PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:
- 5 mlynedd.
- Yn unol â’r
cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.
- Cydymffurfio a’r
cynllun tirweddu ynghyd a gwaith cynnal a chadw i’r dyfodol.
- Sicrhau
cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r anheddau fforddiadwy e.e. meini
prawf meddiannaeth, amserlen a threfniadau i sicrhau bydd yr unedau yn
fforddiadwy yn bresennol ac am byth.
- Cydymffurfiaeth
gydag argymhellion y dogfennau Arolwg Ecolegol ac Asesiad Effaith
Coedyddiaeth.
- Cytuno manylion enw
Cymraeg ar gyfer y datblygiad ac ar gyfer yr anheddau oddi fewn y
datblygiad cyn i’r anheddau preswyl cael eu meddiannu at unrhyw ddiben
ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.
- Cyfyngu ar oriau
gweithio i 08:00-18:00 Llun i Wener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y
Sul a Gŵyl y Banc.
- Cyflwyno Datganiad
Dull Adeiladu i’r ACLL i gynnwys mesurau lleihau sŵn, llwch a
dirgryniad, parcio cerbydau gweithredwyr y datblygiad, llwytho/dadlwytho
nwyddau, storio cyfarpar offer ar y safle, ffensys diogelwch, cyfleusterau
golchi olwynion a chynllun ail-gylchu/gwaredu sbwriel.
- Amodau perthnasol
gan yr Uned Drafnidiaeth gan gynnwys sicrhau gwelededd o 33m i’r
de-orllewin o’r brif fynedfa.
- Cytuno gyda
gorffeniadau allanol yr anheddau.
- Llechi naturiol i’r
toeau.
- Cytuno ar ffens acwstig
- Cytuno ar gyfarpar
chwarae i plant.
Nodyn: Angen cyflwyno cais system ddraenio
cynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.