Mater - penderfyniadau

09/11/2023 - GRŴP TASG A GORFFEN CYNLLUN AWTISTIAETH GWYNEDD

 

  1. Bod y Cynghorwyr Dawn Jones a Gwynfor Owen (sydd â chysylltiad â’r maes awtistiaeth) yn cyflwyno ceisiadau am oddefebau er mwyn caniatáu iddynt gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth.
  2. Gofyn i’r Pwyllgor Safonau gynnal cyfarfod arbennig i ystyried ceisiadau am oddefebau gan y Cynghorwyr Dawn Jones a Gwynfor Owen.
  3. Ethol y Cynghorwyr Cai Larsen a Beth Lawton yn aelodau wrth gefn i gynrychioli’r Pwyllgor ar y Grŵp Tasg a Gorffen.