Mater - penderfyniadau

15/10/2019 - ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL

1)    Derbyn  yr Adroddiad Monitro Blynyddol Terfynol yn Atodiad 1 ar gyfer ei gyflwyno ymlaen i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2019.

 

2)    Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ymgymryd ag unrhyw newidiadau golygyddol a gweinyddol terfynol i’r Adroddiad Monitro Blynyddol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru

 

3)    Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet Amgylchedd  i ymgymryd ag unrhyw newidiadau sydd yn deillio o faterion sydd yn codi gan Gyngor Sir Ynys Môn.