Agenda item

Deddf yr Amgylchedd 1995. Cais ar gyfer cymerdawyo amodau er mwyn ail-agor safle tywod a graean segur dan ganiatad cynllunio 2250 dyddiedig 10 Rhagfyr 1951 - cae rhif 297, Cae Efa Lwyd, Penygroes.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Judith Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Deddf yr Amgylchedd 1995. Cais i benderfynu ar amodau i ailgychwyn safle tywod a graean segur dan ganiatâd cynllunio 2250 dyddiedig 10 Rhagfyr, 1951 - cae rhif 297, Cae Efa Lwyd, Penygroes

 

(a)      Pwysleisiodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff mai cais ydoedd am Adolygiad Safleoedd Mwynau o dan Ddeddf Cynllunio yr Amgylchedd 1995 ar gyfer cymeradwyo cynllun gwaith a rhestr o amodau ar safle mwynau segur. Ategwyd nad oedd modd i’r Pwyllgor Cynllunio wrthod y cais ac mai cytuno ar  amodau newydd oedd gerbron. Amlygwyd bod angen cymhwyso amodau llawn, modern y dylai datblygiad y chwarel fod yn ddarostyngedig iddynt. Eglurwyd na ellir yn gyfreithiol ailgychwyn caniatadau segur heb fod cais wedi ei wneud i’r Awdurdod Cynllunio Mwynau (ACM) a bod amodau modern llawn wedi eu cymeradwyo. Cynigiwyd rhestr o amodau cynllunio newydd gan yr ymgeisydd ynghyd a rhestr diwygiedig o amodau gydag addasiadau gan yr ACM. Nodwyd bod yr ACM wedi herio amodau’r ymgeisydd ac wedi cynnig amodau rhesymol oedd yn cynnwys rheolaethau llwch, cyfyngiadau sŵn ynghyd a chyfyngu oriau gwaith.

 

Tynnwyd sylw'r Aelodau at yr angen iddynt hefyd wneud penderfyniad ar gais cynllunio perthnasol / arwahan ar gyfer creu mynediad newydd i gerbydau wasanaethu’r pwll tywod a graen o dan gyfeirnod C17/0455/22/LL. Yn ogystal â chymeradwyo'r cynllun gwaith a’r amodau gofynnwyd hefyd i’r Pwyllgor ystyried amserlen y gwaith gyda dewis o 4 blynedd a chloddio 100,000 tpa a chreu mynedfa newydd, neu 8 mlynedd a chloddio 50,000tpa yn defnyddio'r fynedfa bresennol.

 

Amlygwyd bod nifer o wrthwynebiadau wedi eu derbyn ynghyd a deiseb yn gwrthwynebu ar sail effeithiau ar fwynderau trigolion cyfagos.

 

(b)       Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau canlynol:

·         NA i ail agor y chwarel. NA i’r Pwll Gro

·         Anghysondebau mawr yn yr adroddiad a’r asesiadau

·         Dylid defnyddio synnwyr cyffredin

·         Bod posib cloddio mewn tri chae arall cyfagos - hyn yn codi amheuon trigolion

·         Bod tai cyfagos o fewn 30m i’r chwarel

·         Chwerthinllyd yw defnyddio geiriau megis ‘limited impact’

·         Derbyn bod amodau ar gyfer golchi lorïau, ond beth am ddillad a byd natur

·         Bod diogelwch iechyd dynol yn flaenoriaeth

 

(c)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd, y pwyntiau canlynol:

·         Bod y chwarel yn cyfrannu at yr economi leol

·         Byddai’r gwaith yn cyflogi 15 swydd llawn amser

·         Bod y graean o safon dda ac yn cael ei brosesu yn lleol

·         Bod manteision i’r cais amgen fyddai yn cyfyngu cloddio i 4 mlynedd yn hytrach na 8

·         Bod trafodaethau wedi ei cynnal gyda’r ACM a bod cytundeb ar rai ohonynt

·         Bod modd cydymffurfio yn effeithiol.

 

(ch)   Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol:-

·         NA i’r Pwll Gro ac NA i’r Fynedfa Newydd

·         Byddai llygredd a sŵn am flynyddoedd

·         Esgor  pryderon – effaith ar fwynderau a lles trigolion cyfagos

·         Bod safonau iechyd cyhoeddus gwahanol i’r rhai oedd yn bodoli yn 1951

·         Bod anghysondebau yn yr asesiadau ac yn yr ymchwiliadau oedd ynghlwm a’r cais

·         Bod yr asesiadau yn rhai hanesyddol a chyffredinol; yn anghyson a chamarweiniol

·         Bod ymchwiliadau Vibrock yn defnyddio enghreifftiau cyffredin ac yn ailgylchu gwybodaeth o un asesiad i un arall - yn defnyddio'r un dadleuon. O ganlyniad cwestiynnau yn codi ynglŷn â hygrededd yr asesiadau

·         Yng nghyd-destun llwch, nid oes pellter diogel yn ôl cyfarwyddyd gan y World Health Organisation

·         Bod y chwarel yn peryglu iechyd trigolion lleol

·         Ni ddylid ystyried ail agor chwareli cysglyd - angen dilyn polisïau cyfredol

·         Erfyn ar y Pwyllgor i rwystro'r datblygiad

 

(d)      Mewn ymateb i’r sylwadau nododd yr Uwch Reolwr GwasanaethCynllunio ei fod yn derbyn bod y cais yn un sensitif ac anodd i’r Pwyllgor yn wynebu cyfyngiadau ar eu penderfyniad. Adroddodd mai cyfrifoldeb y datblygwr oedd cyflwyno asesiadau a bod yr Adran Cynllunio wedi herio sawl mater.

 

Cyflwynwyd y Swyddog Iechyd Amgylchedd i ymateb i’r pryderon. Nodwyd,

·         Bod swyddogion wedi bod yn herio y cais ers 2014

·         Y prif nod oedd cyrraedd sefyllfa lle nad oedd y gymuned leol yn wynebu problemau

·         Bod amodau caeth wedi eu gosod ar y datblygiad ac mai cloddio yn unig oedd y dull gorau yma ac nid prosesu

·         Yng nghyd-destun niwsans gweladwy, nodwyd bod modd gosod amod rheolaeth ynghyd a rheoli effaith ar iechyd y gymuned drwy osod lefelau priodol lle byddai modd monitro'r sefyllfa petai cwynion ansawdd aer yn cael eu cyflwyno

·         Bod swyddogion yn ffafrio opsiwn 4 mlynedd oherwydd llai o sgil effaith o beidio defnyddio mynedfa ger y tai.

·         O ran sŵn, nodwyd bod amod i osod ‘buffer’ ychwanegol wedi ei gynnwys

 

(dd)   Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gwahardd ail gloddio, amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod hyn wedi cael ei ystyried, ond bod perchennog y chwarel wedi cyflwyno ffigyrau ar gyfer y gronfa wrth gefn a ganiateir mewn ymateb i Arolygon Mwynau RAWP. Yn ogystal, mae'r ACM wedi derbyn ymholiadau penodol yn ymwneud â'r safle dros nifer o flynyddoedd.

 

(e)      Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais ar sail iechyd a diogelwch ac am nad oedd y ffordd yn  addas ar gyfer ymdopi a’r llwythi trwm. Bod  angen cyflwyno gwelliannau cyn gweithredu.

 

(f)        Atgoffodd y Swyddog Monitro  nad oedd modd i’r Pwyllgor wrthod y cais gan fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli o fewn y Ddeddf ac mai swyddogaeth y Pwyllgor oedd penodi amodau priodol newydd ar gyfer y cais. Amlygodd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno 30 amod fyddai yn weithredol oni bai bod y swyddogion wedi eu herio a gosod 42 amod caeth iawn a phriodol.

 

(ff)      Ni dderbyniwyd bod y cynnig yn un priodol i wrthod y cais

 

(g)      Cynigiwyd ac eiliwyd, gyda phryder, i gytuno i’r amodau diwygiedig er mwyn sicrhau rheolaeth ar y datblygiad.

 

(h)      Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i gytuno i’r amodau diwygiedig a chynnig mynedfa newydd ar gyfer opsiwn cloddio 4 mlynedd a/neu opsiwn cloddio 8 mlynedd

 

(i)        Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant pellach i gynnal trafodaethau pellach, gan gynnwys trigolion lleol, cyn gwneud penderfyniad terfynol.

 

(ll)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod angen cynnal trafodaeth agored gyda’r gymuned i rannu gwybodaeth

·         Bod angen i’r ymgeisydd, y swyddogion yr Aelod Lleol a’r trigolion lleol ddod at ei gilydd i drafod yr amodau

·         Bod cefndir a natur y cais yn anodd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad

·         Bod angen herio materion technegol

·         Bod angen herio pryderon y trigolion lleol am lwch

 

PENDERFYNWYD gohirio'r penderfyniad er mwyn derbyn adroddiadau pellach ar faterion llwch.

 

Dogfennau ategol: