Ystyriwyd y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad statudol a
gynhaliwyd ar gynyddu capasiti Ysgol Chwilog ynghyd
â’r ymatebion i’r sylwadau hynny, a phenderfynwyd:
·
Cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol a chynnal
cyfnod gwrthwynebu, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i ehangu safle’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95 o 1 Medi 2023, sef cynnydd o
dros 25% o’r capasiti presennol.