Mater - penderfyniadau
Cytunwyd i:
- ariannu’r bwlch cyllido ar gyfer Canolfan Dolfeurig (£600,000)
- ariannu’r bwlch cyllido ar gyfer safle cyn Dŷ’r Ysgol, Llanrug (£150,000), gan ad-ennill
rhan helaeth o’r buddsoddiad gwreiddiol drwy werthu’r tŷ a rhan o’r
tir ar gyfer gwireddu cynlluniau tai fforddiadwy i drigolion lleol a
gwneud gwelliannau i’r ysgol gynradd
- ddarparu £2m pellach er mwyn cychwyn ar y gwaith o
adeiladu unedau diwydiannol yn y sir
- aros i weld beth fydd canlyniad trafodaethau gyda
Llywodraeth Cymru am y Prom Abermaw cyn ystyried
unrhyw ddyraniadau pellach yn y Cynllun Asedau.