Mater - penderfyniadau
Gwrthod
- Mae’r tŷ bwriedig
yn groes i faen prawf 13 o bolisi PS5, maen prawf 1 o bolisi PCYFF2 a
meini prawf 1 a 10 o bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn 2017 o ganlyniad i faint a graddfa a dyluniad yr annedd
newydd yn benodol ei uchder, swmp, lefelau tir a llawr sy’n golygu nad
yw’r bwriad yn cydweddu a phatrwm adeiladu’r ardal.
- Mae’r tŷ bwriedig
yn groes i faen prawf 13 o bolisi PS5, maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 a
maen prawf 10 o bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd
a Môn 2017 o ganlyniad i faint a graddfa a dyluniad yr annedd newydd yn
benodol ei uchder, swmp, lefelau tir a llawr a lleoliad y ffenestri ar yr
edrychiad gogleddol sy’n golygu fod y bwriad yn achosi effaith andwyol
sylweddol ar fwynderau a phreifatrwydd trigolion eiddo sydd gyfochrog y
safle.