Mater - penderfyniadau
PENDERFYNIAD: Gwrthod
- Nid oes angen wedi ei brofi ar gyfer
codi annedd newydd yng nghefn gwlad agored ac felly nid yw’r bwriad yn
cydymffurfio gyda gofynion polisïau PCYFF 1 a PS17 o’r Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd â pharagraffau 4.2.37 - 38 o
Bolisi Cynllun Cymru a rhan 4.3 o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6:
Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy sy’n sicrhau mai dim ond
mewn amgylchiadau penodol ac eithriadol y gellir caniatáu tai newydd yng
nghefn gwlad agored.
- Fe fyddai’r datblygiad hwn yn niweidiol
i’r dirwedd gan achosi ymlediad trefol i safle tir glas yng nghefn gwlad agored.
Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn ychwanegu at neu wella cymeriad ac
ymddangosiad y safle ac ni fyddai'n integreiddio gyda'r hyn sydd o'i
gwmpas. Mae'r cais felly'n groes i ofynion Polisi PCYFF 3 Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.