Codi 7 tŷ (yn cynnwys 2 dŷ
fforddiadwy) ynghyd â mynedfeydd newydd.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Sion Wyn Jones
Cofnod:
Codi
7 tŷ (yn cynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â mynedfeydd newydd
Tynnwyd
sylw at y wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd
(a)
Ymhelaethodd
y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu gan nodi mai cais amlinellol ydoedd ar gyfer
codi 5 tŷ ar wahân a 2 dŷ fforddiadwy ar ffurf par gyda chynllun i
greu mynedfeydd newydd o'r ffordd sirol dosbarth III cyfagos. Eglurwyd bod
materion fel tirlunio a dyluniad yn cael eu cadw'n ôl ar gyfer eu
hystyried eto/ Amlygwyd bod safle'r cais wedi ei leoli oddi fewn i ffin
datblygu pentref Bethel fel y'i cynhwysir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
ac hefyd wedi ei ddynodi ar gyfer tai yn
y Ddogfen Mapiau Gwynedd (cyfeirnod T58).
Mae Polisi PCYFF1 yn datgan caniateir cynigion
y tu mewn i ffiniau datblygu yn unol â pholisïau a chynigion eraill y Cynllun,
polisïau cynllunio cenedlaethol ac ystyriaethau perthnasol eraill. Mae Polisi
TAI3 yn datgan yn y Pentrefi Gwasanaeth bydd tai i gwrdd â strategaeth y
cynllun yn cael eu sicrhau drwy'r dynodiadau tai ynghyd a safleoedd ar hap
addas o fewn ffin datblygu. Mae Polisi
TAI 8 yn datgan dylai pob datblygiad preswyl newydd gyfrannu at wella
cydbwysedd tai a diwallu'r anghenion ar gyfer y gymuned gyfan.
Ategwyd bod y
safle wedi ei leoli ar gyrion gorllewinol y pentref Rhagdybiwyd mai parhad o
ddeunyddiau oedd yn gyffelyb i'r tai cyfagos fydd yn cael eu defnyddio. Roedd
cynllun safle a gyflwynwyd gyda'r cais wedi ei selio ar drafodaethau
cychwynnol rhwng yr ymgeisydd a'r Uned Drafnidiaeth. Nid oedd gan yr Uned
Drafnidiaeth wrthwynebiad i'r trefniant yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau
priodol.
Yng nghyd – destun isadeiledd amlygwyd bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan y cyhoedd ynglŷn ag
addasrwydd y gyfundrefn garthffos gyhoeddus bresennol y pentref i ymdopi gydag
mwy o dai yn enwedig pan nad oedd gwelliannau wedi eu gwneud gan Dŵr Cymru
i gynyddu capasiti'r gyfundrefn i gymryd mwy o ddŵr wyneb a dŵr
aflan. Roedd y gwrthwynebwyr yn ymhelaethu drwy ddatgan dylid gwrthod y cais
hyd nes bod archwiliadau a gwelliannau wedi eu gwneud ar gyfer y
gyfundrefn.
Adroddwyd, fel rhan o'r broses ymgynghori
statudol, ymgynghorwyd gyda Dŵr Cymru a derbyniwyd ymateb ganddynt yn
datgan petai’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu caniatáu’r cais, y dylid
cynnwys amod sy'n atal unrhyw ddŵr wyneb neu/a dŵr ffo gysylltu yn
uniongyrchol neu anuniongyrchol i'r rhwydwaith garthffos gyhoeddus. Er yn
cydnabod gwrthwynebiadau'r trigolion lleol ynglŷn â phroblemau presennol y
gyfundrefn gyhoeddus i ymdopi gydag ychwaneg o dai ym Methel rhaid oedd
ystyried ymateb ffurfiol Dŵr Cymru i'r cais cynllunio oedd yn datgan bod y
bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amod priodol.
(b)
Yn
manteisio ar y cyfle i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau
canlynol:
·
Bod
problemau carthffosiaeth yn Bethel a bod y system yn ddiffygiol
·
Bod
gwastraff a budreddi yn codi i’r strydoedd
·
Bod
llanast difrifol yn ystod storm ddiweddar
·
Bod
y problemau yn amharu ar fwynderau trigolion y pentref
·
Bod
y broblem yn un hanesyddol – wedi ei ‘dderbyn’ fel ffordd o fyw
·
Dŵr
Cymru wedi cyhoeddi yn gyhoeddus yn 2008 bod problemau yn y pentref
·
Gwaith
adfer ambell i bibell wedi ei weithredu ond nid yw’r system yn ei gyfanrwydd yn
ymdopi
(c)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:
·
Bod
safle y cais o fewn ffiniau datblygu ac yn addas ar gyfer datblygiad tai
·
Bod
y datblygiad yn darparu cymysgedd o dai
·
Bod
yr Adran Strategol yn datgan yr angen am dai ym Methel
·
Bod
Bethel wedi ei adnabod fel pentref gwasanaeth
·
Capasiti
yn yr ysgol leol i dderbyn mwy o blant
·
Y
cartrefi yn addas ar gyfer cadw teuluoedd ifanc yn y fro Gymraeg
·
Bod
trafodaethau ynglyn a’r fynedfa wedi eu cynnal
·
Bod
Dŵr Cymru yn fodlon gyda’r cais ac mai un cwyn swyddogol (o Fethel) oedd
wedi ei wneud i Dŵr Cymru rhwng Ionawr 2014 a’r presennol
·
Byddai
clawdd newydd yn cael ei blannu – yr Adran Bioamrywiaeth wedi ymateb yn
ffafriol
(ch) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau
canlynol:-
·
Ei
fod yn cydweithio gyda thrigolion y pentref i gyfarch yr angen am dai yn y
safleoedd gorau o fewn y pentref
·
Bod
tir y safle dan sylw yn anaddas – problemau carthffosiaeth fyddai yn gosod mwy
o bwysau ar y system bresennol
·
Bod
pob llythyr gwrthwynebiad yn amlygu diffygion yn y system ddŵr /
carthffosiaeth
·
Manylion
gwaith Dŵr Cymru yn y pentref heb eu trafod
·
Datganiad
ffug wedi ei gyhoeddi ac felly angen mwy o wybodaeth cyn gwneud penderfyniad
(d) Mewn
ymateb i’r sylwadau, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ei fod yn
cydymdeimlo gyda’r trigolion lleol, ond o ystyried y cais penodol dan sylw,
nododd bod Dŵr Cymru, fel ymgynghorai statudol yn nodi bod capasiti
digonol ar gyfer y datblygiad. Derbyniwyd bod dffygion eraill ar bibellau ac
angen gwirio gwaith cyffredinol cynnal a chadw yn y pentref, ond effaith
capasiti ar gyfer y datblygiad oedd dan sylw.
(dd) Cynigiwyd
ac eiliwyd i ohirio'r penderfyniad er mwyn derbyn mwy o wybodaeth gan
Dŵr Cymru am y system gyfredol o ystyried llifogydd
22/11/17.
(e)
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
·
Bod
barn Dŵr Cymru yn aneglur, felly angen adolygiad o’r sefyllfa gyfredol ac
ymateb llawnach i’r mater ‘capasiti digonol’
·
Bod
angen gwybodaeth fwy diweddar
·
Angen
ystyried capasiti y system yng
nghyd-destun llifogydd diweddar
(f)
Mewn ymateb i’r cais am
fwy o wybodaeth gan Dŵr Cymru, amlygodd y Swyddog Monitro bod rhaid
ystyried y cais yn unig a bod Dŵr Cymru wedi rhoi ymateb digonol ar gyfer
y datblygiad ac nad oedd angen ystyried problemau ehangach y pentref.
(ff)
Mewn ymateb i sylw,
petai'r penderfyniad i ganiatáu, a derbyn bod problemau carthffosiaeth, y
byddai modd gosod amod i wella'r system ym Methel a chryfhau achos y gymuned i
wella’r sefyllfa, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio nad oedd modd
gwneud hynny drwy y cais, ond bod posib cynnal trafodaethau gyda’r Aelod Lleol
a’r Aelod Cabinet perthnasol.
PENDERFYNWYD gohirio y cais
Dogfennau ategol: