(a) Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar
gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel a nodir yn yr atodiad i’r adroddiad i’r
Cyngor, ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau yn unol â’r hyn a nodir yn yr
atodiad.
(b) Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaeth Democratiaeth wneud
penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â
dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.
(c) Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail
cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:
Pwyllgor Craffu Addysg ac
Economi Grŵp Annibynnol
Pwyllgor Craffu Cymunedau Grŵp Plaid Cymru
Pwyllgor Craffu Gofal Grŵp Annibynnol