skip to main content

Mater - penderfyniadau

11/01/2021 - Application No C20/0018/13/LL - Land Near Llain Y Pebyll, Bethesda, LL57 3NQ

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau isod:-

 

1.            5 mlynedd.

2.            Yn unol â’r cynlluniau.

3.            Llechi naturiol i’r toeau.

4.            Cytuno gydag edrychiadau allanol y tai gan gynnwys y paneli solar.

5.            Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir o’r anheddau preswyl.

6.            Amodau Priffyrdd yn ymwneud a darparu llecynnau parcio, ffordd y stad a llwybrau troed cysylltiedig.

7.            Cyflwyno rhaglen o waith archeolegol i’w gytuno gyda’r ACLL cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle.

8.            Rhaid cyflwyno adroddiad manwl ar y gwaith archeolegol, yn unol ag amod 7 i'w gytuno yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol o fewn 6 mis o gwblhau’r gwaith archeolegol.

9.            Amodau’r Uned Bioamrywiaeth yn ymwneud  a dim llystyfiant, coed na llwyni i’w clirio yn ystod y tymor nythu (1 Mawrth i 31 Awst); cyn i unrhyw waith ddechrau dylid cyflwyno cynllun i’w gymeradwyo gan yr ACLL i sicrhau na fydd ymlusgiaid yn cael eu niweidio yn ystod y gwaith adeiladu a bydd rhaid i’r cynllun hwn gael ei weithredu i lwyr foddhad yr ACLL; cyn i unrhyw waith ddechrau dylid cyflwyno Cynllun gwelliannau a Lliniaru Bioamrywiaeth i’w gytuno gyda’r ACLL a cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle rhaid cyflwyno Cynllun Difa Planhigion Ymledol Di-Cynhenid i’w gytuno gyda’r ACLL.

10.          Amod cydymffurfio gyda mesurau lliniaru o fewn y ddogfen Adroddiad Gwerthuso Ecolegol Rhagarweiniol.

11.          Amod cydymffurfio ac argymhellion a mesurau lliniaru sydd wedi eu cynnwys yn yr   Adroddiad Coed.

12.          Amod Uned Gwarchod y Cyhoedd parthed ymgymryd ag archwiliad halogiad safle.

13.          Amodau Llywodraeth Cymru parthed lleiniau gwelededd, draenio ac ail-wynebu’r pafin ger y safle.

14.          Sicrhau/cytuno  gyda chynllun tai fforddiadwy

15.          bod yr unedau yn fforddiadwy ar gyfer trigolion 55+ mewn oed

 

 

Nodiadau

 

  1. NODYN: Cyfarwyddir yr ymgeisydd i arwyddo Cytundeb o dan Adran 38, Deddf Priffyrdd, 1980 gyda'r Cyngor os yw'n bwriadu i'r estyniad i ffordd Llain y Pebyll gael ei fabwysiadu.

 

  1. NODYN:  Tynnir sylw'r ymgeisydd i lythyr Dwr Cymru ddyddiedig 11.02.20 a'r angen i sicrhau bod y datblygiad yn cydymffurfio â'r cyngor a gynhwysir ynddo.

 

  1.  NODYN: Tynnir sylw'r ymgeisydd i lythyr Wales and West Utilities dyddiedig 14.02.20 a'r angen i sicrhau bod y datblygiad yn cydymffurfio â'r cyngor a gynhwysir ynddo.

 

  1. NODYN: Tynnir sylw’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno system ddŵr cynaliadwy i’w gytuno gydag Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor.