Awdurdodi gwneud Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) mewn
perthynas â Chynllun Gwella Ffordd Llanbedr yr A496.
Awdurdodi Pennaeth yr Adran Amgylchedd mewn ymgynghoriad ag
Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol i gaffael yr
holl fuddiannau angenrheidiol yn y tir a nodir yn Atodiad 5 yr adroddiad i
gyflawni Cynllun Gwella Ffordd Llanbedr yr A496 a, lle bo angen cymryd yr holl
gamau angenrheidiol i gaffael y buddion hynny trwy gyfrwng CPO gan gynnwys
dilyn ei gadarnhad gyda Gweinidogion Cymru pe bai'r Cyngor yn methu â dod i
setliad wedi'i negodi ar gyfer prynu'r buddion hynny o fewn amserlenni'r
cynllun.