Mater - penderfyniadau

12/04/2021 - Application No C20/1065/22/AC - Cefn Graianog, Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SY

Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio C10D/0487/34/MW i ymestyn oes y gweithrediadau mwynau sy'n ymwneud â gweithrediad tair lagŵn dyddodion ategol a'r gwaith cysylltiedig am gyfnod o 4 blynedd ychwanegol:

 

Bydd y gwaith o echdynnu, prosesu a dosbarthu mwynau yn dod i ben erbyn 31 Rhagfyr 2024 ac erbyn hynny bydd yr holl weithfeydd a pheiriannau wedi'u gwaredu o'r safle; bydd y gwaith adfer wedi'i gwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2025.

 

Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i'w atodi i'r daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol penodol o fewn eu cylch gwaith.

 

Amodau cynllunio fel y presennol mewn perthynas â'r rheolaethau rheoli a ganlyn;

 

·        Hyd y cyfnod gweithio,

·        Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a ganiateir, adeiladau, strwythurau, ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys,

·        Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd;

·        Oriau Gweithio,

·        Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus,

·        Ymdrin â phridd a hwsmonaeth,

·        Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau dŵr lleol,

·        Adfer i ddefnydd cymysg amaethyddol a chadwraeth natur,

·        Ail-adfer ffiniau caeau,

·        Lliniaru a chofnodi archeolegol,

·        Mesurau ôl-ofal a chyfarfodydd blynyddol ar gyfer defnyddiau amaethyddol,

rheoli bioamrywiaeth a rheoli rhywogaethau planhigion anfrodorol,

·        Rheolaethau llwch a chyfyngu ar sŵn yn yr un modd ag y gwneir eisoes, ond hefyd, gosod larymau sŵn gwyn i'w gosod ar beiriannau'r gwaith yn y wyneb gweithio.