skip to main content

Agenda item

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2015. 

Cofnod:

Cyflwynwyd:               Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi gynhaliwyd ar y 12 Tachwedd 2015.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.

 

2.1       MATERION YN CODI O’R COFNODION

 

(a)          Eitem 5 (A) – Ffigyrau ymwelwyr i Harbwr Aberdyfi

 

Ymddiheurwyd nad oedd y ffigyrau uchod wedi eu cynnwys o fewn yr adroddiad gerbron a sicrhawyd y byddir yn eu cylchrhedeg i’r Aelodau yn y dyddiau nesaf.  Fodd bynnag, yn y cyfamser nodwyd y ffigyrau isod:

 

2014    -           53 o gychod wedi ymweld ag Aberdyfi

2015    -           18 cwch wedi ymweld ag Aberdyfi

 

Nodwyd ymhellach bod y tywydd wedi bod yn anffafriol iawn a hyderir y ceir tywydd gwell y tymor hwn.  Diolchwyd hefyd am y pecyn gwybodaeth a ddarparwyd gan Aelodau ar gyfer ymwelwyr ac y byddir yn ceisio annog morwyr i ymweld a’r gwahanol harbyrau o fewn y Sir.

 

 

(b)       Rheolaeth Badau Dwr Personol

 

Ni ragwelwyd y byddir yn gallu cael llawer mwy o reolaeth yn ardal y Leri serch trafodaeth gyda swyddogion perthnasol o Cyfoeth Naturiol Cymru.  Fodd bynnag, hyderir y gellir gwella rheolaeth o ochr yr awdurdod Harbwr drwy benodiad swyddog i gynorthwyo’r Harbwr Feistr ac a fydd yn weithredol ar y dwr yn ystod cyfnod prif wyliau’r haf. 

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cadeirydd ynglyn a pha gamau gall yr Harbwr Feistr gymryd i ymdrin a rheolaeth y badau dwr personol, eglurwyd bod gan yr Harbwr Feistr bwerau statudol ond nad oedd ganddo’r hawl i roi dirwy ar y pryd ond pe byddir yn cadw tystiolaeth o unrhyw gam ddefnydd o’r rheolau, gellir eu herlyn.  Nodwyd ymhellach bod yr Heddlu yn rhoi cefnogaeth dda mewn achosion o’r fath.

 

(c)          Cynnal a Chadw   

 

Adroddodd Mr Desmond George ei fod yn parhau i drafod dyluniad winsh pwrpasol ar gyfer defnydd gan gychod sy’n cael eu lansio ac yn glanio wrth y Clwb Hwylio.  Diolchwyd iddo gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ac unwaith y daw unrhyw wybodaeth i law y byddir yn ei anfon i’r peiriannydd fel bo modd ystyried y posibilrwydd fel rhan o gynllun ehangach wal y cei.  Y dewis gorau fyddai i’r winsh fod wedi ei leoli mewn un man ac ddim yn rhan o gerbyd neu winsh symudol.

 

(ch)      Symud Tywod

 

Adroddwyd bod y gwaith o symud y tywod wedi ei gwblhau dros yr wythnosau diwethaf ac yr un pryd bod gwaith yn mynd rhagddo i glirio tywod oddi ar y maes parcio a’r promenad.

 

Mewn ymateb i bryder amlygwyd ynglyn a thywod, amlygodd Mr Paul Fowles y canlynol:

Drwy ymestyn y twyni o 4 metr hyd at risiau maes parcio amddiffynfa’r môr a chau’r llifglawdd bach sy’n rhedeg tu ôl i’r bryniau tywod, sy’n gorlifo bob Llanw Mawr, byddai hyn yn caniatáu i system y twyni i symud tua’r dwyrain a’r de ddwyrain heb orfod cael dyfeisiau rheoli fel ffens byst.  Er hynny, byddai grwynau traeth ar ogwydd o gymorth i ddargyfeirio’r tywod yn y tymor byr i ffwrdd o’r maes parcio a gorsaf y bad achub, hyd nes fo’r twyni wedi sefydlu yn y pen o’r traeth sy’n agosach at y clwb hwylio.

Hyd at ddiwedd y 1960au, cyn i’r maes parcio gael ei adeiladu, roedd grîn bach a thwyni tywod yn rhedeg ar hyd blaen traeth y pentref hyd at Hen Siediau Du OBSS, gyda’r lein rheilffordd gysylltiedig.  Roedd unrhyw dywod a chwythwyd gan y gwynt yn cael ei atal gan y twyni a’r morhesg cyn mynd i’r pentref neu fynd dros trac y trên.  Roedd llawer o blaid peirianneg i’r gwrthwyneb a chadw’r traeth fel yr oedd heb yr angen am wariant mawr.

Addawodd y byddai’n anfon adroddiad oedd yn y cyfeirio at engreifftiau fel yr uchod i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig fel mater o ddiddordeb.

 

Nododd y Cadeirydd bod llawer o dywod wedi chwythu eleni a phryderai am y dyfodol yn enwedig gan mai hon fydd y flwyddyn olaf i gyllid fod ar gael ar gyfer ei glirio. 

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi’r uchod.

 

                                    (b)       Gofyn i’r Swyddog Morworol a Pharciau Gwledig anfon llythyr ar ran y Pwyllgor Ymgynghorol i Gwmni Brodyr Jones i gyfleu eu diolch am y gwaith a gyflawnwyd ganddynt i symud y tywod.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: