Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag
at wireddu cynlluniau
arbedion 2021/22, 2020/21 a blynyddoedd blaenorol.
Cytunwyd i gynnal adolygiadau ar y cynlluniau arbedion sydd
heb eu gwireddu ynghyd a chynlluniau y flwyddyn nesaf i sicrhau fod modd eu
cyflawni neu os oes angen chwilio am gynlluniau amgen.
Nodwyd bod effaith
Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi
rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn
ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau
efo’r trefniadau herio
perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng.