Adeiladu 5 o dai unllawr gyda un i fod
yn dŷ fforddiadwy.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gruffydd Williams
Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol
Cofnod:
Adeiladu 5 o dai unllawr gydag un i fod yn
dŷ fforddiadwy.
Roedd
yr Aelodau wedi ymweld â’r safle
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais gan egluro bod y cais wedi bod gerbron Pwyllgor Cynllunio 25 Medi 2017 lle
penderfynwyd gohirio y cais er mwyn i‘r aelodau ymweld â’r safle ac i’r
ymgeisydd gael cyfle i ymateb i’r rhestr aros am randiroedd a dderbyniwyd gan
Gyngor Tref Nefyn.
Eglurwyd bod y tir oedd hefyd ym
mherchnogaeth yr ymgeisydd, eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio i adeiladu 10
o dai annedd deulawr. Fel rhan o’r
caniatâd hwnnw, roedd bwriad cadw safle’r cais presennol fel 16 o randiroedd ac
mae amod ar y caniatâd cynllunio hwnnw C12/1372/42/LL i sicrhau fod y tir yma
yn cael ei ddefnyddio fel rhandiroedd.
Amlygwyd bod yr ymgeisydd (yn Medi 2016) wedi cynnal arolwg o’r rhandiroedd
yn Y Ddol (dafle dros dro) i asesu faint o’r 21 oedd
mewn defnydd. O’r wybodaeth a gyflwynwyd
dim ond 10 allan o’r 21 rhandir gyda chaniatâd cynllunio oedd yn cael eu
defnyddio. I’r gwrthwyneb roedd Cyngor
Tref Nefyn wedi nod bod 37 enw ar restr aros am randiroedd. Ni dderbyniwyd copi
o’r rhestr aros yma. Cyfeiriwyd at y dystiolaeth oedd ar gael ac sut ‘roedd hwn
wedi ei asesu yng nghyd y galw am randiroedd a’r cyd-destun polisi.
Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin ddatblygu Nefyn ac
felly rhaid oedd ystyried yr egwyddor o ddatblygu’r safle ar gyfer tai o dan
Bolisi TAI 2 CDLL. Nodwyd bod y
polisi yn gefnogol i ddarparu tai o fewn
ffin ddatblygu canolfannau gwasanaeth lleol.
Fel rhan o’r cais amlygwyd bod yr ymgeisydd yn fodlon arwyddo cytundeb
106 yn clymu un o’r tai fel uned fforddiadwy.
Byddai hyn yn gyfwerth ac 20% o’r tai ac sydd yn fwy na’r gofyn ar gyfer
Nefyn, ac ystyriwyd yn sgil arwyddo cytundeb 106 tai fforddiadwy byddai yn
clymu un o’r unedau ar gyfer angen fforddiadwy, y byddai’r bwriad yn bodloni
gofynion Polisi TAI 15. Yn ychwanegol,
byddai 4 o’r unedau gydag arwynebedd llawr mewnol o oddeutu 56 medr sgwâr sydd
oddi fewn i’r uchafswm maint tai fforddiadwy unllawr
dwy ystafell wely a argymhellir yng Nghanllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy
sef 80 medr sgwâr.
Roedd y
datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol
am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau
canlynol:-
·
Bod
angen gwarchod rhandiroedd Maes y Garn oherwydd pwysigrwydd y safle o fewn hanes
Nefyn
·
Mai
safle dros dro yn unig
oedd Y Ddol a byddai dymuniad i ddychwelyd i
Maes y Garn unwaith y byddai’r cais cynllunio
wedi ei gwblhau
·
Nad oedd tir Y Ddol yn
addas – yn dir gwael, gwlyb
gyda nifer o’r garddwyr wedi
colli cnydau dros y tymor diwethaf
·
Bod
gwelliannau i safle Y Ddol wedi
ei gweithredu, ond nid oedd
hyn wedi gwella cyflwr y tir
·
Yn dilyn hysbysiad yn Llanw
Llŷn - 16 o unigolion wedi dangos diddordeb
yn hytrach na 3 - y wybodaeth yn anghywir
(c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais
(ch) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwynt canlynol gan Aelod unigol:
·
Bod
y datblygiad o fewn y ffin
(d)
Mewn ymateb i sylw ynglŷn
â gofynion i’r dyfodol o ystyried y Ddeddf Llesiant lle y gallai’r ymgeisydd gyfrannu at wella safon rhandiroedd Y Ddol, amlygodd yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi dangos parodrwydd i wella’r safle ac ymrwymiad i
gyfraniad ariannol.
(dd) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r
gwahaniaethau rhwng Maes y Garn a thir Y Ddol o ran perchnogaeth, amlygwyd mai
tir preifat oedd Maes y Garn a thir o dan berchnogaeth Cyngor Gwynedd oedd Y
Ddol lle mae gan y Cyngor ddyletswydd i ddarparu'r tir - byddai mwy o
warchodaeth i dir Y Ddol
(e)
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â phwy fydd yn byw
yn y tai, amlygwyd bod pobl leol wedi
dangos dymuniad i fyw ynddynt.
O ran eu maint, eglurwyd eu bont
yn dai fforddiadwy
o safbwynt eu natur a’u lleoliad
– ar safle sydd yn gyfleus
ar gyfer gwasanaethau yn y pentref.
PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r
Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig
i arwyddo cytundeb 106 ar gyfer clymu un o’r tai fel tŷ
fforddiadwy ac i gytuno ar ddull
priodol i sicrhau cyfraniad ariannol tuag at wella cyfleusterau llecyn agored / chwarae yn y gymuned,
a hefyd i amodau -
1. Cychwyn o fewn
5 mlynedd.
2. Unol gyda’r cynlluniau.
3. Cytuno llechi
to.
4. Cytuno wyneb
allanol.
5. Tynnu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer
estyniadau ac adeiladau cwrtil ar gyfer
y tŷ fforddiadwy.
6. Amod Dŵr
Cymru
7. Llefydd
parcio i’w cwblhau yn unol
gyda chynlluniau ac i fod yn
weithredol cyn i’r tai gael eu
meddiannu am y tro cyntaf.
Dogfennau ategol: