1.
Bod Cynllun Lleol
Cyngor Gwynedd am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2025 yn parhau fel ag yr oedd
yn ystod 2024/25. Felly, bydd yr amodau canlynol
(a – c isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:
a) Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd
rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed
gweithio fel ei gilydd.
b) Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i
bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sy’n y Cynllun
Rhagnodedig.
c) Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a
hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y
Cynllun Rhagnodedig.
2.
Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad
gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2025/26,
ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun.