Mater - penderfyniadau

17/11/2020 - DATBLYGIADAU A CHEFNOGAETH I AELODAU DROS Y CYFNOD COVID AC I'R DYFODOL.

 

PENDERFYNIAD

 

(a)        Derbyn yr adroddiad.

(b)       Cytunwyd bod angen trafodaethau ymhellach ar y ffordd ymlaen wedi i'r aelodau leisio eu barn ar ffurf cyfarfodydd y dyfodol.

 

Rhesymau:

 

Yn dilyn trafodaeth ar ddulliau cyfarfod presennol ac ar gyfer y dyfodol, mynegwyd dymuniadau i weld rhai pwyllgorau arbennig yn cwrdd wyneb i wyneb fel bo angen.

 

Ystyriwyd bod y dull presennol yn gyfleus mewn sawl ffordd wrth arbed amser teithio a  chostau, fodd bynnag roedd teimlad ei bod yn hanfodol cwrdd yn gorfforol mewn rhai achosion. Derbyniwyd y sylwadau o'r drafodaeth agoriadol a bydd y sylwadau yn cael eu cyflwyno i drafodaethau mewnol pellach.