Cytunwyd ar y dyddiadau a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer
cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24 ac addasiad i
ddyddiad y cyfarfod Mawrth 2023.
Yn ogystal cytunwyd i Brif Weithredwr y
CBC drefnu cyfarfod anffurfiol efo Arweinyddion a Prif Weithredwyr i drafod y
ffordd ymlaen gyda Chyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.