1.
Cymeradwywyd Papur Cyfiawnhau Cyflwyno
Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Atodiad 1.
2.
Cymeradwywyd gwneud Cyfarwyddyd Erthygl 4 sydd
ddim yn dod i rym yn uniongyrchol ond wedi 12 mis (Atodiad 2) ar gyfer Ardal
Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd er mwyn diddymu’r hawliau datblygu a ganiateir
ar gyfer y defnyddiau canlynol:
a.
Newid defnydd o C3 (prif gartref) i C5 (ail
gartel) neu C6 (llety gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol;
b.
Newid defnydd o C5 (ail gartref) i C6 (llety
gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol;
c.
Newid defnydd o C6 (llety gwyliau tymor byr) i
C5 (ail gartref) a defnyddiau cymysg penodol.
3.
Cytunwyd bydd rhybudd o’r Cyfarwyddyd Erthygl 4
ar y ffurf yn Atodiad 3 i’w gyhoeddi a chyflwyno yn unol a’r gofynion (gan
dderbyn nad yw yn ymarferol i gyflwyno yn unigol i bob perchennog a meddiannwr
o fewn yr ardal oherwydd ei maint) am gyfnod o ddim llai na chwe wythnos er
caniatáu i’r cyhoedd gyflwyno ymatebion i’r bwriad.
4.
Cytunwyd i dderbyn adroddiad pellach i ystyried
unrhyw ymatebion a dderbyniwyd (yn dilyn y cyfnod ymgysylltu) er mwyn gwneud y
penderfyniad i gadarnhau y Cyfarwyddyd Erthygl 4.
5.
Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd
mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i wneud addasiadau
golygyddol i’r rhybudd cyn ei gyhoeddi.