skip to main content

Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Catrin Wager

 

“Yn dilyn y sylw mawr diweddar sydd wedi bod ynglŷn â materion o ymddygiad amhriodol mewn gwleidyddiaeth, pa weithdrefnau sydd gan y Cyngor mewn lle yng nghyswllt adrodd ac ymdrin â materion o aflonyddu ymysg swyddogion ac Aelodau?”

 

Ateb gan y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Rowlands

 

Mae’r pwyslais o fewn y Cyngor ar geisio sicrhau amgylchedd gwaith ple nad oes sefyllfaoedd o aflonyddu ac mae’r nifer o achosion yr ymdrinnir â hwy yn isel ar draws y Cyngor.

 

Mae gan y Cyngor Gôd Ymddygiad unigol ar gyfer Aelodau ac ar gyfer Swyddogion, yn ogystal â Phrotocol ar gysylltiadau rhwng Aelodau a Swyddogion.  Mae parch a chwrteisi yn seiliau hanfodol i’r cod, ac yn diogelu'r Cyngor, ei aelodau a’i staff. 

 

Mae ‘Safon Gwynedd’ ar gyfer Aelodau yn egluro’r safonau a ddisgwylir ohonom ac mae’n cynnwys trefn ar gyfer ymdrin â honiadau fod Aelod wedi torri’r protocol yna.  Pendraw’r weithdrefn hon yw cyflwyno achos i gyfarfod o’r Pwyllgor Safonau ond mae camau i’w cymryd cyn hynny er mwyn ceisio adnabod datrysiad i’r honiadau a wneir yn anffurfiol.

 

Yn yr un modd mae’r Cod Ymddygiad ar gyfer swyddogion yn nodi’r angen iddynt ymdrin ag eraill yn gydymdeimladol, effeithlon a heb ddangos tuedd.  Ymhellach, mae Amodau Gwaith Lleol y Cyngor yn cynnwys polisïau a chanllawiau ar Urddas yn y gwaith a Chanu’r Gloch, Trefn Gwyno a’r Drefn Disgyblu.

 

Ymdrechir i geisio datrys rhai o’r honiadau a wneir yn anffurfiol ond mae difrifoldeb rhai honiadau yn arwain at ymdrin â materion yn ffurfiol ac, mewn sefyllfaoedd eithriadol, at atal unigolion o’u gwaith tra bo ymchwiliad yn cael ei gynnal.

 

Mae trefniadau ynghlwm â'r sefyllfaoedd hyn oll ple cynigir cefnogaeth i unigolion sy’n cyflwyno honiad yn ogystal â’r rhai y gwneir yr honiad yn eu herbyn.  Gwneir hyn trwy gynnig gwasanaethau cwnsela annibynnol, iechyd galwedigaethol a hefyd, pan fo’r naill ochr a’r llall yn cytuno, i geisio datrys trwy gyflafareddu.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Catrin Wager

 

“Y tu allan i’r gweithdrefnau ‘rydych chi wedi eu trafod, oes yna unrhyw brotocol gan y Cyngor i drio annog pobl i deimlo bod nhw’n saff i ddod â chwynion o aflonyddu rhywiol, yn arbennig, ymlaen?”

 

Ateb gan y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Rowlands

 

“Un weithdrefn y cyfeiriais ati yn yr ymateb oedd y polisi ar ganu’r gloch ac ‘rydw i’n falch o fedru adrodd bod yr ymwybyddiaeth a’r ymddiriedaeth yn y weithdrefn yma wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.  Mae hyn yn caniatáu i rywun wneud cŵyn yn ddienw ac ‘rwy’n gallu datgan bod hynny ar sail canlyniadau arolwg blynyddol sy’n cael ei gynnal gan yr Uned Archwilio Mewnol.  Digwyddodd hyn yn sgil pryderon oedd wedi’u lleisio rai blynyddoedd yn ôl ynglŷn â’r diffyg ymwybyddiaeth o’r broses honno ac mae yna gardiau mae pob aelod o’r staff yn dderbyn yn nodi’r manylion ar ganu’r gloch.  Maent yn cael eu cynnwys mewn pecynnau penodi i staff newydd a gallwn rannu rhai gyda phob un ohonoch yma heddiw.  Dyma enghraifft o rywbeth mae pob aelod o staff ar draws y Cyngor wedi dderbyn.  Hefyd, mae gennym y Polisi Cam-drin Domestig.  Mae’r polisi a’r hyfforddiant yma yn cydnabod y gall cam-drin ac aflonyddu rhywiol ddigwydd yn unrhyw le, yn y cartref ac yn y gweithle, ac mae’r hyfforddiant yn codi’r ymwybyddiaeth yna.  Mae yna wybodaeth yn cyd-fynd â’r polisi ac mae yna asiantaethau cymorth annibynnol o’r Cyngor, fel Byw Heb Ofn, Cymorth i Ferched ond mae yna rai ‘rydw i’n ymwybodol ohonynt, fel, er enghraifft, RASAC (Rape and Sexual Abuse Centre) sydd ddim yna ar hyn o bryd. ‘Rwy’n bwriadu gofyn i’r swyddogion ystyried cynnwys hwn ac unrhyw fudiad arall sy’n addas yn y polisi oherwydd, fel mae’r Cynghorydd eisoes wedi cyfeirio ato, efallai nad yw pobl yn teimlo’n gyfforddus yn adrodd hynny i’r Cyngor ar y pryd.  Felly, drwy gael cefnogaeth mudiad allanol sy’n arbenigo yn y peth, mae hynny’n mynd i fod o fwy o gymorth, o bosib’.  Ond ‘rwy’n hapus i barhau i drafod os oes syniadau eraill o ran yr hyn y gallwn wneud.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Eryl Jones-Williams

 

“Ydi Cyngor Gwynedd wedi mynd yn rhy bell hefo’r toriadau a’i arbedion effeithlonrwydd, hynny’n gadael Adrannau heb staff digonol ac yn arwain at yr aelodau staff sydd ar ôl yn wynebu pwysau gwaith gormodol ac yn gorfod gweithio oriau ychwanegol er mwyn cynnal y gwasanaeth?”

 

Ateb gan y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Rowlands

 

“Yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ym mis Hydref, byddwch yn cofio i’r Prif Weithredwr gyflwyno manylion ynglŷn â sut y bydd y Cyngor yn mynd ati i wynebu toriadau pellach yn y grant y gellir ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd nesaf.

 

Bu iddo nodi bryd hynny bod y Cyngor wedi arbed £61.5 miliwn dros y 12 mlynedd diwethaf gan rybuddio bod bwlch ariannol posib pellach o hyd at £24.4 miliwn yn wynebu’r Cyngor dros y pedair blynedd nesaf.

 

Yn anffodus, dyma realiti’r sefyllfa ariannol sydd yn wynebu pob un Awdurdod Lleol ac mae’n afrealistig disgwyl bod yr un lefel o wasanaeth ag yn y gorffennol yn gallu cael ei gynnal yn y fath hinsawdd.  Gwnaed penderfyniadau anodd, ond angenrheidiol, gan y Cyngor yn dilyn ymgynghoriad Her Gwynedd, ac unwaith eto, bydd yna fwy o gyflwyniadau yn dod i’r Cyngor maes o law ynglŷn â’r toriadau sydd i ddod.

 

Mae’r awgrym mae’r Cynghorydd yn wneud ynglŷn â bod angen sicrhau nad yw’r toriadau a’r arbedion yn arwain at bwysau gormodol ar staff yn un pwysig iawn. Mae’r nifer o staff a gyflogir gan y Cyngor wedi gostwng o 6,285 yn 2015 i 5,828 ar ddechrau’r flwyddyn ariannol bresennol – gostyngiad o 457 ar draws yr holl wasanaethau.

 

Ymhellach, mae’r nifer dyddiau a gollwyd oherwydd salwch yn 2016/17 wedi cynyddu i naw diwrnod y pen, o 8.44 diwrnod y pen yn y flwyddyn flaenorol, ac mae angen cadw golwg ar unrhyw dueddiad tymor hirach yn y cyd-destun hwn. Fel yr Aelod Cabinet, ‘rwy’n cadw golwg manwl ar hyn yn y cyfarfodydd herio perfformiad y mae rhai o’r aelodau craffu yn fynychu hefyd.  Wedi dweud hynny, ‘rwyf hefyd yn nodi bod lefel absenoldeb salwch o fewn y Cyngor yn parhau i fod gyda’r isaf ymysg awdurdodau lleol Cymru.  Mae’r Cyngor wedi buddsoddi yn y gefnogaeth a roddir i gynnal iechyd a llesiant staff ac mae’r buddsoddiad hwnnw, yn un o’n hadnoddau pwysicaf, wedi’i warchod rhag y toriadau a’r arbedion diweddar.

 

Mae cynnal y cydbwysedd rhwng gweithredu o fewn y gyllideb a sicrhau parhad gwasanaeth, tra’n gwarchod lles corfforol a meddyliol y bobl sy’n gyfrifol am wneud hynny, yn anodd ond mae’r aelodau Cabinet unigol yn gwbl effro i’r angen hwn am gydbwysedd ac yn derbyn adborth rheolaidd gan benaethiaid a rheolwyr ynglŷn â pherfformiad a’r capasiti i gyflawni.

