe ellir anfon neges allan i phob morwr
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod.
(ch) Mordwyo
Adroddwyd bod yr Harbwr Feistr yn gwneud ei
orau i gadw’r cymhorthyddion ar safle a sicrhawyd y byddai Bwi Rhif 2 ar y
safle cyn Gwyl Y Pasg.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod.
(d)
Cynnal a Chadw
Amlinellodd yr Harbwr Feistr ei raglen waith
dros gyfnod y gaeaf fel a ganlyn:
Nododd y Swyddog Morwrol mai 6 cerbyd sydd
gan y Gwasanaeth ond nad oedd ‘run cerbyd yn Aberdyfi nac Abermaw. Mawr hyderir y bydd cerbyd ar gael cyn
Nadolig ac un i Abermaw erbyn flwyddyn newydd.
Roedd yr Harbwr Feistr wedi bod yn defnyddio ei gerbyd ei hun i glirio
anifeiliad oddi ar y traeth megis defaid, llamhidyddion, a.yb.
O safbwynt y llwybr pren ar draws y llain
golff, bod angen cysylltu â chyrff perthnasol am gyfraniadau ariannol i’w
atgyweirio. Roedd y llwybr wedi bod ar
gau ond hyderir y gellir gwneud gwaith ddechrau’r flwyddyn newydd.
Nododd y Cadeirydd ei bod yn anodd deall pam
ei fod wedi cymryd cyhyd i gael cerbyd i Aberdyfi ac yn enwedig yr angen o’i
ddefnydd ar dywydd garw. Ychwanegodd
Aelod arall bod cyfrifoldebau’r Harbwr Feistr yn ymestyn cyn belled â Fairbourne
ac roedd yn hanfodol iddo gael cerbyd i fedru ymgymryd â’i ddyletswyddau. Awgrymwyd y dylid dwyn y mater i sylw’r Aelod
Cabinet Economi a phwysleisio’r ffaith bod gwir angen cerbyd ar gyfer yr Harbwr
Feistr yn Aberdyfi.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod.
(dd) Materion Staff
Adroddwyd bod y bartneriaeth gyda’r
Cymhorthydd Harbwr Aberdyfi yn gweithio’n wych a’r cyfnod cyflogaeth wedi
ymestyn tan diwedd Rhagfyr.
Cymerodd y Cadeirydd y cyfle ar ran y
Pwyllgor Ymgynghorol i ddiolch i’r Harbwr Feistr a’r staff am eu gwaith
clodwiw.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod.
(e) Materion
harbwr a thiroedd
(i)
Adroddwyd bod cawelli yn
cael eu storio ar y cei a phwysleiswyd yr angen am gydweithrediad y pysgotwyr
i’w cadw yn daclus er diogelwch y cyhoedd.
Hyderir i’r dyfodol y gellir cael lle diogel ar y tir comin ar gyfer eu
storio. Pwysleislwyd yr angen hefyd i’r
defnyddwyr masnachol beidio parcio cerbydau ar ochr y cei am gyfnodau hir, eto
oherwydd diogelwch risg i’r cyhoedd, heblaw ar gyfer llwytho a dad-lwytho
nwyddau neu bysgod. Bydd yn rhaid i’r
trefniadau newid yn 2018 ac efallai y gellir cael trefniant ar gyfer cael tocyn
parcio iddynt i barcio yn y maes parcio.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd:
·
bod cawelli ac offer
pysgota yn nodweddol o Harbwr gweithiol
·
pwysgirwydd i gael
presenoldeb cynrychiolaeth o’r gymdeithas pysgotwyr i gyfarfodydd y Pwyllgor
Ymgynghorol hwn. Awgrymwyd i gysylltu â
chynrychiolydd y Gymdeithas Pysgotwyr ar ran y Pwyllgor i ofyn a fyddai modd
enwebu eilydd ymhlith y pysgotwyr lleol i fynychu ar ei ran pe byddai
angen
·
bod materion diogelwch
yn hynod bwysig ac roedd nifer o gynlluniau dros y blynyddoedd wedi dwyn
ffrwyth i geisio gwella diogelwch y cyhoedd, megis siacedi achub addas,
a.y.b. Deallir bod Llywodraeth yr Alban
yn cyflenwi siacedi achub am ddim a hyderir y bydd Llywodraeth Cymru yn dilyn
yr un trywydd.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod a chysylltu â chynrychiolydd y Gymdeithas Pysgotwyr, ar ran y
Pwyllgor Ymgynghorol, i ganfod a fyddai modd ethol cynrychiolydd ymhlith y
pysgotwyr lleol i fynychu’r Pwyllgor ar ei ran, ar achlysuron pan nad oedd yn
medru mynychu’r cyfarfod.
(ii)
Dŵr Ymdrochi
Adroddwyd bod canlyniadau’r dŵr ymdrochi wedi gwella flwyddyn mewn
cymhariaeth a flwyddyn diwethaf gyda
Thraeth y Fynwent hefyd yn parhau i’w brofi gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.
(iii)
Arwyddion
Diogelwch
Adroddwyd bod swyddogion y Gwasnaeth Morwrol
wedi cynnal trafodaethau gyda Josh Cooper o Fudiad y Bad Achub, ynghyd â’r ddau
aelod lleol. Roedd lleoliadau wedi eu
cytuno ar gyfer gosod yr arwyddion diogelwch a hyderir y bydd adroddiad
terfynol cyn y Nadolig gyda’r arwyddion yn eu lle erbyn 1 Ebrill 2018. O safbwynt arwyddion yn Abermaw, hyderir y
bydd yr arwyddion yn eu lle erbyn Awst.
Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynglyn â
phostyn sydd yn dal y bwi achub yn Harbwr Penhelyg, cadarnhaodd yr Harbwr
Feistr y byddai’n cael ei adnewyddu.
Nododd cynrychiolydd y Bad Achub eu bod yn
gwneud cyhoeddiadau o beryglon y môr a nodwyd bwysigrwydd i osod arwyddion
rhwng Tywyn ac Aberdyfi yn enwedig i godi ymwyddiaeth o lanw terfol.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod.
(f) Materion Ariannol
Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig
yr Aelodau drwy’r fantolen ariannol gan nodi fel a ganlyn:
Ar gyfer diwedd Medi 2017 nodwyd bod yr incwm
yn fyr o £2,283.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod.
(ff) Ffioedd a thaliadau 2017/18
Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y
byddir yn cynyddu’r ffioedd 2% ar gyfartaledd ar gyfer y flwyddyn ariannol
2017/18 er cwrdd â her gyllideb a tharged incwm y gwasanaeth.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod.
(g) Digwyddiadau
Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig
mai braf ydoedd gweld cymaint o weithgareddau amrywiol yn yr gymuned. Cyfeiriwyd yn benodol at daith ar fadau
dŵr personol o Morfa Bychan i Aberdyfi yn ystod yr haf a chanmolwyd y trefniadau
ar y diwrnod. Hyderir y bydd y gweithgaredau
yn parhau ac yn cael eu cynnal eto flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, nodwyd bod angen adolygu’r
gweithgareddau fel rhan o’r Dyfi Fest yn benodol elfennau iechyd a diogelwch a
gynhaliwyd ar y cei (castell neidio). Pe
bydd y Dyfi Fest yn cael ei gynnal flwyddyn nesaf, awgrymyd efallai y gall
gweithredwr y castell neidio gael cyflenwad trydan o’r Harbwr yn hytrach na
defnyddio generadur.
Mewn ymateb i gais ar gyfer ail-leoli yr
orsaf dywydd gan ei fod wedi ei leoli yn y man anghywir ar y cei, awgrymodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i Mr Des George drafod a chytuno lleoliad
addas gyda’r Harbwr Feistr ar y cyfle cyntaf.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod.
Dogfennau ategol: