Bod y pwyllgor
craffu yn parhau i bryderu am y sefyllfa, ac felly’n cyfeirio’r mater yn ôl i’r
Cabinet i’w ail-ystyried am y rhesymau canlynol:
·
Oherwydd
sefyllfa COVID a chanllawiau cyfreithiol a pholisïau’r Adran Addysg, nid yw’n bosib’
cynnal cyfarfodydd yn y ffordd arferol, ac mae’n amhosib’ cael cyfarfodydd o
gwbl gyda rhai unigolion sydd â diddordeb cryf yn y mater. Mae hefyd yn
amhosib’ cael cyfarfodydd arferol cyhoeddus yn y gymuned i drafod ac ymateb i’r
ymgynghoriad.
·
Roedd
y Pennaeth i ffwrdd o’i gwaith yn ystod y cyfnod, ac mae’n parhau i fod i
ffwrdd. Gan mai’r pennaeth parhaol sy’n
gwybod orau am sefyllfa’r ysgol, byddai parhau gyda’r broses tra mae hi’n
parhau i fod i ffwrdd yn annheg i’r ysgol a’r gymuned.
·
Cred
rhai na ddylid cau ysgolion bach heb graffu ar y penderfyniad.
Rhoddwyd caniatâd i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Medi 2021 ymlaen.