 

Mae strategaeth ariannol y Cyngor wedi’i gydnabod fel bod yn ddarbodus a chadarn gan Swyddfa Archwilio Cymru tra bo aseswyr Safon Iechyd Corfforaethol Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu’r Lefel Aur i’r Cyngor, am y trydydd tro yn olynol yn ddiweddar, ar sail y gefnogaeth a ddarperir i hybu a hyrwyddo iechyd a llesiant staff.

 

Cydnabyddir bod ymrwymiad staff y Cyngor i wasanaethu pobl Gwynedd yn un cryf a bod enghreifftiau lu o’r staff hynny yn mynd y filltir ychwanegol yn eu hymdrechion.  Yr hyn sy’n bwysig i ni, fel Aelodau’r Cyngor, yw rhoi pob cefnogaeth i’r gwaith hwnnw ac i fod yn realistig yn ein disgwyliadau o’r hyn y gellir ei gyflawni o fewn yr hinsawdd ariannol bresennol.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Eryl Jones-Williams

 

“Pwy sy’n edrych i mewn i hyn a sut mae’n digwydd?”

 

Ateb gan y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Rowlands

 

“Fel y ceisiais egluro yn yr ateb, mae yna nifer o ffyrdd gwahanol.  Yn amlwg mae penaethiaid ac uwch reolwyr yn gorfod cadw golwg ar y sefyllfa ac mae gan yr Aelodau Cabinet gyfrifoldeb i sicrhau bod yna gydbwysedd.  Hefyd, fel y gwnes i gyfeirio, mae pob Aelod Cabinet yn cael cyfarfodydd herio perfformiad.  Er enghraifft, mi soniais am y lefelau salwch.  Mae hynny’n rhywbeth sy’n dod i fy nghyfarfod herio perfformiad i, ond yn amlwg mae yna bethau eraill y byddai modd eu craffu yn y cyfarfodydd eraill gan Aelodau Cabinet, ond os ydych chi, fel aelodau, yn ymwybodol o unrhyw beth neu bwysau sylweddol ‘rydych chi’n ei weld, dewch â hwy draw atom fel Aelodau Cabinet i’r meysydd portffolio perthnasol.  Byddem yn croesawu unrhyw wybodaeth bellach.”

 

(3)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Sut ddaru’r Aelod Cabinet ddod i benderfyniad ynglŷn â dewis Cynghorwyr i fynd ar Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG)?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant, Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Ar y cychwyn, mae’r aelodau i gyd yn llenwi ffurflen yn dweud pa feysydd sydd o ddiddordeb iddynt, felly rydw i’n edrych ar hynny i gychwyn.  Yna edrych ar brofiad pobl a gweld beth fyddent yn gallu cynnig i CCG.  Wedyn, ‘rwy’n ceisio cael rhyw fath o gydbwysedd, felly ‘roeddwn yn ticio pob bocs, ac ‘rwy’n credu mod i wedi llwyddo.  Felly, mae gennym gydbwysedd daearyddol a chydbwysedd rhyw, gyda 2 a 2.  ‘Roeddwn eisiau gwneud yn siŵr bod yna ryw fath o gysondeb gyda’r hyn oeddem yn ei wneud o’r blaen, felly mae gennym rai â phrofiad yn ogystal â gwaed newydd, sef 2 a 2 eto.  Hefyd, mae yna gydbwysedd gwleidyddol, gydag un o’r Grŵp Llafur Rhyddfrydol, un o’r Grŵp Annibynnol a dau o Grŵp Plaid Cymru.  ‘Rydw i hefyd wedi cael pobl hŷn a phobl ieuengach, felly credaf fy mod wedi cymryd popeth i ystyriaeth - gobeithio eich bod yn cytuno.  Mae yna 75 ohonom ar y Cyngor, a dim ond lle i 4 ar y Bwrdd.  ‘Rydw i wedi gwneud fy ngorau.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Ydi’r Aelod Cabinet yn fodlon ail-edrych ac ad-drefnu’r aelodau bob dwy flynedd?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant, Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Yn gyntaf, ‘rydym yn penodi cynghorwyr i’r Bwrdd.  Cytunaf fod angen cynrychiolaeth glir ar y Bwrdd o blith y tenantiaid, ond nid fy swyddogaeth i yw hynny.  Fy swyddogaeth i yw penodi pobl gall sy’n mynd i drio cydweithio hefo CCG i gael y gorau i drigolion Gwynedd, ac ‘rwy’n credu mod i wedi llwyddo.  Mae yna ddigon o gyfleoedd yn CCG rŵan i benodi tenantiaid, neu efallai y byddai tenant yn gallu prynu siâr yn y cwmni ac wedyn mae gan y person yna'r cyfle i leisio barn, ond nid fy swyddogaeth i yw penodi cynrychiolwyr y tenantiaid.  Os oes gan y Cynghorydd Sion Jones unrhyw faterion yr hoffai eu codi, nid wyf i wedi clywed amdanynt hyd yma.  ‘Rydw i wedi gweld yr e-byst a anfonodd a’r ymgyrch ar Twitter a Facebook, ond nid ydyw wedi cysylltu â mi o gwbl.  ‘Rwy’n siŵr bod y 4 aelod yma sy’n bresennol yn agored i wrando ar yr hyn sydd ganddo i’w ddweud ynglŷn â phryderon y tenantiaid oherwydd mae’n bwysig iawn a dyna pam mae CCG yna.  Ond nid ydynt wedi codi unrhyw beth gyda mi, sydd wedi dod drwy’r Cynghorydd o gwbl.  Os mai dymuniad y Cynghorydd yw i mi edrych ar y peth bob dwy flynedd, ‘rwy’n hapus i wneud hynny.  Ar hyn o bryd, ‘rwy’n hapus gyda’r bobl sydd yna.  Os oes un ohonynt eisiau camu i lawr unrhyw dro, mae hynny’n fater arall, ac fe ystyriaf yr aelod nesaf bryd hynny.”

