I ystyried adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.
Cofnod:
Cyflwynwyd: Adroddiad y Swyddog Morwrol, Mr Barry Davies ar
weithgareddau harbwr Aberdyfi gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-
(A) Cod Diogelwch Harbyrau
Atgoffwyd
yr Aelodau bod elfennau diogelwch ac asesiadu risg yn bwysig iawn i’r
Gwasanaeth Harbwr a bod y cod diogelwch yn berchen i ddefnyddwyr yr Harbwr
ac Aelodau’r Pwyllgor a bod y staff yr
Harbwr yn ddibynnol arnynt i gyflwyno sylwadau.
Nodwyd bod y Cod Diogelwch yn ddogfen fyw a gwirfoddol. Fe fyddir yn derbyn awdit gan Adran Polisi,
Asiantaeth Gwylwyr y Glannau i drafod y ffordd ymlaen ac i dderbyn adborth gan
Adran Polisi Asiantaeth Gwylwyr y Glannau.
Nodwyd bwysigrwydd y dylai’r cod gydymffurfio a gofynion yr harbwr yn
enwedig harbyrau llai fel sydd yng Ngwynedd ac nad oedd yn mynd yn rhy
fiwrocrataidd.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(B) Mordwyo
ac Angorfeydd
Adroddwyd
bod y cymorthyddion mordwyo wedi gweithio’n dda tra’n derbyn bod y Sianel wedi
newid. Roedd y contractwyr yn gweithio
ym Mhorthmadog ar hyn o bryd ond yn symud i Aberdyfi yn y dyddiau nesaf.
Cyfeiriwyd
at 4 rhybudd:
·
Golau
ar y bwi Fairway ddim yn gweithio
·
Bwi
Rhif 1 a 3 oddi ar y safle
·
Bwi
Rhif 2 wedi symud oddi ar y safle
Rhagdybir
na fyddai llawer o gychod yn ymweld a’r Harbwr yn ystod Gwyliau’r Pasg gan fod
y gwyliau yn fuan eleni. Nodwyd bod y
golau melyn wedi ei osod ar bwi mewnol yn yr Harbwr. Nodwyd yn ychwanegol bod cwch yr Harbwr wedi
ei lansio ar gyfer y tymor.
Mewn ymateb
i’r uchod, nododd Aelod ei bod yn glir lle mae’r Harbwr yn dechrau a dymuniad
Clwb Cychod Aberdyfi ydoedd cyfleu eu diolch i’r Harbwr Feistr am ei waith.
Nodwyd
ymhellach y byddai bwiai parth y traeth yn ei le erbyn diwedd mis Mai. Derbyniwyd archwiliadau gan Ty’r Drindod a
chynhaliwyd cyfarfod yn ddiweddar lle mynegwyd pryder ynglyn a’r elfen
weinyddol o’r ddarpariaeth symud bwiau.
Cadarnhawyd
y byddai’r angorfeydd yn cael eu gosod yn yr wythnosau nesaf gan y contractwr
lleol, a phwysleiswyd yr angen i bob perchennog angorfa fod yn berchen ar y
dystysgrif priodol. Cadarnhawyd
ymhellach bod y tystysgrifau priodol mewn trefn gan y contractwr yn unol a chanllawiau
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).
Mewn ymateb
i bryder ynglyn a newidiadau yn y sianel ac o ganlyniad y lleihad yn y gofod
sydd ar gael i gychod fedru angori, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig
y byddai’n rhaid derbyn na fyddai rhai cychod yn gallu mynd yn ol i’r un
lleoliad ac y byddir yn gorfod addasu’r lleoliad i’r math o gwch yn nhermau hyd
a dyfnder, a.y.b.
Gofynnwyd a
fyddai modd i’r Harbwr Feistr dynnu lluniau fel bo modd cymharu fel mae’r
blynyddoedd yn mynd heibio. Mewn ymateb,
eglurwyd bod cwmni Mark Roberts yn gwneud archwiliadau i’r Gwasanaeth Morwrol
yn hyn o beth.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(C)
Cyllidebau Harbyrau
(i)
Cyflwynwyd
crynodeb o’r sefyllfa ariannol i’r Aelodau hyd at 29 Chwefror 2016 ac fe
dywyswyd hwy drwy’r wybodaeth gan nodi’r pwyntiau canlynol:
(ii)
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglyn a nifer o gychod sydd wedi cofrestru, nododd yr Harbwr
Feistr y rhagwelir y bydd 77 gyda 70 eisoes wedi cwblhau’r ffurflenni cofrestru
perthnasol cyn diwedd Chwefror. Nodwyd
mai 6 cwch sydd ddim yn dod yn ôl.
(iii)
O
safbwynt ffioedd, nodwyd cynnydd chwyddiant o 1%.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(D) Gwelliannau
(i)
Ansawdd Dŵr Ymdrochi
Adroddodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod ansawdd y dwr ymdrochi yn bwysig iawn i
Aberdyfi o ystyried y nifer o weithgareddau sydd ar gael. Tynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol:
Yn deillio
o’r uchod, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol o’r Pwyllgor:
(a) Bod y faner goch yn chwifio ar hyd
yr amser ac oherwydd hyn yn lleihau ei phwrpas ac o ganlyniad nid yw
unigolion yn cymryd sylw o’r peryglon i ymdrochi.
(b) Bod
y faner goch yn gydnabyddedig i rybuddio unigolion y byddent yn ymdrochi ar
risg eu hunain
(c) A
fyddai gosod arwyddion wrth ymyl y faner yn fwy priodol?
(d) Mynegwyd pryder enfawr gan y
Cadeirydd ynglyn a dynodi Traeth y Fynwent yn draeth ar gyfer ymdrochi yn
enwedig gan bod y traeth allan o’r golwg.
Nodwyd ymhellach bod y Parc Cenedlaethol wedi mynedi pryder yn ogystal
oherwydd lleoliad cyfleusterau addas.
(e) Os yw wedi cael ei ddynodi, nodwyd
bwysigrwydd i arddangos y risgiau i’r cyhoedd o’r cerrynt terfol sydd yn y
lleoliad yma.
Mewn
ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ei fod wedi cynnal
trafodaethau gyda Chyngor Tref Tywyn ynglyn a mater tebyg ar draeth Tywyn ac os
oes potensial i wneud unrhyw beth arall i dynnu sylw at y risgiau o’r cerrynt
terfol, byddir yn ei groesawu ond pwysleiswyd yr angen i ddiogelu’r cyhoedd yn
enwedig o gofio bod cyflymder y llanw yn 6-8 (knot) milltir fôr ar draeth
pentref Aberdyfi. Fodd bynnag, tra’n derbyn y sylwadau bod yn rhaid i unigolion
gymryd cyfrifoldeb dros eu hunain hefyd. Tynnwyd y faner goch i lawr yn gyfan
gwbl yn Abermaw ond bu’n rhaid ei rhoi yn ôl ar gais y Cyngor Tref oherwydd
pryder o’r risg i’r cyhoedd.
Esboniodd
Aelod bod y Bad Achub eu bod yn ystyried diogelwch yn ddifrifol bwysig ac yn awyddus
i leihau unrhyw risg posibl i’r cyhoedd.
Roedd yr
RNLI wedi bod yn trafod materion o safbwynt eu gwaith achub ac un o’r prif
faterion oedd sut i ymdrin gyda phroblemau’r llanw, y faner goch a hefyd sut i
wneud pobl yn ymwybodol o gerrynt terfol a beth i’w wneud. Roedd yr RNLI yn hapus i weithio gydag
unigolion, Cyngor Gwynedd a Chynghorau Cymuned i lunio arwyddion priodol, i roi
mwy o awdurdod i’r wybodaeth ac i’w gosod mewn mannau priodol. O safbwynt Traeth y Fynwent, oedd hi’n iawn
annog pobl i fynd yno i nofio gan fod yna faterion oedd yn rhaid delio gyda hwy
yno. Byddai yn briodol gosod arwyddion
ar y llwybr pren yn Aberdyfi gyda ychydig mwy o wybodaeth am y llanw. Roedd llawer o’r arwyddion ar draethau ble
roedd achubwyr bywyd a nid oes gennym y cyfleusterau yma yn
Nhywyn/Aberdyfi. Roedd yr RNLI yn hapus
i drafod y mater gyda Chyngor Tref Tywyn a Chyngor Cymuned Aberdyfi i ddatrys
hyn ac i gael arwyddion priodol a gallai’r RNLI dalu am fwyafrif y gwaith.
Croesawir
trafodaethau a chydweithio gyda’r RNLI yn arbennig i ddatrys ymwybyddiaeth
unigolion o’r hyn a olygir drwy chwifio’r faner goch. Rhaid bod yn wyliadwrus o’r trefniadau yn
enwedig pan nad oes unigolyn cymwysedig ar draethau’r Sir i awdurdodi pryd a
phan fydd yn rhaid chwifio’r faner goch.
Penderfynwyd: Derbyn
cynnig y Bad Achub i gynnal trafodaethau pellach gyda Chyngor Tref Tywyn,
Cyngor Cymuned Aberdyfi a’r swyddogion priodol o’r Gwasanaeth Morwrol, ar y
ffordd orau ymlaen i ddatrys yr uchod.
(ii)
Rheolaeth Traeth 2016
Adroddodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig o safbwynt y toriadau ariannol a wynebai’r
Cyngor, bod y gwasanaeth Harbwr yn cael ei warchod ond penderfynwyd gwneud
toriadau i’r gyllideb traethau drwy reoli traethau Baner Las a Baner Werdd yn
unig. Golygai hyn na fyddai
goruchwyliaeth traeth yn Aberdyfi y flwyddyn hon ac y byddai’n ofynnol i staff
yr Harbwr ymdopi a hyn.
Mewn
ymateb, nododd y Cadeirydd bod pob gwasanaeth yn gorfod gwneud arbedion ac y
byddai’n rhaid gwneud y gorau o’r gwasanaethau hynny sydd ar gael.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(iii)
Wal y Cei
Cyflwynwyd
i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod adroddiad, er gwybodaeth, gan Ymgynghoriaeth
Gwynedd ar gyflwr wal y cei ac roedd yn ymddangos bod hyd at 6 mlynedd ar ôl yn
oes wal y cei. Esboniodd yr Uwch Reolwr
Economi a Chymuned y cyflwynwyd cais i’r Parc Cenedlaethol ond bod oedi wedi
digwydd gan i’r Parc ofyn am wybodaeth pellach yn benodol am yr agweddau amgylcheddol
o’r cynllun ac fe fydd angen comisynu gwaith i baratoi’r wybodaeth. Er bod hyn yn siomedig, gellid dadlau bod
hawliau gan yr awdurdod harbwr i fynd ymlaen a’r cynllun beth bynnag.
O safbwynt
ariannu’r cynllun, fel rhan o gais Cyngor Gwynedd, bod cei Aberdyfi wedi ei
gynnwys fel blaenoriaeth ac roedd trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda
Llywodraeth Cymru. Un o brif ofynion y
rhaglen ydoedd adroddiad gwerthuso prosiect (project appraisal report) ar gyfer
pob cais. Ei bwrpas yw dangos bod yr holl
opsiynau wedi cael ystyriaeth a bod y cynllun yn cynnig gwerth am arian.
