Mater - penderfyniadau

13/09/2021 - RHEOLI SEFYDLIADAU RHYW - DEDDF LLYWODRAETH LEOL (DARPARIAETHAU AMRYWIOL) 1982

Y Pwyllgor yn argymell i’r Cyngor Llawn:

 

·         Fabwysiadu ledled y Sir Atodlen 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009, gan ddod yn weithredol ddim cynt na 1 Rhagfyr 2021

 

·         Cyfarwyddo’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gyhoeddi’r hysbysebion statudol ynghlwm â’r penderfyniad i fabwysiadu am 2 wythnos yn olynol, gyda’r cyntaf ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn y dyddiad y daw'r penderfyniad i rym

 

·         Dirprwyo’r materion o bennu ffioedd, gosod amodau safonol a chynllun prosesu ceisiadau i’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol