Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Cofnod:

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Y bwriedir ehangu/datblygu’r wefan i gynnwys mwy o wybodaeth forwrol;

·         Bod 140 o angorfeydd blynyddol o gymharu â 157 yn 2014, oedd yn adlewyrchu’r economi ehangach;

·         Yr edrychir ar y sustemau cofrestru ynghyd â ffioedd yn ystod y Gaeaf;

·         O ran y Cod Diogelwch Morwrol, y byddai’r Uwch Swyddog Harbyrau yn ei adolygu cyn i’r awdurdod annibynnol a benodwyd, sef Harbwr Caernarfon ei archwilio. Nodwyd bod y Cod yn rhoi arweiniad ac yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd bod diogelwch defnyddwyr yn bwysig i’r Cyngor;

·         Y gwerthfawrogir sylwadau ar gynnwys y Cod gan yr aelodau;

·         Bod y gwasanaeth yn awyddus i ddatblygu Mesuryddion Perfformiad mewn perthynas â rheolaeth yr harbyrau ac y gwahoddir syniadau neu awgrymiadau cychwynnol gan yr aelodau;

·         Bod gwaith wedi ei wneud i ymateb i 1 Rhybudd i Forwyr a oedd mewn grym, sef gosod bwlb newydd yn llusern y Bwi Tramwyo. Gydag un rhybudd arall mewn grym oherwydd bod golau ar bontŵn Madog Yacht Club wedi diffodd a byddai’r Cyngor yn fodlon cynorthwyo gyda’r gwaith;

·         Bod cyfnod secondiad yr Harbwr Feistr wedi ei ymestyn tan ddiwedd Hydref 2015 pryd adolygir y swydd;

·         Nodwyd bod cyfnod cyflogaeth Cymhorthion Harbwr (tymhorol) wedi eu hymestyn hyd at 31 Rhagfyr er sicrhau ei fod yn bosibl ymateb i ddigwyddiadau a chwblhau rhaglen waith cynnal a chadw harbyrau Porthmadog ac Abermaw;

·         Y gwaredwyd llongddrylliad a oedd yn achosi perygl ac asesir 2 gwch arall cyn penderfynu os byddai angen gosod rhybudd ar y cychod;

·         Yr achoswyd difrod i wifren drydan wrth dynnu cwch hwylio o’r llithrfa, adroddwyd i’r HSE ar y digwyddiad ond nid oedd angen iddynt gynnal archwiliad. Nodwyd y pwysleisiwyd i staff yr angen i wneud asesiadau risg cyn ymgymryd â gwaith o’r math yma;

·         Bod sefyllfa incwm yr Harbwr yn niwedd blwyddyn ariannol 2014-15 yn galonogol a bod tanwariant o £29,276.

·         Y rhagwelir y byddai gorwariant o oddeutu £1,400 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol;

·         Y buddsoddwyd mewn sustem teledu cylch gyfyng newydd i’r harbwr;

·         Archwiliwyd yr angorfeydd a rhagwelir bod costau o oddeutu £3,000 i wneud gwaith arnynt ac y gobeithir cwblhau’r gwaith cyn y Nadolig;

·         Y bwriedir cyfnewid tanc disel coch Harbwr Aberdyfi gyda thanc disel yr Harbwr er mwyn cynyddu capasiti storio;

·         Bod nifer o weithgareddau wedi eu cynnal dros yr Haf. Bwriedir cynnwys rhestr digwyddiadau ar gyfer Haf 2016 yn yr adroddiad a gyflwynir i’r cyfarfod nesaf a gofynnodd i aelodau ei hysbysu o unrhyw weithgareddau er mwyn gallu eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Manylodd yr Uwch Swyddog Harbyrau ar y rhaglen waith cynnal a chadw a gofynnwyd i aelodau hysbysu’r gwasanaeth o unrhyw waith arall sydd angen ei wneud.

 

Yn ystod y cyfarfod ymatebwyd i sylwadau gan yr aelodau gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig fel a ganlyn:

·         Bod Cwch y Dwyfor yn cael ei ddefnyddio i osod cymhorthion mordwyo ond gyda’r cwch yn dod i ddiwedd ei oes asesir opsiynau o ran ymgymryd â’r gwaith i’r dyfodol;

·         Yr hysbysir Dŵr Cymru nad oedd eu bwi yng Nghricieth yn y man cywir, ac efallai byddai’r gwaith yn gallu cael ei wneud pan fo teclyn monitro yn cael ei osod ar Fwi Archwilio Cricieth i fesur lefelau yn dilyn derbyn Rhybudd i Forwyr;

·         Y byddai’n codi’r mater o ran rheoliadau talu cyflog cyntaf y Cymhorthion efo’r swyddogion priodol;

·         O ran recriwtio, y derbynnir ceisiadau niferus gan unigolion oedd newydd adael coleg pan fo’r dyddiad cychwyn swydd cymhorthydd yn dechrau Mehefin ond ddim gymaint pan fo’r swydd yn cychwyn yn dechrau Ebrill. Nodwyd y dilynir trefniadau’r Cyngor o ran penodi unigolion ac edrychir ar y dull y hysbysebir y swyddi;

·         Y byddai’n gadael yr aelodau wybod unwaith gwneir penderfyniad o ran swydd yr Harbwr Feistr;

·         Bod Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Ymgynghorol wedi newid o ran traethau ond bod y wybodaeth berthnasol ar gael i’r aelodau a byddai’n fodlon mynychu cyfarfodydd eraill i drafod y materion traethau;

·         Bod ymateb Cymhorthion Traethau i ddigwyddiad ar y môr lle galwyd Gwylwyr y Glannau a’r Bad Achub yn gwbl annerbyniol a gofynnodd i gynrychiolydd Sefydliad y Bad Achub i’w hysbysu o’r manylion;

·         O ran unigolyn yn trigo ar gwch ar y llithrfa, y bwriadai’r unigolyn symud yn fuan wedi trwsio’r cwch. Edrychir ar safleoedd arall posib i symud y cwch oddi ar y llithrfa a gofynnir i aelodau adrodd ar unrhyw ddigwyddiadau pellach yn cynnwys yr unigolyn.

Dogfennau ategol: