Mater - penderfyniadau

18/03/2024 - Application No C23/0793/40/DT Ty'n Llwyn, Llannor, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5UG

PENDERFYNIAD: Gwrthod.

 

1.     Ni fyddai maint, swmp, dyluniad na gorffeniad y datblygiad arfaethedig yn cyfleu na pharchu'r safle gan y byddai'n creu nodwedd anghydweddol annerbyniol ar ffurf a chymeriad y tirlun a'r ardal leol ac, felly, ar fwynderau gweledol yr ardal leol. Mae'r bwriad, felly, yn groes i ofynion meini prawf 1, 2 a 3 o Bolisi PCYFF 3 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd â'r cyngor a gynhwysir yn y ddogfen Nodyn Cyngor Technegol 12: Dylunio.