Bod y
pwyllgor craffu yn cyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’w ail-ystyried ar y
sail na chafwyd ymateb digonol i’r ail reswm dros alw i mewn, sef:-
“2.Nid yw’r Adroddiad yn cymryd
i ystyriaeth ddyfodol Tai a Gwaith fydd yn dod i rym yn y Pentref .
(a) Mae Datblygiad Newydd o
godi Gwesty Newydd fydd yn creu beth bynnag 40 o swyddi llawn amser yn yr ardal
- mi fydd y Gweithwyr a’u Teulu angen adnoddau yn cynnwys Addysg i ein
plant.
(b) Mae Llywodraeth Cymru, yr
Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai (sydd yn berchen tir yn y
pentref) ar hyn o bryd yn edrych i godi mwy o dai - mae Llywodraeth Cymru wedi
dweud fod grant ar gael i ddatblygu y tir yma i godi o bosib 15 o dai.
Mae’r Gymdeithas tai wedi
cadarnhau fod cynlluniau wedi gwneud yn barod ar safle Bryn Garmon.
Nid yw’r adroddiad yn sôn dim
am y cynllun newydd gan yr Adran Tai ac Eiddo a dim am y datblygiadau sydd yn
mynd ymlaen yn y Pentref ac felly nid yw’r Adran Addysg wedi ymateb i ofynion
Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol wrth beidio gwneud hyn.”
Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd
statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion
yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a
Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion
11/2018.