Derbyniwyd
newyddion cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru eu bod yn fodlon ariannu yr adroddiad
gwerthuso prosiect yn y swm o oddeutu £20,000 o Gyllideb Arloesol Arfordirol
(Coastal Innovative Fund). Croesawyd y
cynnig anffurfiol ac disgwylir am gadarnhad ffurfiol dros y dyddiau nesaf. Pwysleiswyd yr angen i’r adroddiad gwerthuso
prosiect gydymffurfiol â’r cais cynllunio.
Bwriedir symud ymlaen gyda’r cais cynllunio beth bynnag oherwydd y
byddai’n anodd rhagweld y byddai’r adroddiad gwerthuso prosiect yn adnabod
opsiwn arall.
O safbwynt
rhaglen ariannol, nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod grantiau hyd at
80% o’r gost ar gael ond byddai angen darganfod 20/25% sy’n weddill. O ran y cyfnod debygol, pe byddai’r cais
cynllunio yn llwyddiannus, byddai 2018 yn darged ymarferol.
Yng
nghyd-destun yr adroddiad gerbron, bod y cynnwys yn rhoi peth gwybodaeth am y
risgiau tymor byr, bod 9 mlynedd ar ôl o oes i wal y cei. Serch hynny, pwysleiswyd bod y cei yn dod i
ddiwedd ei oes, a bod yn rhaid gwneud datrysiad.
Nododd
Aelod bwysigrwydd i nodi bod wal y cei, nid yn unig yn gwarchod yr harbwr, ond
hefyd pentref Aberdyfi ei hun.
Penderfynwyd: (a) Cymeradwyo, yn unfrydol, i gefnogi’r
cais ac i symud ymlaen yn ddi-oed
gyda’r camau angenrheidiol ynghlwm i’r cais.
(b) Gofyn i’r Gwasanaeth Morwrol gylchredeg
gwybodaeth er sylw defnyddwyr yr Harbwr fel bo modd iddynt roi adborth i’r cynllun.
(c) Y byddir yn cyflwyno adroddiad cynnydd
i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol hwn.
(iv)
Datblygiad Adeilad y Bad Achub
Adroddwyd
bod y datblygiad uchod yn mynd rhagddo gyda rhagolygon i’w gwblhau cyn
gŵyl y banc ym mis Mai. Diolchwyd i bawb am y cydweithrediad a’u
cefnogaeth yn ystod y datblygiad ac fe fyddir yn parhau i gydweithio gyda’r
Harbwr Feistr.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(v)
Cais Cynllunio – Canolfan Ymwelwyr,
Aberdyfi
Cyfeiriwyd
at gais cynllunio gan Barc Cenedlaethol Eryri i wella adeilad presennol
Canolfan Croeso Aberdyfi yn ogystal a rhannol newid defnydd i A3 er mwyn rhoi
cyfle i ddatblygu rhan o’r adeilad ar gyfer mentrau busnes er mwyn cynhyrchu
incwm ychwanegol.
Nodwyd y
byddai’n ofynnol cadw rheolaeth ar y datblygiad gan na fyddir yn awyddus i weld
byrddau / cadeiriau fel rhan o’r caffi arfaethedig yn cael eu gosod ar draws y
cei, yn enwedig o safbwynt iechyd a diogelwch.
Hyderir y
bydd y Parc Cenedlaethol yn cysylltu gyda’r swyddogion perthnasol pan yn penodi
contractwyr, er mwyn medru trafod trefniadaeth drwy’r mynedfa, cadw rheolaeth,
a.y.b.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol:
(a) Awgrymwyd a fyddai gwell defnydd o
hanner yr adeilad yn fwy adeiladol ar gyfer lleoliad i’r pysgotwyr masnachol
fedru prosesu, gweithredu arddangosfa bychan o fywyd môr lleol. Nodwyd ymhellach bod Harbwr Aberdyfi yn
harbwr gweithredol traddodiadol a’i fod yn anodd i’r pysgotwyr fedru gwneud
bywiolaeth ac fe fyddai cael lleoliad pwrpasol iddynt yn ddelfrydol. Apeliwyd ar y Pwyllgor Ymgynghorol i gysylltu
a Mr Huw Evans, Cynrychiolydd Cymdeithas Pysgotwyr Bae Ceredigion os oes ganddynt
unrhyw awgrymiadau o safbwynt lleoliadau addas ar gyfer menter o’r fath.
(b) O safbwynt y Gwasanaeth Morwrol,
nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal hefo’r pysgotwyr masnachol i wyntyllu
opsiynau ar gyfer cael llecyn pwrpasol.
(c) Bod newid y defnydd yn fodd i gadw’r
adeilad fel Canolfan Croeso
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(vi)
Rheolaeth Gwastraff Compownd
Aberdyfi
Adroddodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig iddo ymweld a’r safle uchod a phryderir am y
gwastraff sydd oddi fewn i’r compownd sydd yn llygru’r safle. Amcangyfrifir cost o oddeutu £6-£9,000 i
glirio’r compownd a hyderir y gellir gwneud hyn cyn mis Mai. Ymysg y gwastraff sydd oddi fewn y safle,
roedd deunydd pysgota sydd heb fod oddi ar y safle ers blynyddoedd lawer. Apeliwyd i Mr Huw Evans drafod gyda
physgotwyr i ddwyn i’w sylw anfodlonrwydd y Gwasanaeth Morwrol a’r angen i
glirio’r safle yn ddi oed. Rhybuddwyd byddai unrhyw offer di ddefnydd yn cael
ei waredu oni bai fod yr offer wedi ei adnabod fel denydd angen ei gadw gan y
pysgotwyr.
Adroddodd
Mr Desmond George bod gan y Clwb Hwylio offer yn y compownd ac y byddai’r Clwb
yn barod i gydymffurfio ac i gyfrannu tuag at peth o’r gost i glirio eu heiddo
oddi yno. Addawodd y byddai’n ysgrifennu at aelodau’r Clwb Hwylio i drefnu hyn.
Awgrymodd y
Cadeirydd a fyddai’n syniad i ail-godi ffens bwrpasol a giatiau i rwystro
unigolion daflu gwastraff i’r safle fel y gellir cael gwell rheolaeth yno.
Mewn ymateb
i ymholiad ynglyn a dynodiad y safle, cadarnhawyd mai Cyngor Gwynedd oedd yn
gyfrifol am y safle.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod a chymerdwyo i gynrychiolwyr y mudiadau perthnasol apelio i’w
haelodau gynorthwyo drwy glirio’r safle yn ddi-oed.
(DD) Trefniadau Staff Gwanwyn / Haf 2016
(i)
Hysbysebwyd
am swydd Cymhorthydd Harbwr i Aberdyfi ac roedd y Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig yn ffyddiog y byddai penodiad wedi ei wneud ac yn weithredol erbyn cannol
mis Ebrill.
(ii)
O
safbwynt y rhaglen waith cynnal a chadw, bwriedir
·
rhoi
golau ar y bwi Fairway
·
creu
llecyn i gadw’r ôl-gerbyd
·
trwsio’r
slabiau ar y cei
·
trwsio’r
llwybr pren
(iii)
Nododd
Aelod bwysigrwydd i atgyweirio’r llwybr pren oherwydd pe na fyddai’n bodoli,
byddai bwlch i’r môr ac ni fyddai’r cwrs golff yn bodoli ychwaith.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(E) Ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyflwynwyd,
er gwybodaeth, lythyr a dderbyniwyd dyddiedig 19 Ionawr 2016 gan Cyfoeth
Naturiol Cymru ynglyn ag Ardaloedd Cadwraeth Arbennig arfaethedig ar gyfer llamhidyddion
yr harbwr ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig arfaethedig newydd ac estynedig ar
gyfer adar y môr.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
Dogfennau ategol: