Mater - penderfyniadau
- Derbyn y newidiadau arfaethedig i’r Drefn Datrys Lleol i
adlewyrchu dyfodiad y dyletswydd statudol newydd ar gyfer Arweinyddion
Grwpiau, a’i hargymell i’r Cyngor llawn.
- Cefnogi bwriad y Swyddog Monitro i fynnu defnydd
ffurflen gwynion fel rhan o’r gyfundrefn Datrys Lleol, fel sydd wedi’i
chynnwys yn Atodiad 2 i’r adroddiad, gyda’r ychwanegiad bod y ffurflen yn
gofyn i’r achwynydd ddatgan pa allbwn mae ef/hi yn geisio fel canlyniad
i’r gŵyn.