1. Mabwysiadu'r datganiad sefyllfa arfaethedig
yn adran 5.1 o’r adroddiad ar sut y bydd prosiectau'r Cynllun Twf yn cyflawni
yn erbyn dyheadau rhanbarthol a dyheadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
ar newid hinsawdd ac ecolegol, gyda’r addasiadau a ganlyn:-
·
Diwygio’r
ail bwynt bwled i ddarllen “cyflawni o
leiaf 40% yn llai o garbon corfforedig”.
·
Diwygio’r
trydydd pwynt bwled i ddarllen “cyflawni o
leiaf 10% o fudd net ar gyfer bioamrywiaeth”.
·
Dileu’r
frawddeg ddiwethaf, sef “Bydd y Swyddfa
Rheoli Portffolio yn gweithio gydag arianwyr prosiectau i gyflawni’r datrysiad
fforddiadwy gorau ar gyfer pob prosiect”.
2. Nodi y bydd gofyn i holl brosiectau'r Cynllun
Twf amlinellu i ba raddau y byddant yn cyflawni yn erbyn y datganiad sefyllfa
ac unrhyw fesurau lliniaru perthnasol fel rhan o broses gymeradwyo'r achos
busnes.
3. Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio
bennu'r modd gweithredu a mesur priodol ar draws y portffolio a nodi y bydd
angen comisiynu arbenigedd allanol i gefnogi'r Swyddfa Rheoli Portffolio.