 

(4)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Mike Stevens

 

“Beth yw’r oedi wrth weithredu'r protocol newydd ar gyfer swyddogion yn ymateb i ymholiadau gan aelodau ee llythyrau, e-byst neu alwadau ffôn?”

Ateb gan y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Rowlands

 

Mae Adran 21 o gyfansoddiad y Cyngor yn cynnwys y Protocol ar gysylltiadau Aelodau a Swyddogion, ac mae’n cynnwys arweiniad ar roi cyngor a gwybodaeth i aelodau gan swyddogion ynghyd â’r amserlen ateb.  Mabwysiadwyd y Protocol gan y Cyngor yn ei ffurf bresennol yn 2014 fel rhan o adolygiad y Cyfansoddiad.

 

Mae’r protocol wrthi’n cael ei adolygu yn bresennol.  Ar yr un pryd, mae canllaw a nodyn esboniadol i swyddogion, fydd yn cynnwys egwyddorion syml ar ymateb i ymholiadau gan aelodau etholedig hefyd yn cael ei ddatblygu yn gyfochrog â’r protocol.  Mae’n debygol y bydd y canllaw yn cynnwys egwyddorion clir, gan gynnwys ymdrin yn barchus, ateb mor brydlon â phosib’ ayyb. 

 

Mae’r adolygiad o’r Protocol Cyswllt Aelod / Swyddog wedi ei arwain gan y Pwyllgor Safonau ac ynghyd ag ymgynghoriad â swyddogion bydd yn cael ystyriaeth hefyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn y Gwanwyn gyda bwriad o adrodd ar unrhyw addasiadau i’r Cyngor ym Mis Mai.  Ac mae hynny oherwydd amserlen y rhaglenni pwyllgor ar hyn o bryd.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Mike Stevens

 

“Gawn ni amserlen glir ac arweiniad ynglŷn â sut y dylent ymateb i aelodau?”

 

Ateb gan y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Rowlands

 

“O ran y protocol ei hun, bydd eisoes wedi ei wneud a’i weithredu, mae’n siŵr, cyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ei drafod ym mis Mai.  Hefyd, bydd y canllawiau wedi eu datblygu, sy’n fwy penodol, ac yn cyfeirio at yr union faint o amser y byddem yn disgwyl i swyddog gymryd i ymateb.  Nid wyf i yn bersonol wedi cael gymaint â hynny o gwynion ynglŷn â diffyg ymateb gan swyddogion, ond i fod yn onest, dros y blynyddoedd, mae’n siŵr mod i wedi cael y profiad yma fy hun ac yn croesawu unrhyw un i ddod ataf gyda mwy o gwynion.  Mae’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd hefyd yn edrych ar y mater a bydd cais yn mynd i ofyn am enghreifftiau o hyn.  Felly, yn sicr, anfonwch unrhyw beth draw.  Yn sgil y cwestiwn ‘rwyf newydd ateb i’r Cynghorydd Eryl Jones-Williams, rhaid cymryd i ystyriaeth hefyd realiti’r sefyllfa a’r pwysau sy’n gallu wynebu staff y Cyngor, ond ‘rwy’n cytuno bod angen canllaw cliriach iddynt hwy fod yn ymwybodol o beth yw’r protocol.”