Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth fod
Cyngor Gwynedd:
- Yn caniatáu dim disgownt ar ail gartrefi dosbarth A,
yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
- Yn caniatáu dim disgownt ac
yn codi premiwm o 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
- yn caniatáu dim disgownt i
gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn codi premiwm 100% ar
gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.