Nodi’r
bwlch posibl yng nghyllideb 2020/21 a chefnogi ymdrechion yr Arweinydd a
swyddogion i sicrhau opsiynau ariannu addas gan Lywodraeth Cymru.
Oherwydd
y colledion ariannol ym mlwyddyn gyntaf (2019/20) Byw’n Iach yn sgil Covid-19,
a’r rhagdybiaeth y bydd colledion pellach yn parhau yn 2020/21 am yr un rheswm,
fod y Cabinet yn cadarnhau
- Ei fod yn fodlon darparu y gefnogaeth ariannol angenrheidiol i
gynnal Gwasanaethau Cwmni’n Byw’n
Iach yn y man cyntaf hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21.
- Awdurdodi’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad a'r Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Economi a Chymuned, ac yn unol â’r
ddarpariaeth yn y Cytundeb gyda Chwmni
Byw’n Iach (Atodlen 4), i
ddarparu llythyr o sicrwydd i’r cwmni a chytuno ar amodau a chynnwys y
gefnogaeth.
- Fod y Cabinet yn derbyn adroddiad
penodol ar y trefniadau fel rhan o adroddiadau adolygu cyllidebau y
Cyngor