1.
Cymeradwywyd
Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Di-wifr Uwch, yn amodol ar
gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â
hi, a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rhoi sylw i’r materion sy’n parhau a
nodir yn Adran 7 yr adroddiad, ac yn gwneud cais bod Achos Busnes Llawn yn cael
ei baratoi er mwyn i’r Bwrdd ei ystyried.
2.
Dirprwywyd
hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r
Is-gadeirydd, roi cymeradwyaeth terfynol o’r fanyleb caffael a’r meini prawf
gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael.
3.
Awdurdodwyd
i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog
Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn
i’w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais fel sail ar gyfer y trefniadau ariannu
terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant a
gaiff ei gytuno gan y Bwrdd ar y cam Achos Busnes Llawn.